Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Y mis diwethaf, cefais y pleser mawr o gynrychioli'r Prif Weinidog yn y cyfarfod blynyddol i goffáu'r gwirfoddolwyr Cymreig a ymunodd â'r brigadau rhyngwladol yn Sbaen. Roedd yna eironi gwleidyddol yno, ar yr union adeg pan oeddem yn cynnal y cyfarfod coffa hwnnw, fod yna olygfeydd yn Sbaen o dyrfaoedd yn talu gwrogaeth ffasgaidd, yn canu caneuon ffasgaidd o oes Franco. Twf Ffalanchaeth o oes Franco, yr ymddengys ei fod wrth wraidd y twf mewn cenedlaetholdeb Sbaenaidd sydd wedi'i ganoli ym Madrid, yw un o'r pethau sy'n peri pryder go iawn.
Rwy'n ddiolchgar iawn, hefyd, am y sylwadau a wnaeth Neil Hamilton. Rwy'n falch o weld ei fod wedi cael tröedigaeth Bawlaidd dros y blynyddoedd ers ei amddiffyniad blaenorol i wladwriaeth apartheid De Affrica a'i duedd i fod yn gydymdeimladol tuag at Lywodraeth ffasgaidd Pinochet yn y 1970au. Nid oes unrhyw amheuaeth: mae hon yn rhannol yn frwydr yn erbyn y camau gweithredu gormesol hynny, ond i mi, mae'n sylfaenol. Nid yw hyn yn ymwneud ag annibyniaeth Gatalonaidd; mae'n ymwneud â rheolaeth y gyfraith a dehongliad priodol o reolaeth y gyfraith fel rhywbeth sydd mewn gwirionedd yn cynrychioli ewyllys y bobl, a dyna beth yw cyfansoddiad. Nid yw cyfansoddiad sy'n colli ewyllys y bobl, sy'n gwahanu pobl, yn gyfansoddiad ymarferol mwyach. Nid yw mwyach yn gompact rhwng pobl.
Felly, i mi, y peth mwyaf a'r peth tristaf i'w weld yn hyn oedd Llywodraeth y DU yn cyd-fynd yn awtomatig ac yn ddall â safbwynt rhagrithiol a oedd yn gwrth-ddweud popeth a ddywedasom. Boed hynny yn 1968 gyda goresgyniad Tsiecoslofacia, boed am ynysoedd Falkland, boed am Gibraltar—yn y pen draw, hawl y bobl yw dewis mewn gwirionedd, ac ymwneud â hynny y mae hyn mewn gwirionedd. Mae hi'r un mor dorcalonnus gweld anffrwythlonder y ddadl o fewn yr Undeb Ewropeaidd mewn gwirionedd, a'r ffaith eu bod wedi methu deall mai un o hanfodion yr Undeb Ewropeaidd a'r weledigaeth a oedd yn sail iddo oedd y gafael ar reolaeth y gyfraith, ac egwyddorion sylfaenol, a hawliau pobl, a phan fyddwch yn symud oddi wrth hynny i amddiffyn y cysyniad o'r wladwriaeth ganolog yn unig, byddwch yn dechrau hau hadau eich dinistr eich hun.
Felly, credaf ei bod yn hollol gywir yn y Cynulliad hwn inni sicrhau bod ein llais ein hunain yn cael ei glywed, ein bod yn sefyll, drwy'r penderfyniad hwn, dros yr hyn sydd yn y pen draw yn gefnogaeth i hawliau democrataidd, cefnogaeth i reolaeth y gyfraith, a chefnogaeth i'r egwyddor sylfaenol, a ymgorfforwyd yn siarter y Cenhedloedd Unedig, fod gan bobl hawl i benderfynu eu dyfodol eu hunain.