Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Cyn symud ymlaen at sylwedd y drafodaeth hon, roeddwn am roi canmoliaeth enfawr i grŵp ymgyrchu yn fy etholaeth, sydd wedi ei arwain gan y gymuned yn llwyr, am y gwaith y maent wedi'i wneud hyd yn hyn ar ddod â'r ddeiseb hon i'r Siambr. Gwn y bydd eu hymroddiad yn parhau y tu hwnt i heddiw i wneud yn siŵr fod gan Bort Talbot ffordd dda ymlaen, ac mae rhai o'r aelodau yn yr oriel y prynhawn yma.
Mae'r ddeiseb sy'n cael ei thrafod y prynhawn yma'n galw ar Lywodraeth Cymru i wrthod cynigion y Weinyddiaeth Gyfiawnder i ryddhau'r tir ar gyfer datblygu'r archgarchar. Cafodd hynny ei amlygu fel y prif ffocws gan David Rowlands, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, ond a gaf innau hefyd dynnu sylw at y ffaith fod y gwasanaethau cyhoeddus yr effeithir arnynt hefyd wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru, felly mae yna ail fater y gallech fod yn awyddus i'w ystyried mewn gwirionedd?
Cafodd nifer o'r dadleuon a leisir y prynhawn yma eu crybwyll yn ystod dadl Plaid Cymru ar 20 Medi, ac nid wyf am ymddiheuro am ailadrodd unrhyw un o'r rheini, gan eu bod yn greiddiol i'r rhesymau dros wrthod y cynnig hwn. Fodd bynnag, ers y dyddiad hwnnw, datgelwyd tystiolaeth bellach sy'n cefnogi ein galwadau yn y ddeiseb hon. Ceir dwy agwedd sydd angen ymdrin â hwy yn y ddadl hon: (1) priodoldeb y safle ar gyfer archgarchar, a (2) polisi cosbi Llywodraeth y DU a'r rôl y mae Llywodraeth Cymru yn ei chwarae yn ei gyflawni.
O ran y pwynt cyntaf, ceir nifer o resymau pam y mae'r safle hwn yn amhriodol. Yn gyntaf, mae mewn parth llifogydd C1, fel y crybwyllwyd eisoes, ac roedd yn barth llifogydd C2 pan nodwyd y safle gan Lywodraeth Cymru a'i roi i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder fel un lle ar y rhestr, er bod y meini prawf gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dweud mewn gwirionedd, ar gyfer safleoedd addas, fod angen tir mewn cyflwr da heb bosibilrwydd mawr o lifogydd. Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ofynnais i chi ynglŷn â hyn o'r blaen, a gofynnais pam ei fod wedi'i gynnwys yn y meini prawf. Cefais yr ateb nad mater i Lywodraeth Cymru yw pennu hynny ond mater i'r datblygwyr. Mae'n ddrwg gennyf, ond esgeuluso cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw hynny. Ni ddylai'r safle fod wedi'i gynnwys mewn unrhyw restr a roddodd Llywodraeth Cymru, a hyd yn oed yn awr, dylai gael ei dynnu'n ôl ar y sail honno, yn enwedig gan nad yw'r amodau ar y safle wedi newid.
Yn ail, mae'r safle yn yr ardal fenter—ardal fenter Glannau Port Talbot—fel y crybwyllwyd eisoes. Dylid ei defnyddio ar gyfer twf economaidd busnesau presennol a denu mewnfuddsoddiad a fyddai'n dwyn manteision economaidd pellach i'r gymuned. Gwn fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn honni y bydd carchar yn sicrhau manteision economaidd, ond mae ymchwil wedi dangos bod honiadau y bydd datblygu archgarchar yn creu manteision economaidd—gan gynnwys creu swyddi—yn methu ystyried costau cymdeithasol ehangach carcharu nifer fawr o garcharorion, ac nad yw niferoedd swyddi ynddynt eu hunain yn fesur cywir o dwf economaidd.
Hefyd, nid yw'r gwaith y nodwyd y byddai'n ei greu o reidrwydd yn mynd i fod o fudd i'r gymuned leol sy'n ffinio â'r ardal—mae hynny'n sicr yn wir yn yr achos hwn, oherwydd gwyddys bod Abertawe a Chaerdydd yn wynebu cau. Os byddant yn cau, bydd swyddi'r rheini'n trosglwyddo'n uniongyrchol i'r safle newydd hwn a holl waith y gadwyn gyflenwi sy'n bwydo i mewn iddo. Dyna'r realiti; dyna yw barn Llywodraeth y DU am garchardai Fictoraidd. Yn ogystal, mae ymchwil yn dangos y gallai cymunedau sy'n dod i gael eu hadnabod fel trefi carchar wynebu dirywiad economaidd ar fuddsoddiad. Rydym yn profi hynny, gydag un busnes yn paratoi i adael y dref os rhoddir caniatâd i adeiladu'r carchar. Felly, nid yw'r honiad y bydd y carchar yn gyfrwng i sicrhau twf economaidd ym Mhort Talbot yn wir o gwbl.
Yn drydydd, ceir mater y cyfamod ar y tir, a maen prawf arall a bennwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder pan oeddent yn gofyn am safleoedd oedd na ddylai fod ynghlwm wrth gyfamod. Efallai y bydd gan eraill fwy o amser i archwilio'r mater hwn, ond rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol ein bod eisoes wedi edrych arno gyda'r Cwnsler Cyffredinol a'r Prif Weinidog, a gallaf eich sicrhau nad yw'n mynd i ddiflannu.
Hoffwn dreulio ychydig mwy o amser yn awr ar yr ail ystyriaeth, oherwydd rhaid inni roi sylw o'r fath i unrhyw gynnig newydd ynghylch archgarchar—gallu'r polisi cosbi i leihau aildroseddu, gwella adsefydlu, a'r effaith ar y gwasanaethau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r uchelgais hwnnw. Unwaith eto, dengys nifer o adroddiadau ac ymchwil fod creu archgarchar yn methu cyflawni'r uchelgais hwnnw. Yn wir, mae'n gwneud y gwrthwyneb. Ysgrifennydd y Cabinet, mae adeiladu bywydau di-drosedd yn ymwneud â chymdeithas fwy cyfartal. Mae a wnelo â thlodi, gofal iechyd, tai ac addysg. Mae a wnelo â charchardai sy'n ceisio meithrin newid hirdymor ac nid cyfadeilad carchar diwydiannol, sy'n tybio bod newid arwyddocaol yn dod o lenwi adeilad i'r ymylon â bodau dynol, fel pe baent yn boteli gwin a fydd yn aeddfedu dros amser pan gânt eu cau mewn tywyllwch ac oerfel. Gadewch i ni beidio â chefnogi agenda a ysgogir yn ariannol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Yn hytrach, gadewch i ni ddarparu un i fynd i'r afael ag anghenion y gymdeithas.
Ysgrifennydd y Cabinet, ag ystyried y rôl sydd gan Lywodraeth Cymru yn darparu gwasanaethau i garcharorion, a yw'n bryd bellach i bolisi cosbi gael ei ddatganoli i Gymru? Efallai y dylech fod yn hyrwyddo'r agenda honno. Cytunaf â'r sylwadau a wnaed yn nadl Plaid Cymru—rwyf wedi newid fy meddwl, rwyf wedi dod i gytuno â'ch safbwynt chi—y dylid datganoli polisi cosbi o bosibl bellach. Ond pe bai'n cael ei ddatganoli, a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried archgarchardai'n fodel da, heb sôn am adeiladu un ynghanol cymuned ar dystiolaeth mor wan? Mawr obeithiaf na fyddai'n gwneud hynny.
Lywydd, fe orffennaf gyda'r canlynol oherwydd gwelaf fod fy amser wedi dod i ben—mae gennyf lawer mwy i'w ddweud, ond rwy'n gweld bod fy amser wedi dod i ben. Y prynhawn yma, bydd gofyn i ni bleidleisio i nodi'r ddeiseb, ond rwyf eisiau mwy na hynny mewn gwirionedd. Rwyf eisiau i Lywodraeth Cymru wrando ar y bobl sydd wedi llofnodi'r ddeiseb a gweithredu ar eu rhan. Dywedais ym mis Medi ei bod hi'n amlwg nad oes unrhyw gyfiawnder i Bort Talbot yn dod oddi wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a gelwais ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r cyfiawnder hwnnw drwy osod ein heconomi fel blaenoriaeth ac nid penderfyniad y Weinyddiaeth Gyfiawnder i arbed arian. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n eithaf syml: pan ddaw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i ofyn am gael datblygu ar y tir hwnnw, dywedwch 'na'. Gwrandewch ar y deisebwyr: gall Port Talbot wneud yn well ac mae'n haeddu cymaint mwy.