1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 12 Rhagfyr 2017.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo gweithio ar y cyd rhwng y sector iechyd a'r sector chwaraeon a hamdden yng Nghymru? OAQ51484
Mae 'Ffyniant i Bawb' yn gwneud ein disgwyliadau o ran cydweithredu yn eglur iawn. Rydym ni wedi gofyn i Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru nodi sut y byddant yn adeiladu ar enghreifftiau presennol o arfer da ac yn gweithio gyda'i gilydd ar bolisïau ar y cyd.
Prif Weinidog, os ydym ni'n mynd i ymateb i'r heriau o sicrhau dull mwy rhagweithiol ac ataliol o gael gwell iechyd yng Nghymru, mae angen poblogaeth sy'n gwneud mwy o ymarfer corff arnom. Mae hynny'n rhan bwysig o wneud y newid angenrheidiol hwnnw. Yng Nghasnewydd, mae adran iechyd y cyhoedd bwrdd iechyd Aneurin Bevan, ynghyd â Casnewydd Fyw, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, grwpiau chwaraeon lleol a llawer o grwpiau eraill wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd ers cryn amser i geisio sicrhau poblogaeth leol sy'n gwneud mwy o ymarfer corff fel ein bod ni'n cael yr iechyd gwell hwnnw. Yn ogystal â'r hyn yr ydych chi wedi ei amlinellu yn eich ateb cychwynnol, Prif Weinidog, gwn yn lleol—ac rwy'n siŵr ei fod yn berthnasol i lawer o fentrau eraill o'r fath ledled Cymru—bod diddordeb mawr ym mha gamau pellach, pa gymorth pellach, y gallai Llywodraeth Cymru ei ddarparu i gynorthwyo'r mentrau hynny, i wneud y newid sylfaenol hwnnw i ddull mwy rhagweithiol ac ataliol o ymdrin ag iechyd yng Nghymru.
Wel, gallaf ddweud wrth fy nghyfaill yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd bod Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn ei gwneud yn ofyniad ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi strategaeth genedlaethol ar atal a lleihau gordewdra, a bydd cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a mynd i'r afael â ffyrdd eisteddog o fyw yn chwarae rhan bwysig. Mae'r gwaith hwnnw'n cael ei arwain gan y prif swyddog meddygol, ac mae'r sector chwaraeon a'r sector iechyd yn cymryd rhan lawn yn y gwaith sy'n datblygu. Mae gennym ni hefyd, wrth gwrs, y cynllun atgyfeirio ymarfer corff cenedlaethol, cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a ddatblygwyd i safoni cyfleoedd atgyfeirio ymarfer corff ar draws holl awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol Cymru. Mae'n targedu cleifion sydd â chyflwr cronig, neu sydd mewn perygl o ddatblygu clefyd cronig, ac roedd dros 28,000 o atgyfeiriadau ledled Cymru yn 2016.
O ran Casnewydd, gallaf ddweud bod cyfanswm y buddsoddiad yng Nghasnewydd gan Chwaraeon Cymru, er enghraifft, yn fwy na £610,000—dros £0.5 miliwn o arian craidd, sydd ar gyfer gwaith gydag ysgolion, cyfranogiad cymunedol, nofio am ddim a gwaith rhanbarthol arall gyda a thrwy Dyfodol Cadarnhaol, a £100,000 yn fras, sy'n gyllid cist gymunedol, y mae panel cist gymunedol lleol yng Nghasnewydd yn ei oruchwylio.
Prif Weinidog, gwrandewais ar eich ateb cychwynnol i John Griffiths. Rwy'n derbyn yn llwyr, ac roedd yn amlwg iawn yn ystod proses Bil iechyd y cyhoedd, bod y Gweinidogion yn ymwybodol iawn o'r angen i wella ein hiechyd a'n llesiant trwy ddefnyddio chwaraeon a hamdden. Fodd bynnag, ceir lefel druenus o ryngweithio o hyd rhwng y rhai sy'n gyfrifol am gomisiynu chwaraeon a hamdden er mwyn darparu'r gwasanaethau hyn a'r rheini sy'n gyfrifol am ddatblygu'r agenda iechyd a llesiant. Rwy'n deall yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chwaraeon Cymru. Fodd bynnag, hoffwn ofyn am (1) mwy o ddychymyg yn yr hyn yr ydym ni'n ei ddarparu oherwydd nid yw hamdden yn golygu chwaraeon yn unig, ac os ydych chi'n oedrannus ac yn fethedig, a bod yn onest, nid yw neuadd chwaraeon i lawr y ffordd gyda phêl-droed yn mynd i wneud unrhyw ddaioni i chi, ac yn ail, beth all eich Llywodraeth ei wneud i geisio cael yr asiantau comisiynu hyn ar lefel leol, y rheini sydd â dyletswydd i ddarparu a'r rheini sydd eisiau cael llesiant a byw'n iach i'n dinasyddion, i weithio gyda'n gilydd mewn gwirionedd yn feunyddiol, yn wythnosol ac yn fisol?
Mae'n hollol iawn i ddweud nad yw'n fater o chwaraeon yn unig a'i fod yn fwy i'w wneud â gweithgarwch ac ymarfer corff, wrth gwrs. Gallaf ddweud bod gwaith yn cael ei wneud rhwng Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, a fydd yn cynnwys sefydlu fframwaith canlyniadau newydd ar gyfer gweithgarwch corfforol, rhai mesurau perfformiad, camau gweithredu a dulliau a rennir i werthuso effaith a gwerth am arian. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi cytuno i ymestyn cyllid i Dewch i Gerdded Cymru, a ddarperir drwy Ramblers Cymru, am 16 mis, ac mae hynny'n gweithio gyda chydgysylltwyr awdurdod lleol i ddatblygu amrywiaeth o deithiau a llwybrau cerdded ledled Cymru ar gyfer pobl â lefelau amrywiol o alluoedd. Ac rydych chi'n hollol iawn i ddweud ei bod yn hanfodol i bobl hŷn a phobl ag anableddau gael cyfleoedd i gymryd rhan mewn rhaglenni hamdden a diwylliant. Wrth gwrs, mae gemau Olympaidd yr henoed diweddar yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd sefydliadau yn gweithio ar y cyd tuag at y nod a rennir o wella iechyd y boblogaeth. Rwy'n falch bod y digwyddiad hwnnw'n llwyddiant ac rwy'n gobeithio y bydd yn parhau y flwyddyn nesaf.
Rydw i'n grediniol mai drwy'r system addysg y mae cael pobl ifanc ar y trywydd iawn tuag at weithgarwch corfforol er mwyn gwella eu hiechyd nhw. Mae cyfle fan hyn i dynnu sylw at ddechrau'r ymchwiliad gan y pwyllgor iechyd yma i mewn i weithgarwch corfforol gan blant a phobl ifanc. Rŵan, mae Iwerddon newydd gyflwyno gweithgaredd corfforol fel arholiad leaving certificate yno; i ba raddau ydych chi a’ch Llywodraeth yn credu bod angen elfen o brofi neu hyd yn oed arholi gorfodol er mwyn sicrhau bod pob person ifanc, drwy gydol eu hamser yn yr ysgol, yn sicrhau bod gweithgarwch corfforol yn uchel ar eu hagenda?
Wel, wrth gwrs, mae hynny’n digwydd yn yr ysgol yn barod, ynglŷn â’r ffaith bod addysg gorfforol yn rhywbeth y maen nhw’n gorfod ei wneud. Mae rhai yn cael eu harholi arni, mae hynny’n wir, ar lefel TGAU a lefel A, ond mae’n rhan o’r cwricwlwm i bawb. Mae’n wir i ddweud, rwy'n credu, ei bod yn hollbwysig sicrhau bod plant ifanc yn datblygu ffordd o fihafio er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cario ymlaen i wneud chwaraeon yn y pen draw, ond rŷm ni yn colli pobl, wrth gwrs; mae oedran yn dod lle nad yw rhai pobl ifanc eisiau gwneud unrhyw fath o chwaraeon. I fi, dyna’r amser i ni ystyried pa fath o bethau eraill y bydd o ddiddordeb iddyn nhw. Efallai nad ydyn nhw’n moyn cystadlu; efallai eu bod nhw’n moyn gwneud pethau fel cerdded neu redeg, ond ddim cystadlu yn erbyn pobl eraill.
So, rwy’n credu bod yna sawl ffordd i ystyried hyn. Bydd rhai, wrth gwrs, yn moyn gwneud addysg gorfforol, byddan nhw’n moyn gwneud chwaraeon, ond beth mae’n rhaid inni sicrhau yw ein bod ni’n edrych, gydag ysgolion, ar beth y gallwn ni ei wneud i hybu’r rheini sydd efallai eisiau gwneud pethau, eisiau gwneud pethau corfforol, ond ddim eisiau gwneud chwaraeon. Yn fanna, rwy’n credu, mae’r ateb ynglŷn â sicrhau bod mwy o ferched ifanc, yn enwedig, yn cario ymlaen gyda, nid chwaraeon, ond ymarfer corfforol yn y pen draw.