Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn aml ceir pobl ag anawsterau dysgu ymhlith y bobl agored i niwed sydd wedi eu caethiwo gan yr arferion ffiaidd hyn. Mae'n bwysig iawn bod pobl sy'n cael gwasanaeth fel atgyweirio eich to, cael eich dreif wedi'i wneud, eich car wedi'i olchi, yn cadw llygad ar y bobl hynny nad ydynt i'w gweld yn ffynnu yn y gwaith hwnnw, pobl sy'n ymddangos fel pe baent wedi'u hymyleiddio, ac sy'n swil ac yn amharod i gymryd rhan, gan y gallent yn hawdd fod yn bobl sydd wedi'u caethiwo yn y modd hwn.