Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ar fater pwysig sy'n wynebu fy rhanbarth. Rwy'n byw ym Mhort Talbot, a rhaid i mi ddweud ar y dechrau nad wyf, mewn egwyddor, yn gwrthwynebu sefydlu carchar newydd ym Mhort Talbot—mewn egwyddor. Er gwaethaf protestiadau llawer o bobl sy'n gwrthwynebu'r carchar newydd, mae angen carchar newydd ar Gymru yn bendant, ond mae'n rhaid i'w leoliad fod yn gywir, ac os oes unrhyw agwedd sy'n gwneud Baglan yn lleoliad anghywir, ac anaddas, megis y mater llifogydd y siaradodd Nigel sy'n gynghorydd Plaid Cymru â mi amdano heb fod yn hir iawn yn ôl, yna, yn amlwg, mae'r safle hwnnw'n anaddas.
Gwta bythefnos yn ôl, rhybuddiodd elusen iechyd meddwl Hafal fod gorlenwi yng ngharchar Abertawe yn effeithio ar ddiogelwch ac iechyd meddwl carcharorion. Pan adeiladwyd y carchar Fictoraidd—carchar Fictoraidd—fe'i cynlluniwyd i ddal oddeutu 240 o garcharorion; ar hyn o bryd mae'n dal ddwywaith hynny. Carchar Abertawe yw'r trydydd carchar mwyaf gorlawn yn y DU. Ac eithrio'r carchar newydd yng ngogledd Cymru, mae pob un o'n carchardai'n orlawn. Mae Caerdydd yn gweithredu ar gapasiti o 150 y cant, fel y mae carchar Brynbuga. Mae carchar Parc yn gweithredu ar ychydig dros y capasiti.
Ar ôl gweithio am flynyddoedd lawer yng ngharchar Parc, gallaf ddweud wrthych fod carchardai gorlawn yn gwneud pethau'n anodd i garcharorion a staff fel ei gilydd. Nid yw carcharorion mewn carchardai modern yn cael eu cloi yn y tywyllwch a'u hanghofio; cânt eu hadsefydlu. Os oes unrhyw un am siarad â mi am fy wyth mlynedd o brofiad, byddwn yn fwy na bodlon dweud wrthynt.
Yn y blynyddoedd diwethaf, o ganlyniad i orlenwi, mae lefelau hunan-niwed ymhlith carcharorion wedi saethu i fyny, fel y mae salwch ac absenoldeb ymhlith y rhan fwyaf o swyddogion carchar. Bu cynnydd yn nifer yr ymosodiadau ar staff carchar. Yn y 10 mlynedd diwethaf, mae nifer y digwyddiadau o hunan-niwed wedi dyblu bron i oddeutu 38,000 y flwyddyn. Dros yr un cyfnod, mae ymosodiadau ar staff wedi cynyddu dros 32 y cant. Y llynedd, cafwyd oddeutu 6,500 o ymosodiadau ar staff, ac mewn 761 ohonynt, bu'n rhaid i'r swyddog carchar fynd i'r ysbyty.