Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n siŵr y byddwch yn cofio'r Canghellor Torïaidd ar y pryd yn dweud yn 2011 fod ei gyllideb yn ymwneud â gwneud yr hyn a allwn i gynorthwyo teuluoedd gyda chostau byw.
Ychwanegodd:
rydym eisoes wedi gofyn i bobl Prydain am yr hyn sydd ei angen, a heddiw nid oes angen i ni ofyn am ragor.
Wel, chwe blynedd yn ddiweddarach, mae llawer o bobl yn ein cymunedau yn dal i dalu'r pris am wleidyddiaeth cyni, ac ar sawl achlysur, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi mynegi eich pryderon ynglŷn ag effaith cyni. Felly, a allwch gadarnhau, yn wahanol i bolisïau'r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan, y bydd y polisïau a'r buddsoddiadau a wneir gan Lywodraeth Lafur Cymru yn parhau i gefnogi pobl sy'n byw mewn ardaloedd fel fy etholaeth i, Merthyr Tudful a Rhymni?