Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Prif Weinidog, mae'r cynllun gweithredu economaidd sydd newydd ei gyhoeddi yn dweud y bydd y Llywodraeth yn gallu:
defnyddio'r dull rhanbarthol fel modd o gyfuno ac integreiddio ymyraethau Tasglu'r Cymoedd a'r Fargen Ddinesig.
Nawr, yr hyn y mae hynny'n ei ddweud wrthyf i yw y bydd y pwyslais unigol ar broblemau a chyfleoedd unigryw'r Cymoedd yn cael ei golli. Mae Tasglu'r Cymoedd wedi dod i ben, ni roddwyd unrhyw arian newydd ar y bwrdd yr wyf i'n ymwybodol ohono ar hyn o bryd, ac felly, heb strwythur i'w chyflawni, heb gyllideb benodol, onid yw'n wir mai'r cwbl fydd y strategaeth hon, unwaith eto, yw rhestr hir o fwriadau da iawn na fyddant, yn anffodus, yn cael eu gwireddu?