Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Gwrandewais yn ofalus ar eich ateb, arweinydd y tŷ, a llongyfarchiadau ar eich penodiad. Ar draws ardal Canol De Cymru, lle mae Pontypridd, yn amlwg, yn un o'r trefi allweddol, ceir mannau anodd, gadewch i ni ddweud, a nodwyd bod 6 y cant o safleoedd ym Mhontypridd yn eu plith, ond gallai hynny fod yn unrhyw le ar draws rhanbarth Canol De Cymru. Clywaf eich bod wedi cael cyfarfod diweddaru gyda BT, ond mae'n fwyfwy rhwystredig, fel y gallwch ddeall ac fel rwyf wedi eich clywed yn dweud dro ar ôl tro, i'r busnesau a'r unigolion sydd wedi'u lleoli yn y mannau hynny. Pa fath o amserlen y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio arni, gyda BT, i geisio rhoi rhai o'r atebion hyn rydych wedi cyfeirio atynt ar waith fel y gellir lleihau'r 6 y cant hwnnw cymaint â phosibl yn ganran lai o'r boblogaeth nad ydynt yn gallu gwneud y cysylltiadau hynny? Ac yn y pen draw, yr hyn yr hoffai pawb ohonom ei weld yw cysylltedd o 100 y cant.