Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Rydym ni'n gwybod eu bod nhw'n hynod bwysig i'r hyn yr ydym ni eisiau ei gyflawni yn rhan o'r cynllun gweithredu economaidd. Heb ddull gweithredu cydgysylltiedig ar draws y Llywodraeth, ni fyddwn yn llwyddo. Gallaf ddweud bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cyfarfod â'r holl Weinidogion ac Ysgrifenyddion Cabinet eraill i drafod gwaith y tasglu a'r cynllun cyflawni, a bydd yn sicr yn rhan o gyflawniad gwaith y tasglu i weithio gyda'r BBaChau hynny sy'n gonglfaen cymaint o enghreifftiau o fentergarwch yn ein cymunedau.