'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 12 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:10, 12 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Bydd yn gwybod bod ffordd liniaru'r M4 yn rhywbeth, fel Llywodraeth, yr ydym ni wedi bod o'r safbwynt y bod wir ei hangen. Mae'n rhaid cael ymchwiliad cyhoeddus, oherwydd mae'n eithriadol o bwysig bod y materion hyn yn cael eu profi. Nid wyf yn credu y byddai neb yn anghytuno â'r angen i wneud hynny, i wneud yn siŵr bod unrhyw benderfyniad yr ydym ni'n ei wneud yn y dyfodol yn seiliedig ar yr hyn y mae'r ymchwiliad wedi ei ganfod.

Yn ail, o ystyried mai fi oedd y person cyntaf i siarad am fetro de Cymru, yng nghlwb rygbi Bedwas, os cofiaf yn iawn, yn ôl yn 2009, gallaf sicrhau nad yw wedi cael ei drefnu i fethu. Rwyf i eisiau i'r metro weithio. Mae'n bwysig dros ben, cyn belled ag y mae de Cymru yn y cwestiwn. Mae'n cynnig cyfleoedd enfawr, nid yn unig i gael pobl i'r gwaith yn gyflymach, ond i gael buddsoddiad i gymunedau sydd, hyd yma, wedi cael trafferth i gael y lefelau priodol o fuddsoddiad oherwydd eu lleoliad daearyddol. Felly, mae metro de Cymru yn sicr yn rhywbeth yr hoffwn i ei weld yn llwyddo ar gyfer pobl Cymru.