Cymorth Iechyd Meddwl yn y Gweithle

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 12 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:57, 12 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Ydw, mae hynny'n hollol gywir. Y rhai sydd agosaf at y rheini a allai ddioddef straen sydd yn y sefyllfa orau i ymdrin ag ef, ond mae'n bwysig dros ben bod pobl yn gallu ei adnabod. Yn enwedig gyda rhai pobl, mae'n anodd iawn adnabod arwyddion o straen. Ni fyddan nhw byth yn dangos arwyddion o straen nac yn achwyn am straen, ond yn aml, wrth gwrs, y rheini yw'r bobl sy'n dioddef y straen fwyaf yn fewnol, felly rwy'n cytuno'n llwyr. Er mwyn cael gweithlu mwy iach, mae'n bwysig bod y rhai sydd mewn swyddi rheoli yn gallu adnabod straen mewn ffordd na fyddai'n amlwg i'r cyhoedd yn gyffredinol ac i ymdrin ag ef, er lles y rhai sy'n dioddef straen, wrth gwrs, ac i'w gwneud yn weithwyr hapusach a mwy cynhyrchiol.