– Senedd Cymru am 2:33 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Rwyf wedi cytuno y gall Darren Millar wneud datganiad personol. Galwaf felly ar Darren Millar.
Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am roi'r cyfle imi wneud y datganiad personol hwn heddiw. Mae'n ddatganiad yr wyf yn ei wneud ar ôl llawer o hunanholi, ond rwy'n teimlo bod gennyf ddyletswydd foesol i'w gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn iddo ymddangos ar Gofnod y Trafodion. Ddydd Mawrth diwethaf, yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, nodais y byddwn i'n gofyn i gael cyflwyno tystiolaeth i'r ymchwilydd annibynnol, James Hamilton, ynghylch yr honiadau o fwlio yn Llywodraeth Cymru yn ôl yn 2014 a pha un a oedd y Prif Weinidog wedi camarwain y Cynulliad Cenedlaethol. Mae Cofnod y Cynulliad yn tystio i'r ffaith i mi gyflwyno, ar 4 Tachwedd 2014, y tri chwestiwn canlynol:
'A yw'r Prif Weinidog erioed wedi derbyn unrhyw adroddiadau neu wedi'i wneud yn ymwybodol o unrhyw honiadau o fwlio gan gynghorwyr arbennig a/neu arbenigol ar unrhyw adeg yn ystod y tair blynedd diwethaf ac, os felly, pryd a pha gamau a gymerwyd, os bu rhai?'
'A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau a gynhaliwyd unrhyw gyfweliadau ymadael gyda chynghorwyr arbennig a/neu arbenigol ym mhob un o'r tair blynedd diwethaf ac, os felly, beth oedd canlyniad y rhain?' ac
'A wnaiff y Prif Weinidog ddweud faint o unigolion y daeth eu cyflogaeth fel cynghorwyr arbennig a/neu arbenigol i ben ym mhob un o'r tair blynedd diwethaf, gan gynnwys y dyddiad y daeth eu cyflogaeth i ben a'r rheswm dros adael?'
Y rheswm yr wyf i'n dymuno cyflwyno tystiolaeth i'r ymchwilydd annibynnol yw oherwydd y gofynnwyd imi gyflwyno'r cwestiynau hynny gan rywun arall. Y person hwnnw oedd ein cyn gyd-Aelod Cynulliad, Carl Sargeant. Cefais sgwrs breifat gyda Carl ddechrau mis Hydref 2014, i ffwrdd o adeilad y Cynulliad Cenedlaethol. Yn ystod y sgwrs honno dywedodd Carl wrthyf ei fod yn anhapus, oherwydd bod bwlio yn digwydd o fewn Llywodraeth Cymru, a oedd yn dod gan unigolyn yn swyddfa Prif Weinidog Cymru, a bod hynny'n cael effaith arno ef yn bersonol, ynghyd ag eraill. Ni fyddaf heddiw yn enwi'r unigolyn y nododd Carl wrthyf, ond hoffwn ei gwneud yn gwbl glir nawr na wnaeth Carl, ar unrhyw adeg, yn ei drafodaethau â mi erioed gyhuddo y Prif Weinidog ei hun o fwlio. Cynigiais i helpu, ond roeddwn i'n teimlo'n gwbl ddi-rym i wneud hynny. Ymatebodd Carl drwy ddiolch i mi a dywedodd y byddai'n ystyried fy nghynnig ac yn dod yn ôl ataf.
Ryw bythefnos yn ddiweddarach, ar 22 Hydref 2014, daeth Carl ataf i yn ystafell de yr Aelodau yn ystod y Cyfarfod Llawn gyda nodyn mewn llawysgrifen a oedd yn cynnwys cwestiynau drafft i mi ystyried eu cyflwyno i'r Prif Weinidog. Esboniodd ei fod yn gobeithio y byddai cyflwyno'r cwestiynau yn ddigonol i ysgogi gweithredu mewnol yn Llywodraeth Cymru gan y Prif Weinidog i fynd i'r afael â'r broblem bwlio. Dewisais i ailddrafftio rhywfaint ar y cwestiynau, a rhannais y rhain yn breifat gyda Carl. Roedd yn fodlon â'r ailddrafftio ond gofynnodd i mi beidio â chyflwyno'r cwestiynau ar unwaith. Yn hytrach, gofynnodd i mi aros tan ei fod wedi siarad â mi unwaith eto am y mater. Yn ystod wythnos gyntaf mis Tachwedd 2014, dywedodd Carl wrthyf bod yr amser yn addas erbyn hyn i mi gyflwyno'r cwestiynau, gan fod cwyn mewn gwirionedd wedi ei gwneud, i'r Prif Weinidog, am ymddygiad cynghorydd arbennig. Cyflwynais y cwestiynau wedyn ar 4 Tachwedd 2014, ac mae'r atebion a roddwyd gan y Prif Weinidog bellach ar y cofnod cyhoeddus. Ar ôl i mi dderbyn yr ymatebion ysgrifenedig, trosglwyddais nhw i Carl cyn iddyn nhw gael eu cyhoeddi ar wefan y Cynulliad. Roedd wedi ei synnu, ac roedd yn siomedig ag atebion y Prif Weinidog, a phenderfynodd bod yn rhaid iddo dderbyn y byddai'r sefyllfa'n parhau.
Gadewch imi fod yn glir: roedd Carl Sargeant yn aelod ffyddlon o Lywodraeth Cymru ac yn aelod ffyddlon o'r Blaid Lafur. Roedd yn cymryd ei ddyletswyddau Cabinet a'i gyfrifoldeb ar y cyd o ddifrif. Ei unig ysgogiad wrth ddatgelu'r problemau o fewn Llywodraeth Cymru wrthyf i a gofyn am fy nghymorth yn y modd hwn oedd i geisio datrys y rhwystredigaeth a straen y sefyllfa a oedd yn parhau ar yr adeg honno er ei fwyn ef a'i gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru. Ei deyrngarwch i'r Llywodraeth a'r blaid yr oedd yn ei charu oedd y rheswm pam yr oedd eisiau i'r problemau gael eu datrys, ac ni wnaeth Carl gysylltu â mi yn y ffordd hon na gofyn i mi wneud unrhyw beth o'r math hyn ar unrhyw adeg arall yn y 10 mlynedd y gwnaethom ni wasanaethu gyda'n gilydd fel Aelodau o'r Cynulliad Cenedlaethol.
Yn ôl yn 2014, gwnaed Paul Davies yn ymwybodol o'r rhesymau pam y cyflwynais y cwestiynau ac mae'n barod i gadarnhau'r ffeithiau yn y datganiad hwn. Rwy'n deall bod pobl eraill hefyd wedi cael gwybod gan Carl Sargeant ei hun ei fod wedi gofyn imi gyflwyno'r cwestiynau ac am yr amgylchiadau a oedd yn gysylltiedig â nhw. Fel parch at deulu Carl, nid oeddwn i eisiau gwneud y datganiad hwn cyn angladd Carl na heb roi gwybod iddyn nhw. Gallaf i gadarnhau eu bod yn ymwybodol fy mod yn gwneud y datganiad hwn heddiw ac mae copi wedi'i rannu â nhw ymlaen llaw.
I gloi, hoffwn ddiolch i'r Llywydd am ganiatáu imi wneud y datganiad personol byr hwn heddiw. Ynddo rwyf wedi nodi'r ffeithiau yn syml i chi fel fy nghyd-Aelodau Cynulliad—ffeithiau yr oedd fy nghydwybod yn fy ngorfodi i i'w rhannu gyda chi ac i'w rhoi ar y cofnod cyhoeddus, ac rwyf eisiau i'r datganiad personol hwn gael ei ystyried fel tystiolaeth gan James Hamilton i'w gynorthwyo â'i ymchwiliad. Ni fyddaf yn trafod y mater hwn ymhellach y tu allan i'r ymchwiliad hwnnw nac yn siarad â'r wasg. Diolch yn fawr.