Brexit

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 6 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:42, 6 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Mae gweithwyr o dramor yn cyfrannu'n aruthrol i economi a chymdeithas Cymru. Mae ein papur, 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl', yn amlinellu'r fframwaith ar gyfer mudo yn y dyfodol sy'n diwallu anghenion Cymru ac yn cefnogi camau cadarn i weithredu deddfwriaeth cyflogaeth sydd heb ei ddatganoli. Ategir y dull hwn gan ein cod ymarfer i atal camfanteisio ar gyfer cyflogaeth foesegol yn y gadwyn gyflenwi.