Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
A gaf fi ddiolch i arweinydd y tŷ am yr ateb hwnnw? Ni waeth am ein safbwyntiau ar rinweddau Brexit, mae miloedd o weithwyr mudol yng Nghymru, gan gynnwys yn fy etholaeth fy hun, sy'n gwneud gwaith pwysig ac yn haeddu eglurder llwyr wrth i ni drafod ein trefniadau yn y dyfodol gyda'r UE. A fyddai arweinydd y tŷ yn cytuno, er bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi dogfen dechnegol ar gyfer dinasyddion yr UE sy'n gwneud cais am statws preswylydd sefydlog, sy'n awgrymu cyfnod gras o ddwy flynedd ar ôl Brexit, fod diffyg eglurder o hyd, yn enwedig mewn perthynas â theuluoedd, sy'n destun gofid i'r bobl o Gymru sy'n gweithio yn yr UE, yn ogystal â dinasyddion yr UE sy'n gweithio yn y DU? A fyddech yn cytuno hefyd fod hon yn risg economaidd ddiangen i les ein gwlad?