Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Bydd hynny'n rhan fawr o sut y byddwn yn llunio'r prosiect olynol i Cyflymu Cymru, ac rwy'n credu bod gan yr Aelod nifer o broblemau penodol mewn ystadau diwydiannol, a bydd wedi clywed yr ateb a roddais i Darren Millar yn gynharach am rai o'r pethau rydym yn eu gwneud ar gyfer busnesau mewn ystadau diwydiannol. Mae nifer o weinyddion yn un o ystadau diwydiannol ardal yr Aelod yn Nhrefforest. Cefais gyfarfod gyda BT y bore yma, a dyna pam rwy'n gallu rhoi cymaint o fanylion i'r Aelod yn sydyn. Rydym yn deall bod cryn dipyn o broblem mewn perthynas â sut y mae'r tri'n gorgyffwrdd, felly, gyda'i ganiatâd, byddaf yn gofyn i BT gysylltu ag ef yn uniongyrchol i edrych ar rai o'r materion hynny. O ran y 6 y cant yn gyffredinol yng Nghymru, holl bwynt y rhaglen olynol £80 miliwn, Cyflymu Cymru 2, fydd edrych ar sut y gallwn roi sylw i'r bobl a gafodd eu hepgor o'r rhaglen gyntaf a beth yw'r ffordd orau o sicrhau ein bod yn cael y ddarpariaeth orau bosibl am ein harian.