Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Diolch i Simon Thomas. Rydw i'n gallu cadarnhau ein bod ni yn dal i weithio ar yr amserlen. Rydw i eisiau bwrw ymlaen yn gynnar yn y flwyddyn newydd, ond nid wyf yn fodlon jest bwrw ymlaen heb wneud y gwaith. Un o'r pethau sydd wedi newid dros y mis diwethaf yw beth ddywedodd y Canghellor yn y gyllideb yn ôl ym mis Tachwedd, achos mae diddordeb nawr gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ym maes plastics hefyd. Rydw i jest eisiau cael mwy o wybodaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weld a oes rhywbeth yn y syniadau y maen nhw'n mynd i'w hystyried sy'n mynd i gael effaith ar y posibiliadau yr ydym ni yn bwrw ymlaen â nhw yma yng Nghymru.