Cymorth Iechyd Meddwl yn y Gweithle

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 12 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 1:58, 12 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Mae David Melding newydd grybwyll yn gryno iawn y digwyddiad UNSAIN a gynhaliwyd yn ddiweddar. Tybed, Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu mentrau llwyddiannus fel cynhadledd iechyd meddwl yn y gweithle Unsain a drefnwyd yn adeilad y Pierhead, a ddangosodd unwaith eto, yn fy marn i, swyddogaeth ganolog y gall undebau llafur ei chyflawni i helpu i fynd i'r afael â materion anodd yn y gweithle, ac mae'n dangos swyddogaeth werthfawr partneriaeth gymdeithasol i sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer materion fel mynd i'r afael ag iechyd meddwl yn y gweithle.