Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Nid mater o bryder i genedlaetholwyr yn unig yw hyn. Mae'n fater o bryder i ddemocratiaid, a chredaf y dylid cael neges gref gan ein Senedd yng Nghymru i seneddau Catalonia a Sbaen fod yn rhaid i egwyddor cydsyniad fod yn ganolog i unrhyw wlad ddemocrataidd.
Cefais fy arswydo gan y digwyddiadau dros yr haf ac yn ddiweddar—y ffordd yr ymdriniodd Llywodraeth Sbaen mewn ffordd gwbl anghymesur ac annemocrataidd â galwadau cwbl ddilys pobl Catalonia am hawl i fynegi eu hunanbenderfyniad mewn refferendwm. Ers nifer o flynyddoedd, mae Llywodraeth Sbaen wedi gwrthod yr hawl syml honno a gymerwn yn ganiataol yn yr ynysoedd hyn—egwyddor cydsyniad.
Rwy'n cydnabod, ar draws Ewrop, nad yw ymwahaniad yn cael ei drin yn yr un modd ag yr ydym ni yn y wlad hon wedi dod i drin ymwahaniad. Mae'n glod i Lywodraeth y DU, pan alwodd yr Alban am refferendwm ar annibyniaeth, er eu bod yn anghytuno â'r galwadau hynny, fod Llywodraeth y DU wedi caniatáu'r refferendwm hwnnw ac wedi ei gwneud hi'n glir y byddai'n dal at ganlyniad y refferendwm hwnnw. A dylai'r egwyddor honno fod yn gymwys ledled Ewrop.
Roedd yn wrthun i mi, mewn gwirionedd, fod yr Undeb Ewropeaidd, y credai llawer o'r bobl yn y Siambr hon ei fod yn rym dros heddwch, democratiaeth a sefydlogrwydd dros y 70 mlynedd diwethaf, wedi aros yn ddistaw tra oedd hawliau rhan gyfansoddol yn cael eu sathru. Efallai fod erthygl dros y penwythnos gan Brif Weinidog Sbaen yn egluro rhywfaint ar hynny, lle roedd yn diolch i Theresa May am sefyll gyda Llywodraeth Sbaen dros y misoedd diwethaf, ac na fyddai hynny'n cael ei anghofio yn y negodiadau Brexit. Gallai hynny daflu rhyw oleuni ar y wleidyddiaeth fewnol a oedd yn digwydd ymhlith aelod-lywodraethau Ewropeaidd sy'n esbonio eu distawrwydd yn hyn o beth.
Nid wyf yn cefnogi annibyniaeth Catalonia. Treuliais beth amser yng Nghatalonia dros yr haf a siaradais â nifer o bobl sy'n byw yno a oedd yn anghyffyrddus gyda'r galwadau am annibyniaeth Catalonia. Dyma un o'r rhannau cyfoethocaf o Sbaen, a byddai ei cholli o'r wlad yn ergyd glir i gyfiawnder cymdeithasol ar draws y wlad gyfan. Felly, rwy'n deall yn llwyr y pryderon a oedd gan y rhan fwyaf o'r bobl o'r bleidlais yng Nghatalonia. Ond does bosibl nad yw'n iawn eu bod wedi cael cyfle i fynegi eu hunain yn gyfreithlon mewn refferendwm priodol, ac mae'r modd y mae Llywodraeth Sbaen yn parhau i wrthod gwneud hynny'n dwyn cywilydd arnynt. Mae'r ffordd y cafodd protestwyr heddychlon eu sathru a'r modd y cafodd arweinwyr eu carcharu yn staen ar Ewrop gyfan, a chredaf ei bod yn iawn i'n Senedd anfon neges glir ein bod yn credu bod hyn yn annerbyniol. Diolch.