Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Wrth gwrs, fel y dywedodd Simon Thomas, mae'n faes pwysig iawn, a hwn yw'r un, fel y dywedais wrth Suzy Davies, y mae'r cyhoedd wedi dangos y diddordeb mwyaf ynddo, ac mae Simon Thomas yn llygad ei le i dynnu sylw at y ffaith bod amcanion polisi gwahanol yn arwain at drethi gwahanol. Mae Deddf blastigau yn ymwneud â dylanwadu ar ymddygiad pobl, mae gan drethi eraill fwy o ddiddordeb mewn codi refeniw. Nid oes yr un ysgogiad yn sail i bob treth a dyna ran o'r hyn y bydd angen inni ei bwyso a'i fesur wrth wneud y dewis terfynol ynglŷn â'r dreth—y byddwn yn profi mecanweithiau Deddf Cymru drwy ei chynnwys yn y mecanweithiau newydd hynny.