Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Roeddwn yn Barcelona ar 1 Hydref pan gynhaliwyd y refferendwm ar annibyniaeth. Roedd yn brofiad erchyll ac ysbrydoledig ar yr un pryd. Ni feddyliais y byddwn yn gweld sefyllfa mewn democratiaeth orllewinol lle—. Roeddwn mewn gorsaf bleidleisio, ac roedd pobl, dinasyddion cyffredin, yn ffurfio cadwyni dynol er mwyn atal y Policia Nacional a'r Guardia Civil rhag torri i mewn i'r orsaf bleidleisio honno a chwalu'r broses ddemocrataidd.
Ar yr un pryd, roedd yn hynod o drawiadol gweld urddas tawel pobl Catalonia, yn aros am oriau, ers oriau mân y bore mewn gwirionedd, i bleidleisio. Roedd llawer ohonynt—y pleidleiswyr cyntaf ymron pob gorsaf bleidleisio oedd yr henoed, gyda rhai ohonynt mewn cadeiriau olwyn, a chafodd y pleidleisio ei ohirio am oriau oherwydd mesurau gormesol gwladwriaeth Sbaen. Y dagrau yn eu llygaid, ac yn llygaid eu teuluoedd a llygaid dinasyddion o'u cwmpas, a llawer ohonynt yn dweud eu bod wedi bod yn aros yno yn yr oerfel ers oriau a, 'Rydym wedi aros—rydym wedi aros ar hyd ein hoes gyfan am y foment hon'—nid wyf yn credu y gallai neb fethu cael eu hysbrydoli gan yr ymroddiad hwnnw, ymroddiad a aned o ymrwymiad i ddemocratiaeth ond wedi'i gyflawni mewn ysbryd di-drais yn ogystal.
Dyna pam y mae'r neges hon o undod mor bwysig gan y sefydliad hwn. Rydym yn ei wneud oherwydd, fel gwlad fach, ni ddylem byth ganiatáu i bŵer gael ei feddiannu'n anghyfreithlon gan wladwriaeth ganolog yn erbyn Senedd cenedl fach a etholwyd yn briodol. Ni allwn sefyll a gwneud dim pan fydd dinasyddion yn cael eu gormesu'n greulon yn y modd y digwyddodd yn y refferendwm hwnnw ac ni allwn weld sefyllfa lle y caiff aelodau etholedig llywodraeth ddemocrataidd eu carcharu yn syml oherwydd bod y polisi cyfansoddiadol y maent yn ei gynrychioli yn groes i un y wladwriaeth ganolog.
Wrth gwrs, mae gwreiddiau dwfn i'r traddodiad hwn o undod rhwng y genedl hon a'r genedl Gatalanaidd. Roedd aelodau o Gymru yn y Frigâd Ryngwladol a gollodd eu bywydau ym Mrwydr Gandesa. Wrth gwrs, gwelodd y frwydr honno, brwydr yn ystod rhyfel cartref Sbaen, y cysylltiad agos sydd rhwng y frwydr gyffredinol am ddemocratiaeth a hawliau sifil a gwleidyddol a'r awydd i ddatganoli a'r awydd am hunanbenderfyniad ymhlith pobl Catalonia.
Mae yna elfennau tywyll ac amlwg sy'n parhau yn hanes Catalonia a Sbaen. Digwyddodd y datganiad o annibyniaeth, wrth gwrs, ar Hydref 27—i bob pwrpas, roedd Catalonia'n annibynnol am bedwar diwrnod hyd nes y diddymwyd hynny gan lys cyfansoddiadol Sbaen. Ar 6 Hydref yn 1934, datganodd Arlywydd cynharach y Generalitat wladwriaeth Gatalanaidd a barhaodd am 10 awr, wrth gwrs. Yn dilyn hynny, cafodd ei orfodi i droi'n alltud—yn union yr fath ag a ddigwyddodd i Puigdemont. Yn wir, cafodd Lluís Companys, wrth gwrs—cafodd y Generalitat ei adfer yn ddiweddarach yn ystod rhyfel cartref Sbaen—yn y pen draw cafodd ei alltudio eto, ei ddwyn yn ôl i Sbaen a'i ddienyddio. Puigdemont yw'r unig arweinydd llywodraeth genedlaethol a etholwyd yn ddemocrataidd o hyd sydd wedi wynebu warant arestio Ewropeaidd. Ers ail-greu'r Generalitat yn 1932, cafodd cymaint â saith—saith allan o naw—o Arlywyddion y Generalitat naill ai eu carcharu neu eu halltudio gan wladwriaeth Sbaen. Dyna'r ffaith drist am y parhad y mae pobl Catalonia wedi gorfod ei wynebu drwy gydol eu hanes er mwyn galw, mewn gwirionedd, am rywbeth sy'n gymedrol a chyffredinol, sef yr urddas na all ond fodoli gyda'r hawl i benderfynu drosoch eich hun fel pobl ac fel cenedl, sydd, wrth gwrs, yn rhan o Siarter y Cenhedloedd Unedig.
Rwy'n credu ei bod hi'n ddyletswydd arnom i anfon neges o undod at bobl Catalonia, fel aelodau o genedl fach sy'n cynrychioli Senedd mewn cenedl fach, ond hefyd fel Ewropeaid ac fel dinasyddion Ewropeaidd. Rwy'n credu na allaf ond adleisio a rhoi teyrnged i eiriau Companys ei hun, a ddywedodd:
Fe ddioddefwn eto, fe ymladdwn eto, ac fe enillwn eto.
Teimlais hynny ar y strydoedd, wrth symud o orsaf i orsaf bleidleisio—ysbryd anorchfygol pobl Catalonia, sydd ers cenedlaethau wedi bod yn brwydro dros yr alwad ddynol sylfaenol hon, sef hawl cenhedloedd ym mhobman i benderfynu drostynt eu hunain, ac rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad Cenedlaethol hwn, drwy anfon ei neges o undod, yn cefnogi'r hawl cyffredinol hwnnw i'r holl bobloedd a'r holl genhedloedd.