Band Eang Cyflymu Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 6 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:52, 6 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, a diolch hefyd am y ffaith ein bod wedi llwyddo i sicrhau cysylltedd cyflym i 94 y cant o safleoedd ym Mhontypridd. Fodd bynnag, mae'r 6 y cant o safleoedd sy'n weddill yn arwyddocaol iawn i nifer o fusnesau bach, ac mae ymdrechion i'w ddatrys wedi bod yn hynod ddyrys ac anodd. Tybed pa fath o gamau sy'n cael eu cymryd a pha flaenoriaeth y gellir ei rhoi i sicrhau bod darpariaeth y 6 y cant o safleoedd sy'n weddill yn cael ei datrys mewn gwirionedd.