Part of the debate – Senedd Cymru am 5:21 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Rwy'n falch iawn o godi i gefnogi apêl huawdl a dirdynnol Adam Price, a agorodd y ddadl hon. Buaswn yn hoffi meddwl mai holl ddiben araith David Melding oedd profi damcaniaethau'r rhai sydd wedi siarad hyd yn hyn, ac mae'n gweithredu, felly, fel dadleuydd y diafol, statws o gryn anrhydedd mewn diwinyddiaeth Gatholig. Ond yn anffodus, credaf ei fod yn credu'r dadleuon twyllresymegol a ddyfynnwyd ganddo. Rwyf am fynd yn syth at y cwestiwn a ofynnodd: beth yw cenedl? Wel, mae'n fater o ffaith: mae cenedl yn genedl pan fo'n teimlo ei bod yn genedl. Mae'n bosibl iawn y gallem gael miloedd o genedl-wladwriaethau yn y byd, os yw pobloedd y byd yn penderfynu pennu eu dyfodol yn y ffordd honno. Mae gennym ddinas-wladwriaethau, onid oes, fel Singapôr, un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd mewn gwirionedd, fel nad wyf yn blino ei nodi wrth yr Ysgrifennydd Cyllid mewn dadleuon ar drethiant.
Mae'r ddadl hon yn ymwneud ag un egwyddor syml iawn, sef yr hawl i hunanbenderfyniad, a ymgorfforir yn siarter y Cenhedloedd Unedig. Yn fy myw, ni allaf weld pam y dylai pwyntiau 3 a 4 yn y cynnig hwn fod yn ddadleuol i unrhyw ddemocrat. Felly, ni allaf ddeall y rhesymeg sy'n sail i'r gwrthwynebiad tuag ato. Rwy'n bendant yn gwrthwynebu'r ymateb llawdrwm gan Lywodraeth Sbaen a chadw cynrychiolwyr etholedig Catalanaidd yn y carchar. Mae'n wir, o dan gyfansoddiad lled-Francoaidd Sbaen, eu bod wedi gweithredu yn erbyn cyfraith y wlad, ac mae arnaf ofn fod ymddygiad gwladwriaeth Sbaen yn dangos bod ysbryd y Cadfridog Franco yn dal i hofran dros y system wleidyddol yn Sbaen heddiw, yn anffodus.
Yr hyn sydd angen ei newid yn Sbaen yw cyfansoddiad Sbaen, ac nid oes amheuaeth fod cyfran sylweddol iawn o'r boblogaeth yng Nghatalonia eisiau annibyniaeth. Pa un a yw'n fwyafrif ai peidio, ni allaf ddweud. Nid oes gennyf farn ar ei rinweddau. Credaf yng ngwladwriaeth unedol y Deyrnas Unedig, ac rwyf am i Gymru barhau yn rhan ohoni, ond rwy'n derbyn yn llwyr hawl pobl Cymru i benderfynu eu dyfodol eu hunain mewn termau cyfansoddiadol. Pe bai pobl Cymru yn penderfynu drwy refferendwm a mwyafrif eu bod am fod yn wleidyddol annibynnol oddi ar weddill y Deyrnas Unedig, buaswn yn dweud, 'Pob lwc iddynt', hyd yn oed pe bawn ar yr ochr arall i'r ddadl. Yn y pen draw, rhaid i'r bobl eu hunain benderfynu ynglŷn â'u dyfodol eu hunain, ac nid oes gan neb, yn fy marn i, hawl i amddifadu pobl o'r hawl sylfaenol honno.
Darllenais erthygl ddiddorol iawn, a gymeradwyaf yn llwyr ac yr argymhellaf i bawb ei darllen, gan Mick Antoniw yn WalesOnline yr wythnos hon, lle y gwnaeth bwynt proffwydol iawn. Dywedodd fod arestio a charcharu gweinidogion a etholwyd yn ddemocrataidd i lywodraeth Catalonia wedi agor archoll ddofn yn ymrwymiad cyfansoddiadol yr Undeb Ewropeaidd i gynnal hawliau dynol a rheolaeth y gyfraith.
Nid oes amheuaeth— aeth yn ei flaen i ddweud— fod y datganiad yn groes i'r cyfansoddiad; ond ni all fod fawr o amheuaeth ychwaith fod methiant y llywodraeth ganolog ar sawl achlysur i gefnogi gwelliannau i'r cyfansoddiad i ganiatáu'r posibilrwydd o annibyniaeth drwy refferendwm rhydd a theg yn groes i Erthygl Un o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig.
Buaswn yn mynd ymhellach na hynny, ac yn dweud ei fod hefyd yn groes i erthygl 11 o siarter hawliau sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd, yr hawl i ryddid mynegiant a gwybodaeth:
Mae gan bawb yr hawl i ryddid mynegiant. Bydd yr hawl hon yn cynnwys rhyddid i arddel barn a chael a rhannu gwybodaeth a syniadau heb ymyrraeth gan awdurdod cyhoeddus a heb ystyried ffiniau.
Felly, mae Sbaen, yn fy marn i, yn amlwg yn torri'r rhwymedigaeth honno a osodwyd arni, ac y pleidleisiodd pob un ohonynt drosti fel Llywodraethau yn yr Undeb Ewropeaidd, y rhwymedigaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi esgus ei chefnogi'n ddiweddar mewn perthynas â dadl Brexit. Nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad i sawl rhan o'r siarter honno, er fy mod yn gwrthwynebu'r ffordd y cafodd ei dehongli, mewn rhai ffyrdd, gan Lys Ewrop. Ond mae'n ymddangos i mi nad oes modd o gwbl i neb sy'n credu mewn rhyddid sylfaenol wrthwynebu erthygl 11.
Ac felly, credaf ei bod yn hanfodol fod Senedd Cymru—cenedl fach arall, fel y nodwyd eisoes—yn mynegi ei hundod â phobl Catalonia, ac unrhyw genedl fach sy'n cael ei gormesu gan ei Llywodraeth ganolog. Yn fy marn i, dylai Llywodraeth Sbaen ostwng ei phen mewn cywilydd ynglŷn â'r ffordd y mae wedi ymddwyn tuag at y gwleidyddion etholedig hyn yng Nghatalonia. Yn amlwg, rhaid i Sbaen roi trefn ar ei threfniadau cyfansoddiadol ei hun, ond nid drwy ymddwyn yn giaidd a gormesu pobl ar y strydoedd y mae gwneud hynny, ond yn hytrach drwy rym dadl mewn sefydliadau democrataidd a phleidleisiau rhydd a theg.