Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Yn bendant. Bydd David Melding wedi fy nghlywed yn sôn am beth o'r gwaith rydym wedi'i wneud fel rhan o'r Bwrdd Gwaith Teg i edrych ar weithdrefnau gorfodi y gellid eu dwyn i Gymru ac a ddefnyddir gan awdurdodau lleol. Ar hyn o bryd, ceir awdurdod gorfodi yn y DU, sydd yng ngogledd Lloegr, ac sy'n cwmpasu'r DU gyfan. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn gweithio gyda'r adran honno yn Llywodraeth y DU i gael ychydig o awdurdodau peilot yng Nghymru i weld beth y gallwn ei wneud gyda gorfodi lleol er mwyn—oherwydd rwy'n credu'n bersonol fod llawer i'w ddweud dros gael rhai treialon gweladwy a chosbi pobl sy'n cymryd rhan yn hynny, fel rhwystr cadarn iawn i'r rheini sy'n credu y gallant wneud hyn heb eu cosbi. Hefyd, clywsoch fi'n sôn am yr hyfforddiant helaeth rydym yn ei gael. Rwy'n cytuno ag ef y byddai ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus o'r math hwnnw'n fuddiol iawn hefyd.