1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 6 Rhagfyr 2017.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith polisïau cyni ariannol Llywodraeth y DU ar Ferthyr Tudful a Rhymni? OAQ51421
Lywydd, dengys ymchwil Llywodraeth Cymru fod y newidiadau i fudd-daliadau a chredydau treth yn unig yn mynd â dros £900 miliwn y flwyddyn oddi wrth gartrefi tlotaf Cymru. Mae trigolion Merthyr Tudful a Rhymni ymhlith y rheini yr effeithir arnynt waethaf.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n siŵr y byddwch yn cofio'r Canghellor Torïaidd ar y pryd yn dweud yn 2011 fod ei gyllideb yn ymwneud â gwneud yr hyn a allwn i gynorthwyo teuluoedd gyda chostau byw.
Ychwanegodd:
rydym eisoes wedi gofyn i bobl Prydain am yr hyn sydd ei angen, a heddiw nid oes angen i ni ofyn am ragor.
Wel, chwe blynedd yn ddiweddarach, mae llawer o bobl yn ein cymunedau yn dal i dalu'r pris am wleidyddiaeth cyni, ac ar sawl achlysur, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi mynegi eich pryderon ynglŷn ag effaith cyni. Felly, a allwch gadarnhau, yn wahanol i bolisïau'r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan, y bydd y polisïau a'r buddsoddiadau a wneir gan Lywodraeth Lafur Cymru yn parhau i gefnogi pobl sy'n byw mewn ardaloedd fel fy etholaeth i, Merthyr Tudful a Rhymni?
Wel, Lywydd, credaf fod yr Aelod dros Ferthyr Tudful a Rhymni wedi gwneud cyfraniad pwysig iawn ar lawr y Cynulliad dros fisoedd lawer bellach, wrth iddi ddadlau'r achos dros fuddsoddi yn yr hyn a elwir ganddi'n wead cymdeithasol ein cymunedau—ffyrdd y gallwn geisio bod o gymorth i gadw'r rhwyd ddiogelwch y mae'r teuluoedd a ddisgrifiais yn dibynnu cymaint arni.
Gadewch i mi roi dwy enghraifft o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio'i wneud i gynorthwyo pobl yn ardaloedd Merthyr Tudful a Rhymni. Rydym wedi cynnal ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yma yng Nghymru. Golyga hyn nad oes yn rhaid i'r teuluoedd y mae eu budd-daliadau wedi eu rhewi neu eu torri a'u credydau treth wedi eu gostwng yng Nghymru roi eu dwylo yn eu pocedi ar yr un pryd i dalu'r dreth gyngor. Mae hynny'n costio £224 miliwn drwy Gymru gyfan, ond mae'n rhoi £5.7 miliwn yn uniongyrchol ym mhocedi'r teuluoedd hynny ym Merthyr Tudful, ac mae'n rhoi £13.6 miliwn yn uniongyrchol i mewn i incwm aelwydydd yr aelwydydd tlotaf yng Nghaerffili.
Ar yr un pryd, mae 1,592 o blant ym Merthyr Tudful a 2,925 o blant yng Nghaerffili wedi elwa o'n rhaglenni Dechrau'n Deg y llynedd. Dyma ddwy enghraifft ymarferol o'r ffordd y mae gwead cymdeithasol ein cymunedau yn cael ei amddiffyn a'i wella gan Lywodraeth Cymru, hyd yn oed ar adeg pan fo'r ymosodiadau gan Lywodraeth y DU ar eu llesiant a'u hincwm mor ddifrifol.