'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 12 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:09, 12 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, mae 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' yn gwneud adduned i fanteisio ar botensial creu swyddi buddsoddiad seilwaith mawr, fel ffordd liniaru'r M4 a phrosiect metro de Cymru. Mae ffordd liniaru'r M4 yn sownd mewn ymchwiliad cyhoeddus ar hyn o bryd, ac mae un o aelodau eich meinciau cefn eich hun wedi honni bod prosiect metro de Cymru yn cael ei drefnu i fethu. Prif Weinidog, pa gynlluniau wrth gefn sydd gennych chi os bydd eich Llywodraeth yn methu â darparu'r prosiectau hyn, sy'n hanfodol i lwyddiant strategaeth 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol', ac y mae eu hangen yn daer yno? Diolch.