4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 6 Rhagfyr 2017.
1. Yn dilyn y diweddaraf mewn cyfres hir o gyhoeddiadau am gau banciau lleol, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gyflwyno banc cyhoeddus yn unol ag ymchwil gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru? 81
Diolch yn fawr, Lywydd. Mae Gweinidogion wedi bod yn galw'n gyson ar fanciau masnachol i gynnal rhwydwaith cryf o bresenoldeb canghennau yng Nghymru. Yr mater a ystyriwyd gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru oedd sefydlu banc cyhoeddus i flaenoriaethu datblygu economaidd. Bydd Banc Datblygu Cymru yn symud yr adroddiad hwnnw yn ei flaen yn awr.
Wel, mi fydd yr Ysgrifennydd Cabinet, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r cyhoeddiadau, a dweud y gwir, gan nifer o fanciau am gau canghennau ar draws Cymru, gan gynnwys yn fy etholaeth i. Gyda'r cyhoeddiadau diweddaraf yma, wrth gwrs, mae'r ffigwr o ganghennau a fydd wedi cau ers 2011 yng Nghymru nawr yn ymestyn i 186 o ganghennau. A dweud y gwir, mae pump o'r 10 ardal sydd wedi wynebu cau y mwyaf o ganghennau banc yng Nghymru, gan gynnwys sir Gaerfyrddin. Felly, mae yn greisis. Rydw i wedi darllen yr adroddiad, a oedd wedi'i gomisiynu, wrth gwrs, gan y Llywodraeth. Roedd e wedi cael ei gyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr economi yn sgil dadl fer gan Blaid Cymru ar fancio. Mae'r adroddiad—nid yw'n gwbl gywir dweud bod yr adroddiad ond yn ffocysu ar ddatblygu economaidd, achos mae e'n sôn am fodelau fel banc cymunedol Hampshire, sydd yn ymwneud â bancio cymunedol. Felly, a gaf i ofyn, os gwelwch yn dda, i'r Ysgrifennydd Cabinet: beth ydych chi'n mynd i'w wneud o ran yr argyfwng o ran banciau cymunedol ar gyfer dinasyddion Cymru, sy'n wynebu sefyllfa nawr, i ddweud y gwir, lle, yn rhannau helaeth o Gymru, nid oes gwasanaeth ariannol ar gael ar eu cyfer nhw o gwbl?
Llywydd, wrth gwrs rydw i yn ymwybodol o'r ffigurau a'r patrwm sydd wedi datblygu yma yng Nghymru.
Mae'n wir i ddweud bod yr adroddiad wedi edrych ar amrywiaeth o wahanol fodelau, ond roedd hi'n eithaf amlwg mai ei ystyriaeth bennaf oedd sut y gellid defnyddio banc cyhoeddus Cymru i lenwi bylchau yn yr economi ehangach, yn hytrach nag edrych ar enghreifftiau o sut y gellid datblygu dewisiadau eraill yn lle bancio stryd fawr ar gyfer cwsmeriaid sy'n dod i mewn o'r stryd. Mae'n cyfeirio at fodel Hampshire, er nad oedd yn edrych fel pe bai model Hampshire wedi gwneud y cynnydd y gobeithiai ei gychwynwyr y byddai'n ei wneud y tro diwethaf i mi ofyn am wybodaeth am ei weithrediad ymarferol.
Dywed adroddiad y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru y byddai cyflwyno unrhyw fodel yn 'heriol a chymhleth iawn' yma yng Nghymru. Felly, credaf nad yn y ddadl ar y banc cyhoeddus sy'n mynd rhagddi'n frwd yng Nghymru y gwelir yr ateb i'r datblygiadau y mae'r Aelod wedi tynnu sylw atynt yn gywir, ond yn hytrach mewn pethau eraill y gallem eu gwneud: sicrhau bod Swyddfa'r Post mewn sefyllfa dda i fabwysiadu ystod ehangach o weithgareddau bancio, gan ddefnyddio'r cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i'r rhwydwaith o swyddfeydd post yng Nghymru, sicrhau bod aelodaeth o undeb credyd ar gael ledled Cymru, a defnyddio'r bron i £0.5 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol rydym yn ei ddarparu ar gyfer undebau credyd eleni—yr wythnos hon bûm yn trafod gyda rhai sy'n ymwneud ag undebau credyd pa un a fyddai cyfalaf trafodiadau ariannol o ddefnydd iddynt ar gyfer wynebu rhai o'r heriau y mae'n rhaid iddynt eu goresgyn—a thrwy'r gweithgaredd hwnnw ar lefel y gymuned, i wneud yr hyn a allwn i sicrhau bod y gwasanaethau stryd fawr y mae pobl wedi bod yn eu defnyddio hyd yn hyn ym maes bancio, ond sydd, rhaid i ni gydnabod, yn cael eu defnyddio lai a llai ganddynt—fod gennym fynediad ar y stryd fawr o hyd ar gyfer y bobl sydd ei angen.
Ysgrifennydd y Cabinet, y ffigurau sydd gennyf fi yw bod 152 o fanciau wedi cau rhwng 2011 a 2016, gyda 20 yn rhagor i gau yn 2018—mae dau arall eto yn fy etholaeth, yn Nhrefforest a Thonysguboriau. Yr agwedd fwyaf pryderus ar hyn yw diffyg unrhyw gyfrifoldeb cymdeithasol neu gymunedol gan y banciau, hyd yn oed o ran yr ymgynghoriad mwyaf sylfaenol gyda'r cymunedau penodol hynny. Rwyf wedi cyfarfod yn gyson â banciau bob tro y cyhoeddwyd bod un i'w gau. Penderfyniadau corfforaethol yw'r rhain—nid oes unrhyw ymgysylltu, nac ymgynghori. Pan ofynnwch am fanciau eraill, oherwydd bydd un banc yn dweud, 'Wel, rydym yn cau Pont-y-clun am eich bod bellach yn gallu defnyddio banc Tonysguboriau', yr un nesaf yw bod Tonysguboriau'n cau, ac maent yn dweud, 'A, wel, gallwch ddefnyddio Trefforest bellach', ac yna maent yn cau Trefforest. Felly, bob tro y byddwn yn trafod y materion hyn gyda'r banciau, nid yn unig eu bod wedi torri pob addewid a wnaethant—roedd ganddynt gytundeb ar un adeg na fuasai'r un banc yn fanc olaf, cafodd ei gytuno â'r undebau llafur, ac mae'r addewid hwnnw wedi'i dorri. Mae'n ymddangos i mi fod dirmyg llwyr, bron, tuag at y cysyniad o wasanaeth cwsmeriaid o blaid gwerthu cynnyrch drwy fancio canolog ac ar-lein.
Yr hyn y buaswn yn gofyn amdano—. Rwy'n croesawu'r hyn a ddywedwch am Swyddfa'r Post ac undebau credyd, oherwydd ymddengys i mi fod y rheini'n bethau sy'n rhaid inni edrych arnynt, ond mae'n ymddangos i mi fod fod yn rhaid inni bwyso—deallaf mai mater i Lywodraeth y DU yw hyn yn ddi-os—am sail statudol ar gyfer ymgynghori â gwasanaethau bancio. Nid yw'r banciau ond yn rhy hapus i dderbyn arian cyhoeddus pan fyddant mewn trafferth ac angen cymorth o gronfeydd cyhoeddus. Mae'n ymddangos i mi nad yw'n afresymol gosod rhwymedigaeth statudol ar fanciau i ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd, fel y mae'r wrthblaid Lafur yn San Steffan wedi gofyn amdano, a chael proses ymgynghori statudol ystyrlon fan lleiaf.
Diolch i'r Aelod am y cyfraniad defnyddiol hwnnw. Rwy'n siŵr fod pob un ohonom yma, ar lefel etholaeth, yn ymdrin â chanlyniadau cau banciau mewn ardaloedd trefol ac yng nghefn gwlad Cymru. Rwy'n cydnabod yr hyn a ddywed yr Aelod am natur ymgynghori, sy'n aml i'w weld ond yn cael ei gyflawni er mwyn cadarnhau penderfyniad masnachol y mae'r banc eisoes wedi'i wneud. Byddai sail statudol ar gyfer ymgynghori yn cryfhau hawliau unigolion a'u cynrychiolwyr i wneud yn siŵr y gellid cyflwyno dadleuon priodol ynghylch mynediad a thegwch—ac anghenion poblogaethau gwahanol a grwpiau o fewn poblogaethau—yn briodol i fanciau, gyda rhywfaint o hyder o leiaf fod y safbwyntiau hynny'n cael eu mynegi a'u clywed yn iawn.
A gaf fi gytuno gyda'r cyfraniad gan Mick Antoniw? Buaswn yn dweud nad oes unrhyw Aelod yn y Siambr hon wedi llwyddo i newid meddwl banc pan fyddant wedi gwneud eu penderfyniad. Rwyf wedi siarad yn y Siambr yn flaenorol am y syniad y gallai'r Llywodraeth hwyluso trafodaethau rhwng y banc a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol a phartneriaid eraill i archwilio model bancio cymunedol a fyddai'n golygu bod banciau'n rhannu gwasanaethau. Nawr, clywais yr hyn a ddywedoch ynglŷn â swyddfeydd post ac undebau credyd, ond pan grybwyllais y cynnig hwn wrth eich cyd-Aelodau yn y Llywodraeth, yn y Siambr yma, cefais ymateb cadarnhaol bob amser. Rhoddodd y Prif Weinidog ymateb cadarnhaol i mi yn gynharach eleni, gan ddweud y byddai'n ystyried y cynnig hwnnw. Ond a gaf fi ofyn pa ddatblygiadau a fu? Nid wyf eisiau clywed un gair yn dweud ei fod yn syniad da; yr hyn rwyf am ei glywed yw'r wybodaeth ddiweddaraf. A ydych wedi cyfarfod â'r banciau? A yw eich cyd-Aelodau wedi cyfarfod â'r banciau? A ydych wedi cael trafodaethau gyda'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol? A allwn wneud cynnydd a gweld y Llywodraeth yn hwyluso trafodaethau gyda'r banciau er mwyn symud hyn yn ei flaen?
Lywydd, fel y gŵyr yr Aelod, cyfrifoldeb fy nghyd-Aelod, Ken Skates, yw hyn yn bennaf o ran datblygu'r awgrymiadau a wnaeth. Mae'r nodyn sydd gennyf yn dweud bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cynnal trafodaethau gydag arweinwyr rhanbarthol yn y diwydiant bancio, o ganlyniad i gwestiwn blaenorol a ofynnwyd ganddo, i edrych ar ffyrdd y gellid newid defnydd safleoedd banciau mewn ardaloedd gwledig, er enghraifft, i helpu i ddarparu gwasanaethau cymunedol ehangach, ac mae'r trafodaethau hynny hefyd wedi cyffwrdd ar y rhaglen cyfleusterau cymunedol sydd gennym fel Llywodraeth Cymru i weld a allai'r cyfleusterau presennol sy'n cael eu haddasu drwy arian y rhaglen cyfleusterau a gweithgareddau cymunedol gynnwys diben bancio yn y ffordd y darperir gwasanaethau o'r safleoedd hynny yn y dyfodol. Fe wnaf yn siŵr fod fy nghyd-Aelod yn gwybod am y cwestiwn rydych wedi ei ofyn y prynhawn yma. Rwy'n credu y gallwch fod yn sicr ei fod wedi bod yn fwy na geiriau'n unig, fod cyfarfodydd go iawn wedi cael eu cynnal ac agenda bosibl ar gyfer gweithredu yn cael ei datblygu o ganlyniad i'r cyfarfodydd hynny.
I roi blas o raddfa a chyflymder y newid yn y diwydiant hwn, tua 16 mlynedd yn ôl fel Aelod Seneddol, cofiaf agor y peiriant arian cyntaf yn Llandysul—rwy'n cael y gorchwylion godidocaf i gyd. Un mlynedd ar bymtheg yn ôl, agorais y peiriant arian cyntaf yn Llandysul. Tynnais y £10 cyntaf o'r peiriant arian cyntaf yn Llandysul. Ar yr adeg honno, roedd pedwar banc ar y stryd fawr yn Llandysul, 16 mlynedd yn ôl. Bellach nid oes unrhyw fanc o gwbl. Mae'r olaf yn mynd. Mae'n dref farchnad wedi'i gadael heb unrhyw fancio o gwbl. Rhaid i chi deithio 10 milltir i Gastellnewydd Emlyn, fan lleiaf, i gael banc. Mae hynny'n dangos cyflymder y newid sydd wedi digwydd yn y diwydiant. Mae technoleg wedi meddiannu'r maes. Oes, mae pobl yn gwneud bancio ar-lein, ond fy mhryder penodol i heddiw yw bod yna fusnesau bach a chanolig eu maint yn aml nad ydynt yn gallu defnyddio bancio ar-lein, ac mae angen gwirioneddol mewn ardaloedd gwledig am fodd i fusnesau allu bancio arian parod ac nid yw'n cael ei ddarparu.
Oes, mae cyfle i gryfhau rhwydwaith y swyddfeydd post, a buaswn yn annog yn gryf iawn ein bod yn defnyddio hynny tra bo'r rhwydwaith hwnnw'n dal yno i ryw raddau ac yn rhoi rhyw gadernid i hynny. Ond onid yw hi hefyd yn bryd i chi ddechrau ystyried, gyda'ch cyd-bleidwyr yn San Steffan, fod angen rhyw fath o rwymedigaeth statudol mewn perthynas â bancio? Nid yw'n bosibl bod yn aelod o gymdeithas fodern bellach heb fynediad at gyfrifon bancio modern—ac yn sicr nid yw'n bosibl bod yn fusnes yn y ffordd honno—ac eto, rydym mewn perygl o rwygo datblygu economaidd o rannau o'n hardaloedd gwledig oherwydd yr union reswm hwn. Nid ydym yn gadael iddo ddigwydd mewn perthynas â band eang—rydym yn sicrhau bod rhesymau statudol pam y mae'n rhaid i chi ddarparu band eang i rannau o ardaloedd gwledig. Rhaid inni edrych ar rwymedigaeth statudol ar gyfer bancio, a mynediad at fancio, i'n busnesau, ein cwsmeriaid a'n dinasyddion mewn ardaloedd gwledig.
Diolch i Simon Thomas am y pwyntiau hynny. Dyna'n union oedd polisi fy mhlaid yn ein maniffesto ar gyfer etholiadau'r flwyddyn hon, ac yn 2015, rwy'n credu. Mae'n seiliedig ar Ddeddf bancio cymunedol 1976 a fu'n weithredol yn Unol Daleithiau America ers yr amser hwnnw. Lle mae banc yn cau ar y stryd fawr, mae ganddo rwymedigaeth gyfreithiol i sicrhau bod cyfleusterau newydd ar gyfer y rheini, lle y gellir dangos bod angen, ac i ddarparu'r cyllid ar gyfer creu'r cyfleusterau hynny.
Lle y ceir cymunedau gwledig, fel yn Llandysul, lle nad oes cyfleusterau bancio'n bodoli—neu mewn cymunedau trefol hyd yn oed. Gellid bod wedi ailadrodd yr hyn a ddywedodd am y stryd fawr yn Llandaf yn fy etholaeth. Nawr, gallech ddweud, 'Wel, mae Llandaf mewn ardal drefol a gallech ddod o hyd i fanc arall heb fod mod bell â hynny i ffwrdd.' Ond mewn gwirionedd, ar gyfer rhai grwpiau yn y boblogaeth nad ydynt wedi arfer bancio ar-lein, ac sy'n ei chael hi'n anodd symud o gwmpas, mae'r angen am rywle wyneb yn wyneb lle y gallwch fynd i drafod busnes yn real iawn.
Ar gyfer y mathau hynny o anghenion a nodwyd y lluniwyd Deddf bancio 1976 yr Unol Daleithiau i fynd i'r afael â hwy, a chredaf fod sicrhau na chaiff unigolion ac ardaloedd eu hamddifadu o wasanaethau hanfodol yn y maes hwn yn y dyfodol yn cryfhau'r ddadl a wnaeth yr Aelod ynglŷn â fframwaith statudol.
Credaf ein bod yn cytuno i raddau helaeth mewn perthynas â'r cwestiwn hwn, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, cyhoeddodd banc y NatWest enwau cyfres o fanciau eraill sy'n cau ledled Cymru—un yng Nghas-gwent yn fy etholaeth. Roedd y gyfres ddiwethaf o fanciau'n cau yn ddigon drwg allan mewn ardaloedd gwledig, ond ymddengys bod y toriadau hynny bellach yn ymestyn i drefi mwy hefyd, a chredaf fod hynny'n peri pryder mawr i'n hetholwyr. Pe bai gennyf un feirniadaeth ynglŷn â'r cwestiwn hwn, rwy'n credu y byddai'n ymwneud â'r ffaith ei fod yn ceisio gwneud ychydig gormod, nad yw'n feirniadaeth o gwbl mewn gwirionedd, oherwydd, yn amlwg, rydych wedi cyfuno dau bryder: ar y naill law, bancio manwerthu, ond hefyd y banc datblygu a'r rôl sydd ganddo i'w chwarae.
Ysgrifennydd y Cabinet, roeddech yn llygad eich lle wrth ddweud y dylai Llywodraeth Cymru—a diwygio Cyllid Cymru yn sicr, yn ein barn ni—sefydlu banc datblygu o ryw fath. Ond nid yw hynny'n ddigon i gymryd lle bancio manwerthu preifat i ymwneud â'r cyhoedd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, o ran y banc datblygu ar y naill law, a wnewch chi roi sicrwydd, pan gaiff hwnnw ei gwblhau, y bydd, yn debyg iawn i'r hyn a oedd yn ein polisi 'Buddsoddi Cymru' ychydig flynyddoedd yn ôl, yn argymell presenoldeb sy'n wynebu'r cyhoedd ar y stryd fawr gymaint â phosibl fel ei fod yn hygyrch i fusnesau ar lawr gwlad pan fydd arnynt ei angen? Ac yn ail, ar fater bancio manwerthu, mae'n siŵr fod angen ei osod ar sail statudol lawer cryfach. Daliais fy hun yn cytuno, sy'n destun pryder efallai, â Mick Antoniw ar y mater hwn. Rwy'n credu ei fod wedi gwneud rhai pwyntiau ardderchog.
A yw'n bosibl cael—rwy'n derbyn nad yw'n gyfan gwbl o fewn cylch gorchwyl Llywodraeth Cymru—ond a yw'n bosibl cael rhyw fath o fforwm? Mae'n amlwg fod pawb ohonom yma yn cytuno ar yr angen i gadw bancio manwerthu o'r fath allan yn ein trefi a'n hardaloedd gwledig. A yw'n bosibl cael rhyw fath o fforwm lle mae banciau'n gwybod yn iawn sut rydym yn teimlo am gau banciau, a'u bod yn cael eu gorfodi i ymgynghori'n llawer mwy effeithiol, a phan fyddant yn dweud mai dyma'r cylch diwethaf o fanciau sydd i'w gau am hyn a hyn o amser, ein bod ni fel Aelodau'r Cynulliad, yn gwrando ar hynny, a'u bod yn cyfleu hynny i'n hetholwyr, ac yna eu bod yn gorfod cadw at hynny, ac nad ydym yn gweld sefyllfa, fel sydd gennym ar hyn o bryd, lle mae mwy a mwy o fanciau'n cau? Ac mae pawb ohonom—mae ein post yn llawn o bryderon gan bobl sy'n teimlo o ddifrif, heb fancio ar y rhyngrwyd, nad ydynt yn mynd i gael unrhyw fynediad at fancio o gwbl.
Lywydd, mae Nick Ramsay yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig. Nid wyf yn meddwl bod unrhyw amheuaeth gan y banciau ynghylch cryfder y teimlad y mae eu gweithredoedd yn ei ennyn mewn cymunedau lleol ac ar ran y bobl sy'n cynrychioli'r cymunedau hynny. Eu hateb i chi fyddai nad ydynt yn sefydliadau masnachol a'u bod yn gweithredu'n fasnachol. Rhaid mai ein hymateb i hynny yw bod gan sefydliadau masnachol hyd yn oed rwymedigaethau penodol i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, oherwydd bod eu gallu i fod yn sefydliadau masnachol llwyddiannus yn dibynnu, yn aml iawn, ar y seilwaith cyhoeddus sydd o'u cwmpas ac sy'n eu galluogi i wneud busnes.
Felly, cytunaf ag ef am yr angen i wneud yn siŵr nad oes unrhyw amwysedd yn y negeseuon a roddwn i'r sector bancio manwerthu ynglŷn â'r rhwymedigaethau hynny. Rwy'n cytuno â chyfranwyr eraill y prynhawn yma y gellid gwneud mwy i osod fframwaith statudol o gwmpas hynny mewn perthynas ag ymgynghori a gwasanaethau newydd. Mae Llywodraeth Cymru'n chwarae ei rhan yn hynny, er ei bod bob amser yn gorfod cydnabod bod y rhan fwyaf o'r cyfrifoldebau hyn yn rhai nad ydynt yn ein dwylo ni.
O ran y pwynt cyntaf a wnaeth Nick Ramsay am wasanaeth hygyrch gan Fanc Datblygu Cymru, dyna'n union beth fyddai ein huchelgais. Mae'r ffordd orau i gyflawni hynny'n rhywbeth y byddwn am barhau i weithio arni, ond mae'r egwyddor o wneud yn siŵr y bydd Banc Datblygu Cymru yn hygyrch iawn i'r rheini a fydd am ei ddefnyddio yn un na fyddem yn anghytuno â hi.
Ac yn olaf, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Lywydd. Weinidog, cytunaf â'r rhan fwyaf o'r teimladau a fynegwyd yn y Siambr hon; ni allwch wadu hynny. Un o'r pwyntiau a wnaed am y sicrwydd y mae Aelodau wedi'i gael gan y banciau am fanciau cyfagos yn ysgwyddo'r baich, fel petai, yw un o'r dadleuon mwyaf rhwystredig a roddwyd dro ar ôl tro. Yn Llanilltud Fawr, pan fo NatWest yn cau eu cangen yno, cyfeiriwyd at y Bont-faen fel y gangen cyfagos a fyddai'n ysgwyddo'r baich. Rydych yn ciwio allan drwy'r drws ar rai dyddiau yn y NatWest yn y Bont-faen er mwyn defnyddio'r cyfleusterau yno ac eto ar 4 Mehefin y flwyddyn nesaf, mae'r banc hwnnw i fod i gau. Felly, mae anghysondebau yn y wybodaeth y mae'r banciau yn ei darparu.
Clywaf yr hyn a ddywedwch am natur masnachol—ac rwy'n cytuno; mae bancio'n fusnes masnachol. Ond pa asesiad a wnaeth Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r bylchau a fydd yn ymddangos bellach yn y gallu i fusnesau bach yn enwedig ddefnyddio banciau yn y ffordd draddodiadol o geisio cyngor ynghylch benthyciadau a chyfleusterau ariannol, ond hefyd i wneud eu busnes bancio? Cefais gyfarfod yn gynharach yn y flwyddyn gyda banc buddsoddi Cymru, a gwnaeth y Cadeirydd y pwynt hwn: ceir tystiolaeth sy'n dangos bod banciau masnachol yn tynnu'n ôl o rai rhannau o Gymru ac yn tynnu eu cyfleusterau benthyca yn ôl, a bydd hynny'n niweidio busnesau. Felly, a yw Llywodraeth Cymru wedi asesu'r cyd-destun ehangach sydd i gau banciau, nid yn unig i'r unigolion sydd â chyfrifon gyda'r banciau, ond hefyd y busnesau sy'n dibynnu ar ffynhonnell arian a hefyd i gyflawni gweithgarwch bancio o ddydd i ddydd?
Wel, gadewch i mi ddechrau drwy gytuno â'r hyn a ddywedodd Andrew R.T. Davies am anghysonderau yn rhai o'r dadleuon a glywn gan y diwydiant bancio a sut nad yw rhai o'r ymrwymiadau a wnaeth y diwydiant yn flaenorol, fel y dywedodd Mick Antoniw, i beidio byth â bod y banc olaf i gau—dyna addewid y maent wedi methu ei gadw mewn llawer o achosion fel y gwyddom. O safbwynt y cyhoedd, mae'n aml yn eithaf anodd deall y cysylltiad rhwng eu profiadau eu hunain o fanc sydd bob amser yn brysur pan fyddant yn ymweld ag ef, sydd i'w weld yn gweithio'n ddi-baid, pan fo'r banc yn dweud wrthynt ei fod yn cau oherwydd nad oes angen ei wasanaethau mwyach.
Yr hyn a wnaf yw gwneud yn siŵr fod y pwyntiau a wnaed y prynhawn yma, yn arbennig mewn perthynas â mynediad at wasanaethau bancio gan fusnesau yn y rhannau hynny o Gymru lle mae'r ddarpariaeth fancio bellach yn denau iawn neu lle nad yw'n bodoli o gwbl—fe wnaf yn siŵr fod Ken Skates wedi clywed y pwyntiau hynny'n glir a'i fod yn gallu mynd ar eu trywydd yn y cynlluniau y bydd yn eu datblygu i wneud yn siŵr nad yw busnesau yng Nghymru yn teimlo'n rhwystredig ynghylch eu gallu i gyflawni eu materion eu hunain neu i dyfu oherwydd nad oes gwasanaethau ar gael iddynt allu gwneud defnydd ohonynt.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Y cwestiwn nesaf—Suzy Davies.