7. Dadl ar ddeiseb 'Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 6 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 4:10, 6 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud fy mod yn falch iawn o agor y ddadl hon ar ran y Pwyllgor Deisebau? Dyma'r ail ddadl i gael ei chynnal ers i'r Pwyllgor Deisebau gytuno i ystyried cyfeirio unrhyw ddeiseb sy'n casglu mwy na 5,000 o lofnodion ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn. Mae'r deisebwyr, a arweinir gan Victoria Griffiths, am wrthwynebu datblygu carchar mawr newydd, archgarchar fel y'i gelwir, ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ym Maglan, Port Talbot.

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r deisebwyr am gyflwyno'r ddeiseb hon, a'u llongyfarch ar gynnal ymgyrch angerddol a thrawiadol. Cofiaf ei fod yn achlysur bywiog, yn bendant, pan ddaeth y deisebwyr i'r Senedd i gyflwyno'r ddeiseb i'r pwyllgor yn ôl ym mis Hydref. Gwn fod y deisebwyr hefyd wedi cydweithio'n agos â'u Haelodau Cynulliad lleol ar y mater hwn, ac rwy'n siŵr y bydd nifer o'r Aelodau am gyfrannu yn ystod y ddadl y prynhawn yma.

Casglodd y ddeiseb sydd o'n blaenau 8,791 o lofnodion gan ddefnyddio cyfuniad o wefan y Cynulliad a deiseb gan bapur newydd lleol. Mae hyn a nifer y rhai a ddaeth i'r Senedd yn dangos bod cryn dipyn o wrthwynebiad lleol i'r posibilrwydd o gael carchar ym Mhort Talbot, ac rwy'n siŵr nad yw hynny'n newyddion i unrhyw un yma heddiw. Mae'r deisebwyr wedi dweud wrth y pwyllgor fod ganddynt nifer o bryderon ynghylch argymhelliad y Weinyddiaeth Gyfiawnder i adeiladu carchar ar y safle, ac felly, cyn i mi amlinellu'r rhain, efallai ei bod yn werth rhoi ychydig o gefndir y cynigion a'u statws ar hyn o bryd.

Ym mis Mawrth 2017, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod pedwar safle posibl ar gyfer carchardai newydd yng Nghymru a Lloegr wedi'u nodi gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Cyn hyn, deallwn fod Llywodraeth Cymru wedi darparu rhestr o 20 safle posibl yng Nghymru i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi datgan ei bod wedi cynnal gwerthusiad cynhwysfawr o 20 safle, a bod Port Talbot wedi'i ddewis fel y safle posibl gorau ar gyfer adeiladu carchar categori C newydd yng Nghymru. O ganlyniad, Port Talbot oedd yr unig safle yng Nghymru a ddewiswyd ar gyfer bwrw ymlaen i wneud cais cynllunio. Yn yr un cyhoeddiad ym mis Mawrth 2017, nododd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ar y pryd y byddai ystyriaethau ynglŷn â gwerth am arian a fforddiadwyedd yn rhan o benderfyniad terfynol y Weinyddiaeth Gyfiawnder ynglŷn ag a ddylid bwrw ymlaen â carchar newydd ar y safle.

Mewn atebion a roddwyd yn San Steffan ar y pwnc hwn ym mis Medi, nododd y Gweinidog carchardai fod Port Talbot wedi'i ddewis am nifer o resymau. Mae'r rhain yn cynnwys capasiti seilwaith lleol i gynnal y carchar a'r potensial ar gyfer manteision i'r gymuned leol. Mae'n amlwg o'r ddeiseb fod rhannau mawr o'r gymuned yn anghytuno â'r ddau ddatganiad. Mae adroddiadau yn y cyfryngau wedi datgan y byddai gan y carchar categori C arfaethedig gapasiti i ddal 1,600 o garcharorion pan fydd yn gwbl weithredol, er y deallaf na chadarnhawyd hyn gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi datgan nad oes digon o leoedd carchar ar gael ar hyn o bryd ac yn benodol, nad oes digon o leoedd carchar categori C yn ne Cymru.

Yn eu hymateb i ohebiaeth gychwynnol y pwyllgor ynglŷn â'r ddeiseb, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi derbyn cais gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac wedi darparu rhestr o 20 safle posibl mewn ymateb i hynny. Hefyd, ailadroddodd y Llywodraeth mai mater i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yw'r penderfyniad i fwrw ymlaen ai peidio ac y byddai unrhyw geisiadau cynllunio'n cael eu hystyried yn lleol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Fodd bynnag, fel y dywedais o'r blaen, mae'r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru—sy'n berchen ar y tir dan sylw—i beidio â gwerthu i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder at ddibenion datblygu. Yn ystod trafodaeth flaenorol ar y pwnc hwn yn y Cyfarfod Llawn ym mis Medi, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar y pryd na chafwyd unrhyw gytundeb â Llywodraeth y DU ynglŷn â gwerthu'r tir, ac nad oes unrhyw drafodaethau ynglŷn â'i werth wedi digwydd.

O gofio nad yw cyfiawnder yn faes sydd wedi'i ddatganoli, ac mai mater i Lywodraeth y DU fydd penderfynu a ddylid bwrw ymlaen i ddatblygu carchar ai peidio, mater gwerthu'r tir fydd yn cael prif sylw'r Pwyllgor Deisebau wrth symud ymlaen. Fodd bynnag, rydym wedi ysgrifennu at y Gweinidog carchardai i roi gwybod iddo am y ddeiseb hon a'r ddadl heddiw. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau lleol am amlinellu barn y gymuned leol yn fwy manwl yn ystod eu cyfraniadau, felly rwyf am gyfyngu fy sylwadau pellach i'r pryderon a dynnwyd i sylw'r Pwyllgor Deisebau yn uniongyrchol.

Mae'r deisebwyr wedi amlinellu nifer o bryderon, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn ymwneud â chapasiti Port Talbot a'r ardaloedd cyfagos i ddarparu ar gyfer carchar. Mae'r rhain yn cynnwys argaeledd gwasanaethau iechyd a chapasiti ffyrdd lleol yn ystod y gwaith o adeiladu'r carchar a phan ddaw'n weithredol. Mae'r deisebwyr hefyd wedi cwestiynu'r effaith y gallai ei chael ar lefelau cyflogaeth lleol a'r rhagolygon i bobl leol sy'n chwilio am swyddi. Deillia hyn o'r posibilrwydd y bydd y carchar yn gweithredu fel canolfan adsefydlu, gyda'r carcharorion o bosibl yn cael eu rhyddhau am gyfnodau cyfyngedig yn y dydd i fanteisio ar leoliadau hyfforddi ar gyfer profiad gwaith, ac mae'r deisebwyr yn ofni y bydd yn mynd â chyfleoedd oddi wrth bobl leol. Maent hefyd wedi mynegi pryderon ynglŷn ag argaeledd tai lleol, a allai fod o dan bwysau cynyddol os yw carcharorion yn dewis aros yn yr ardal ar ôl eu rhyddhau. Yn olaf, mae'r deisebwyr wedi nodi bod y tir a glustnodwyd yn ardal fenter ac yn ddarostyngedig, mae'n debyg, i gyfamod ar ei ddefnydd. Dyfynnwyd atodlenni i'r cyfamod sy'n datgan y dylid defnyddio'r tir at ddiben parc diwydiannol ac nid at ddibenion eraill.

Oherwydd cydnabyddiaeth ei bod yn bwysig bwrw ymlaen â'r ddadl hon mewn modd amserol, nid yw'r pwyllgor wedi cael amser i ymchwilio i unrhyw un o'r pryderon neu'r honiadau hyn yn fanwl ar hyn o bryd. Byddwn yn dychwelyd i ystyried y ddeiseb eto mewn cyfarfod o'r pwyllgor yn y dyfodol. Wrth wneud hynny, rwy'n gobeithio y gallwn ystyried ymateb y deisebwyr i'r pwyntiau a godwyd heddiw a'r atebion a roddir. O ganlyniad, mae'r pwyllgor yn cyflwyno'r ddeiseb hon i'r Cynulliad heb ddod i gasgliadau na gwneud argymhellion mewn unrhyw gyfeiriad penodol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, teimlwn fod hon yn ddadl bwysig i'w chael, ac rydym yn gobeithio y bydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i bawb sydd wedi llofnodi'r ddeiseb, ac atebion i'r pryderon sydd ganddynt.