– Senedd Cymru am 3:29 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Eitem 4 ar yr agenda yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus am weithio gyda'n gilydd i greu cymunedau mwy diogel, ac rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet, Alun Davies, i wneud y datganiad.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Bydd y flwyddyn nesaf yn nodi ugain mlynedd ers Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 sy'n rhoi partneriaeth statudol ar waith wrth wraidd yr ymdrechion i fynd i'r afael â materion diogelwch cymunedol.
Er bod yr egwyddor o bartneriaeth yn y Ddeddf wreiddiol yn parhau, mae'r amgylchiadau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd ac amgylcheddol yng Nghymru heddiw yn amlwg yn wahanol iawn i'r rhai a gafwyd pan sefydlwyd y partneriaethau diogelwch cymunedol yn y 1990au. Mae heriau heddiw yn cynnwys amrywiaeth o fathau newydd o droseddau, gan gynnwys caethwasiaeth fodern a throseddau casineb, y bygythiad cynyddol o derfysgaeth ryngwladol, dylanwad sylweddau seicoweithredol newydd ac effeithiau troseddau a gyflawnir ar y we.
Mae strwythurau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wedi esblygu ers 1998 o ganlyniad i ddatganoli, a chafwyd nifer o newidiadau i'r ddeddfwriaeth sylfaenol ei hun. Roedd adroddiad beirnidaol Archwilydd Cyffredinol Cymru 'Diogelwch cymunedol yng Nghymru', a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2016, yn awgrymu nad oedd partneriaethau diogelwch cymunedol Cymru mor effeithiol ag y dylen nhw fod. Tynnodd sylw at faterion pwysig, gan gynnwys y dirwedd polisi gymhleth a dryslyd y mae partneriaid bellach yn gweithredu ynddi, ac at bryderon o ran arweinyddiaeth ac atebolrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau diogelwch cymunedol. Fodd bynnag, nid yw'r adroddiad yn adlewyrchu'n llawn ein gwaith i greu dulliau o bartneriaeth sy'n gynaliadwy i ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r argymhellion hefyd yn annhebygol o fynd i'r afael â'r heriau a'r materion y mae'r Archwilydd Cyffredinol ei hun yn eu nodi.
Gan adeiladu ar waith blaenorol, rydym bellach wedi ymgymryd ag adolygiad cynhwysfawr ac eang o bartneriaeth diogelwch cymunedol fel y mae'n gweithio yng Nghymru. Rwy'n hyderus y bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu ymhellach ar lwyddiannau niferus dull Llywodraeth Cymru o weithredu. Mewn partneriaeth â Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru, rydym wedi cyflawni gostyngiadau sylweddol a pharhaus yn nifer y rhai sy'n dod gerbron y system cyfiawnder ieuenctid am y tro cyntaf. Rydym wedi haneru nifer y rhai sy'n marw oherwydd tân a thanau, gan gynnwys tanau glaswellt bwriadol. Mae heddluoedd Cymru wedi recriwtio 500 o swyddogion cymorth cymunedol yn ychwanegol, y talwyd amdanyn nhw gan Lywodraeth Cymru, tra bo llawer o ardaloedd yn Lloegr yn colli'r asedau cymunedol gwerthfawr hyn. Rydym wedi cyflwyno deddfwriaeth arloesol i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac rydym yn dangos y ffordd gyda'n gwaith arloesol i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern.
Wrth gyhoeddi natur a chwmpas yr adolygiad ym mis Mawrth, dywedodd cyn-Ysgrifennydd y Cabinet dros gymunedau a phlant, Carl Sargeant, ei fod yn awyddus i'r adolygiad fod yn uchelgeisiol ei feddylfyd a bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi rhoi inni gyfle hollol newydd i sefydlu dull cynaliadwy o greu cymunedau mwy diogel. Rwy'n falch o ddweud bod yr adolygiad wedi gwireddu ei obeithion ef, gan osod egwyddor datblygiad cynaliadwy wrth wraidd ei ddull o weithredu. Mae wedi cynnwys yr ystod ehangaf bosibl o randdeiliaid, wedi eu cynorthwyo gan grŵp goruchwylio gyda chynrychiolaeth o Lywodraeth Leol, gwasanaethau tân ac achub, comisiynwyr heddlu a throseddu, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru, a phenaethiaid yr heddlu, gwasanaethau prawf a charchardai, y trydydd sector ac adrannau o Lywodraeth y DU.
Gan y bydd yr adolygiad yn cael ei gyhoeddi heddiw, nid wyf i'n bwriadu ymarfer ei gasgliadau o flaen llaw yma y prynhawn yma. Er hynny, rwyf am ddweud fy mod i wedi cael fy nghalonogi'n fawr gan y canlyniad pwysicaf sef, er gwaethaf y materion a'r heriau a nodwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol, fod gennym lawer i ymfalchïo ynddo ac i adeiladu arno wrth sefydlu gweledigaeth newydd a chyffredin i gydweithio ar gyfer cymunedau mwy diogel. Caiff y weledigaeth hon ei chyflawni drwy weithgareddau aml-asiantaeth integredig a chydweithredol sy'n yn seiliedig ar dystiolaeth a gaiff ei thywys gan wybodaeth, a gefnogir gan sgiliau a gwybodaeth briodol, a gaiff ei hadnoddau mewn ffordd sy'n gynaliadwy ac yn cyfateb i anghenion lleol, sydd yn ymgysylltu ac yn cynnwys dinasyddion, yn mabwysiadu dull ataliol ac ymyrryd mor gynnar â phosibl, ac sy'n canolbwyntio ar welliannau a manteision hirdymor. Gweledigaeth yw hon a ategwyd gan ein uchelgais yn Llywodraeth Cymru i greu ffyniant i bawb.
Mae Llywodraeth Cymru felly wedi ymrwymo i raglen waith hirdymor o gymunedau mwy diogel mewn partneriaeth â'n partneriaid datganoledig a heb eu datganoli, a rhanddeiliaid. Bydd y rhaglen waith cymunedau mwy diogel yn: gweithio gyda chomisiwn cyfiawnder Cymru i ystyried sut y gallwn wneud pethau'n wahanol yng Nghymru a nodi dewisiadau i ddatblygu system cyfiawnder benodol i Gymru; datblygu perthynas wahanol a dull gweithredu strategol gyda phartneriaid diogelwch cymunedol nad ydyn nhw wedi'u datganoli, sy'n sefydlu swyddogaeth arweinyddiaeth diogelwch cymunedol fwy effeithiol ar gyfer Llywodraeth Cymru; sefydlu polisi partneriaeth diogelwch cymunedol ac ymarfer swyddogaeth arweiniol o fewn Llywodraeth Cymru; ac yn olaf, datblygu canllawiau newydd penodol i Gymru sy'n adeiladu ar yr egwyddor o ddatblygu cynaliadwy ac ar nodweddion partneriaeth effeithiol. Byddwn yn ystyried sut i sefydlu rhwydwaith diogelwch cymunedol cenedlaethol newydd a chynhwysol ar gyfer Cymru i gefnogi datblygiad polisi ac arferion diogelwch cymunedol Cymru i'r dyfodol, ac i helpu i feithrin y sgiliau a'r wybodaeth briodol sydd yn angenrheidiol. Byddwn yn edrych ar gyfleoedd i dreialu trefniadau arolygu ar y cyd ar themâu, gan weithio mewn partneriaeth ar thema lleihau aildroseddu, a byddwn yn ystyried sut i wella rhaglenni sy'n ariannu diogelwch cymunedol er mwyn sicrhau ariannu hirdymor a mwy hyblyg sy'n seiliedig ar ganlyniadau.
Dirprwy Lywydd, rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'n partneriaid a'n rhanddeiliaid, y rhai datganoledig a heb eu datganoli. i arwain y rhaglen hon i'n helpu i gyflawni ein huchelgeisiau a'n gweledigaeth gynaliadwy ar gyfer cymunedau mwy diogel a ffyniant i bawb ledled Cymru.
Diolch am y datganiad yna ac rydych yn nodi neu'n cyfeirio at adroddiad beirniadol yr Archwilydd Cyffredinol, 'Diogelwch cymunedol yng Nghymru', a gyhoeddwyd fis Hydref diwethaf. Pan gyhoeddodd yr Ysgrifennydd dros gymunedau a phlant, Carl Sargeant, ei adolygiad o ddiogelwch cymunedol, ar 7 Chwefror mewn gwirionedd, dywedodd ei fod yn sefydlu grŵp goruchwylio i adolygu'r trefniadau presennol, a dywedodd y byddai'n helpu i ddatblygu argymhellion y weledigaeth ar gyfer cymunedau mwy diogel yng Nghymru a hefyd yn cymryd argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol i ystyriaeth. Roedd yn awyddus hefyd i'r adolygiad ddatblygu gweledigaeth glir ar gyfer diogelwch cymunedol i'r hirdymor. Rydych chi'n defnyddio'r gair 'hirdymor' yn eich datganiad. Ond sut yr ydych chi'n ymateb i argymhelliad yr Archwilydd Cyffredinol bod angen inni wella gwaith cynllunio strategol drwy ddisodli'r fframwaith cynllunio presennol gan strategaeth genedlaethol a gefnogir gan gynlluniau rhanbarthol a lleol; a'i ddatganiad bod angen inni greu byrddau diogelwch cymunedol ffurfiol effeithiol i ddisodli'r strwythurau diogelwch cymunedol presennol; a'i ddatganiad bod angen inni sicrhau bod rheoli perfformiad diogelwch cymunedol yn effeithiol drwy osod mesurau priodol ar bob lefel, sicrhau bod gwybodaeth am berfformiad yn ymdrin â gwaith yr holl asiantaethau perthnasol, a sefydlu mesurau i farnu mewnbwn, allbwn ac effaith i allu deall dylanwadau penderfyniadau buddsoddi a chymorth trosolwg a chraffu?
Yn flaenorol, rwyf wedi mynegi pryderon dro ar ôl tro—nid gyda chi yn uniongyrchol, ond gydag aelodau eraill o Lywodraeth Cymru—a fynegwyd gan y pedwar prif gwnstabl a'r comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru am eu hanallu i gael gafael ar y £2 filiwn y maen nhw wedi eu dalu am yr ardoll prentisiaethau a'u datganiad y bydd hynny'n arwain at lai o swyddogion heddlu a recriwtiaid sy'n dewis ymuno'n gwneud hynny dros y ffin yn lluoedd Lloegr. Pan godais i hynny gyda'r Prif Weinidog, dywedodd,
"Rydym wedi cael cyfran o hwnnw a byddwn yn defnyddio'r arian i dalu am brentisiaethau, ond ni allwn...dalu tuag at...gynlluniau sy'n aros mewn meysydd nad ydyn nhw wedi'u datganoli."
Eto i gyd, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn £128 miliwn, a oedd mewn gwirionedd yn swm o £8 miliwn ychwanegol dros ben y gostyngiadau a wnaed mewn meysydd eraill. Dywedodd swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wrthyf i bythefnos yn ôl fod oedi yn y sefyllfa gan mai Carl Sargeant oedd yn mynd i ddwyn rhanddeiliaid Llywodraeth San Steffan a Chaerdydd at ei gilydd. Dywedodd nad oedd hynny wedi'i ddwyn ymlaen oherwydd y digwyddiadau trist a sensitif iawn yn ystod yr wythnosau diwethaf, a dywedodd mai penderfyniad Ysgrifennydd newydd y Cabinet fydd hi nawr i benderfynu a yw am barhau ag ymrwymiad Ysgrifennydd blaenorol y Cabinet i'r mater hwn. A wnewch chi ddweud, ochr yn ochr â'r gwaith sydd i'w groesawu gyda swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, y bydd Llywodraeth Cymru, y byddwch chi yn ymgymryd â, neu yr ydych chi eisoes yn ymgymryd â'r gwaith yr oedd Carl yn ei ddatblygu yn y maes hwn? Beth bynnag fo'r rhesymau, beth bynnag fo'r achosion, bydd rhaid datrys hyn os ydym yn mynd i osgoi effaith negyddol.
Rydych chi'n cyfeirio droeon at bartneriaeth mewn gwahanol gyd-destunau ac rydych yn cyfeirio at y trydydd sector yn un o'r rhai sydd wedi gweithio yn y grŵp adolygu. Ond sut neu a fyddech chi'n cydnabod y swyddogaeth allweddol y bydd y trydydd sector a phartneriaid yn ei chael yn y gwaith o sicrhau diogelwch cymunedol wrth inni symud ymlaen? Caiff swyddogaeth allweddol rheng flaen, uniongyrchol ei chyflawni gan elusennau cyffuriau ac alcohol yng Nghymru: sefydliadau fel gwasanaeth lles y Groes Goch Brydeinig—euthum gyda nhw i Wrecsam ychydig wythnosau yn ôl; bugeiliaid y stryd; sefydliadau fel y Wallich sy'n ymdrin â materion digartrefedd, ac ati, ac ni allai cyrff statudol wneud eu gwaith oni bai amdanyn nhw.
Yn olaf, yng nghyd-destun y Gogledd, byddwch yn ymwybodol o lawer o gyfeiriadau at y sefyllfa yng nghanol tref Wrecsam, sy'n cael ei achosi'n bennaf gan gyffuriau synthetig fel mamba ddu a sbeis. Flwyddyn yn ôl, yma yn y ddadl ar gamddefnyddio sylweddau, roeddwn i'n dyfynnu cadeirydd bwrdd cymunedau mwy diogel y gogledd a ddywedodd fod llawer gormod yn cael ei wario ar ddiffodd tân a dim digon ar ymyrryd ac atal tân. Ef yw'r dirprwy arweinydd bellach ac aelod arweiniol dros y bobl, cymunedau, partneriaeth, amddiffyn y cyhoedd a diogelwch cymunedol yn Wrecsam. Dywed ei fod wedi dysgu o'u profiadau nhw, ac mae'r cyngor hwnnw yn dwyn ynghyd gorff o weithwyr proffesiynol sy'n gweithio mewn ffordd sy'n cael ei gweld bellach yn esiampl ddisglair. Felly, pa ymgysylltiad fydd gennych chi neu sydd gennych chi eisoes, efallai, â'r esiampl ddisglair honno er mwyn gweld sut y gallwch chi ddysgu gyda'ch gilydd am ffyrdd a allai fod o fudd i bawb yn y dyfodol?
Rwy'n ddiolchgar i lefarydd y Ceidwadwyr am ei sylwadau. Byddaf yn dweud ar y dechrau mai dyma'r cyfle cyntaf i mi ei gael fel Ysgrifennydd y Cabinet i sôn am fy null i o weithredu a dull gweithredu'r Llywodraeth o ran y maes hwn ers i'r datganiadau a'r ymrwymiadau hynny gael eu gwneud. Felly, byddaf, gyda'ch amynedd chi, Dirprwy Lywydd, yn ceisio sôn am y dull yr hoffwn ei gymryd i gyflawni'r ymrwymiadau a wnaeth ein cyfaill Carl Sargeant.
Roeddwn yn teimlo bryd hynny, ac felly hefyd yn awr, fod gweledigaeth Carl wrth iddo sefydlu grŵp i edrych ar y materion hirdymor hynny erbyn hyn yn dechrau dwyn ffrwyth. Credaf fod gwaith y grŵp a fu'n goruchwylio'r gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf wedi dod i'r amlwg wrth gynhyrchu adroddiad heddiw, ond hefyd o ran y ffordd y caiff ei ddwyn yn ei flaen. Rwy'n cydnabod y beirniadaethau a gafwyd yn adroddiad yr archwilydd cyffredinol, ond hefyd y dadansoddiad ehangach yn sail y beirniadaethau hynny, ac rwy'n croesawu adroddiad yr archwilydd cyffredinol wrth iddo roi goleuni, os mynnwch, ar y materion hyn a'r ffordd yr oedd yn dadlau dros newid sylweddol yn y ffordd yr ydym yn darparu diogelwch cymunedol yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd gwaith y grŵp sy'n goruchwylio a'r gwaith a wnaed yn parhau dros y misoedd nesaf gan gyflawni'r weledigaeth a amlinellir yn yr adroddiad, sef gweledigaeth a fydd yn cyflawni o ran cynllunio strategol ond hefyd o ran darparu'r gweledigaethau hynny yn y tymor hwy.
A byddaf yn rhoi ateb uniongyrchol i'r cwestiwn a ofynnodd i mi am gyrff trydydd sector. Yn sicr rydym yn gweld ac yn gwerthfawrogi gwerth y trydydd sector, o ran gweithredu'r strategaeth, ond hefyd wrth reoli ac adolygu'r strategaeth honno hefyd. Rydym yn dymuno i'r trydydd sector fod yn rhan o ddatblygiad, rheolaeth a darpariaeth y rhaglen gyffredinol.
O ran rhai o'r materion ehangach y mae llefarydd y Ceidwadwyr yn eu codi, byddwn yn dweud wrtho, er ei bod yn debygol y byddem yn anghytuno ar rai agweddau ar yr hanfodion polisi gwahanol hyn, gobeithio y gallem gytuno bod hwn yn un maes lle mae'r setliad datganoli yn fwyaf toredig. Nid wyf i am eiliad yn anghytuno â'r heriau y mae wedi'u rhoi ar gofnod y prynhawn yma, a'i her i mi fel Gweinidog. Ond dywedaf wrtho fod llawer o'r materion yr ydym yn eu hwynebu o ran diogelwch cymunedol ac agweddau ehangach polisi cyfiawnder yn cael eu gwneud yn fwy anodd, a'u bod yn fwy anodd yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, oherwydd nad oes gennym yr adnoddau ar gael i ddwyn ynghyd feysydd a swyddogaethau datganoledig a'r rhai sydd heb eu datganoli i ddarparu ymateb cyfannol a chynhwysfawr i'r heriau hynny. A mater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw dangos bod eu gweledigaeth nhw ar gyfer setliad datganoli, nad yw'n cael ei gefnogi gan y mwyafrif yn y Siambr hon, na chan y mwyafrif yn y wlad hon, credaf, yn un sydd yn gynaliadwy, cadarn a chydlynol. Fy mhryder i yw nad yw'r setliad presennol yn gydlynol, yn gynaliadwy nac yn gadarn, ac ar y pwynt hwn o bolisi y mae'n fwyaf toredig. Felly, credaf y byddai'n rheidrwydd ar bob un ohonom i ddangos y byddwn yn gweithio o fewn y setliad i gyflawni ar hyn o bryd. Ond mae'n rhaid iddo gydnabod hefyd mai'r hyn sydd wrth wraidd llawer o'r materion yr ydym yn ceisio eu datrys yw methiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi adnoddau i'r heddlu a hefyd i ddarparu ar gyfer setliad cyfansoddiadol i'r wlad hon, sy'n caniatáu dull cyfannol o ymateb eang i'r heriau y mae ef yn eu hamlinellu'n briodol yn ei gyfraniad.
Diolch ichi am y datganiad hwn. Yr hyn y mae'n ei ddangos i ddechrau, rwy'n credu, yw cymhlethdod y trefniadau yng Nghymru a bod llinellau atebolrwydd yn amlwg yn wahanol. Fel y crybwyllwyd yn flaenorol, rwyf i o'r farn bod y setliad datganoli yn astrus iawn yn hyn o beth. Rydym yn gweld sefyllfa lle mae gan yr heddlu, y comisiynwyr heddlu, Llywodraeth Cymru, y byrddau iechyd, pob un ohonyn nhw, mewn rhyw ffordd, gyfrifoldeb neu ran i'w chwarae. Eu dal nhw i gyfrif pan geir y prosesau datganoli gwahanol hynny sy'n ei gwneud yn fwy cymhleth i gyflawni ac i ninnau graffu ar y gwasanaethau hynny. Felly, mae bob amser yn mynd i fod yn fwy anodd wrth inni edrych ar y darlun sydd ohoni nawr. Dyna pam na ddylech chi synnu pan fyddwch yn ein clywed yn dweud, fel plaid, bod angen inni gael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru a datganoli cyfiawnder i Gymru fel y gallwn fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn. Rwy'n gobeithio mai dyna y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei olygu wrth sôn am 'system gyfiawnder benodol i Gymru', oherwydd mae'n anodd iawn i ni ddod i gasgliadau cadarn heb yr holl offer yn y blwch.
Yr hyn yr hoffwn ei ddweud o ran y datganiad penodol hwn yw y dylid ei alw'n danddatganiad gan ei fod yn amlwg yn tanddatgan y materion a godwyd gan adolygiad yr archwilydd cyffredinol ac adolygiad Llywodraeth Cymru fel ei gilydd. Rwy'n gweithio'n galed i weld y datrysiadau i'r casgliadau hynny nad oeddech chi'n dymuno eu hymarfer o flaen llaw. Mae eich datganiad yn hoff iawn o ddefnyddio geiriau fel 'datblygu', 'ystyried', 'archwilio' wrth restru rhaglenni gwaith sy'n deillio o'r adolygiad hwn. Felly, os caf, hoffwn ofyn am fwy o gig ar yr esgyrn am yr hyn yr ydych yn ei ystyried?
Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud â chasgliad yr adolygiad hwnnw, ac rwy'n dyfynnu:
Ceir tystiolaeth o wrthdaro a dryswch o ran strwythur ac adnoddau a achoswyd gan amrywiaeth o "olion traed" partneriaeth weithredol a strategol rhanbarthol a lleol yn weithredol o fewn yr agenda diogelwch cymunedol.
A gaf i ofyn sut y bydd y rhaglen waith yn egluro ac yn symleiddio'r partneriaethau hyn i fynd i'r afael â'r gwrthdrawiadau hynny?
Yn ail, noda'r adolygiad, ac rwy'n dyfynnu:
Gwelwyd hefyd bod dryswch o ran ffrydiau ariannu diogelwch cymunedol o nifer o ffynonellau llywodraethol, gyda llawer o grantiau wedi'u clymu i delerau ac amodau tra rhagnodol ac anhyblyg sy'n gofyn am lefelau sylweddol o ymdrech weinyddol, monitro ac adrodd am yr hyn sydd fel arfer yn symiau o arian cymharol fach a byrdymor.
Sut yr ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â hyn yn uniongyrchol, Ysgrifennydd y Cabinet?
Gan symud ymlaen at y trydydd mater sydd gennyf yma heddiw, ac rwy'n dyfynnu:
Prin yw'r dystiolaeth am unrhyw newid sylweddol mewn buddsoddi partneriaeth tuag at egwyddorion "buddsoddi i arbed", gan gefnogi mwy o wasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar, ac ymddengys bod y rhan fwyaf o adnoddau diogelwch cymunedol wedi'u cyfeirio tuag at rheoli argyfwng a "thriniaeth".
Yn amlwg, yn unol â blaenoriaethau eraill y Llywodraeth, rydym yn eiddgar i weld buddsoddi rhagweithiol yn hytrach na rheoli argyfwng yn unig. Felly, a ydych chi'n credu mai un o gyfyngiadau annatod caledi yw hyn neu a ydych yn credu ei fod yn ymwneud â'r ffaith nad oes gennym ni rym dros y gwasanaethau i gyd? Hoffwn glywed eich barn.
Fy marn olaf ar hyn, rwy'n credu, yw fy mod yn cofio siarad gyda Carl Sargeant am y ffaith ei fod yn teimlo'n angerddol am y modd y gwnaethom ni integreiddio gwasanaethau yn Abertawe. Rhoddodd enghraifft o sut yr oedd gwasanaethau ambiwlans yn rhoi cyfle i bobl a oedd yn feddw ar noson allan i fynd a chael triniaeth. Ariannwyd hynny wedyn gan gomisiynydd yr heddlu. Roedd yn awyddus iawn i weld sut y gallai'r gwasanaethau hynny gael eu hintegreiddio'n well fel y gellid rhannu'r gost rhwng llawer ac ni fyddai un gwasanaeth o fewn y Llywodraeth yn cymryd yr ergyd gyfan yn sgil hynny. Roedd hynny'n rhywbeth a glywais yn eithaf clir ganddo ef ac roeddwn yn meddwl tybed a yw hynny'n rhywbeth yr ydych chi'n mynd i'w ddatblygu hefyd.
Rwyf am ddechrau drwy ddiolch i lefarydd Plaid Cymru am ei geiriau caredig iawn ar ddechrau ei datganiad. Mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n credu fod yna gryn dipyn o gytundeb ledled y Siambr, mae'n debyg, ar y materion hyn.
Rwy'n dechrau trwy ateb eich cwestiwn olaf yn gyntaf, os nad oes ots gennych chi. Rwyf i yn sicr yn cefnogi hyn a byddaf yn rhoi ateb sy'n atgyfnerthu fy ymrwymiad i'r pwyntiau a wnaed gan Carl Sargeant. Fy mwriad i yn sicr yw bwrw ymlaen â'r gwaith a'r amcanion a osododd ef ar y pryd yn y modd yr amlinellodd hynny i chi. Rwy'n credu bod y sgwrs a gawsoch chi a Carl yn adlewyrchu'n dda iawn ei ymrwymiad i lawer o'r materion hyn ac yn sicr mae hynny'n ymrwymiad y byddwn yn ceisio ei gynnal a'i ailadrodd y prynhawn yma.
O ran sylwadau ehangach a'r cwestiynau a wnaethoch chi eu gofyn am y datganiad hwn, fe ddechreuoch chi eich ymateb, wrth gwrs, drwy ddisgrifio rhai o'r cymhlethdodau yn y strwythurau sydd ar gael i ni. Mae hwn yn gymhlethdod yr oeddwn yn ceisio ei amlinellu fy hun yn fy ateb i Mark Isherwood. Ac mae llawer o'r cymhlethdod hwnnw yn cael ei osod arnom yn hytrach na'n bod ni'n ei greu ein hunain. Yr hyn yr wyf yn ceisio ei wneud yn y datganiad hwn y prynhawn yma yw ceisio dod o hyd i ffordd drwy'r cymhlethdod hwnnw drwy ddod â phobl ynghyd, cytuno ar ein hamcanion ac yna nodi rhaglen waith glir iawn a fydd yn cyflawni'r amcanion hynny.
Wrth ateb dadl Pwyllgor Deisebau ar y carchar ym Maglan yr wythnos diwethaf, ceisiais amlinellu fy null gweithredu i yn y maes polisi hwn. Ac, mewn sawl ffordd, mae gennych chi—. Rwy'n cael fy nhemtio eto, Dirprwy Lywydd, i fynd ymhellach efallai nag y mae fy meddwl wedi caniatáu imi ei wneud yn ystod yr ychydig wythnosau byr yr wyf wedi bod â'r cyfrifoldeb hwn. Ond gadewch i mi ddweud hyn: Rwyf i o'r farn bod y gwaith sydd wedi'i wneud gan y grŵp sy'n goruchwylio'r gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf, dros y naw mis diwethaf, wedi bod yn rhagorol. Defnyddiodd adroddiad yr archwilydd cyffredinol yn gynsail, ond ni chafodd ei gyfyngu gan adroddiadau'r archwilydd cyffredinol, na'i ganfyddiadau na'i argymhellion. Aeth ymhellach ac weithiau mewn cyfeiriad gwahanol i'r un a amlinellwyd gan yr archwilydd cyffredinol, ac rwy'n ddiolchgar am y tensiwn hwnnw, os hoffech chi, sydd wedi cyflawni yr hyn yr wyf yn gobeithio sy'n ddull rhesymol ac ystyriol o weithredu polisi.
Rwy'n awyddus i gyfarfod â'r grŵp goruchwylio yn y flwyddyn newydd er mwyn deall eu meddylfryd ar hyd llinellau gwahanol a deall sut y gallwn ni symud ymlaen â'r gwaith hwn. Fy marn i yw bod y gwaith wedi bod yn arloesol yn y ffordd y ceisiodd ddwyn y gwahanol feysydd hyn a'r gwahanol feysydd polisi hyn ynghyd ond bod hefyd eisiau inni allu gosod targedau clir iawn ar gyfer yr hyn yr ydym yn dymuno ei gyflawni dros y blynyddoedd nesaf, ac mae'n fwriad gennyf i wneud hynny.
Hefyd, fy mwriad yw bwrw ymlaen â'r gwaith a ddechreuwyd gyda'r comisiynwyr heddlu. Roeddech chi'n cyfeirio at waith gwahanol gomisiynwyr yr heddlu, fel y gwnaeth Mark Isherwood. Fe gawson nhw eu cynrychioli, wrth gwrs, yn y grŵp sy'n goruchwylio'r gwaith, ac rydym wedi gallu cyfarfod â rhai comisiynwyr heddlu ers fy mhenodiad i fis diwethaf. Rwy'n bwriadu parhau'r sgyrsiau gyda chomisiynwyr yr heddlu i sicrhau bod gennym y safbwynt cyfannol mwy eang ar bolisi.
O ran y dull cyffredinol, gadewch i mi orffen drwy ddweud hyn: rwy'n gobeithio fy mod wedi egluro wrth ateb cwestiwn gan Jenny Rathbone yr wythnos diwethaf fy mod yn ystyried troseddau ieuenctid a menywod yn flaenoriaeth, yn un lle byddai dull cyfannol yn disodli dulliau blaenorol ac yn un lle byddwn yn ceisio dwyn ynghyd y gwasanaethau datganoledig, ynghyd â gwasanaethau sydd heb eu datganoli a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, wrth geisio arloesi gyda ffordd wahanol o weithio. Rwy'n credu bod hynny yn un o egwyddorion sylfaenol y maes polisi hwn. Mae'n rhy gymhleth—rwy'n cytuno â'ch dadansoddiad chi a'ch beirniadaeth chi—ond i ni nid yw'n hi ddigon beirniadu strwythurau'n unig. I ni, mae'n rhaid inni greu strwythurau newydd, amcanion newydd, gweledigaeth glir a ffordd o gyflawni'r uchelgeisiau hynny.
Diolch ichi. Gareth Bennett.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am ddatganiad heddiw. Mae diogelwch cymunedol yn bwnc diddorol. Genhedlaeth yn ôl, pan oeddwn yn tyfu i fyny, roedd yna lawer mwy o blant yn chwarae yn y strydoedd ac, yn yr haf, mewn parciau cyhoeddus heb oruchwyliaeth o gwbl gan oedolion. Roeddwn innau'n gwneud hynny fy hunan mae'n debyg pan oeddwn yn ifanc iawn. Sylwais rai blynyddoedd yn ddiweddarach fod rhieni yn mynd yn fwy ac yn fwy cyndyn i ganiatáu i blant chwarae yn y strydoedd oherwydd yr ofn ynghylch gormod o draffig a gormod o geir wedi'u parcio yno, a hefyd mewn parciau cyhoeddus oherwydd, i raddau helaeth, ofn dieithriaid. Y peth rhyfedd yw fod plant wedi'u caethiwo fwyfwy i'w cartrefi, ac rydym bellach yn darganfod rai blynyddoedd yn ddiweddarach y gallan nhw hefyd fod mewn perygl yn eu cartrefi oherwydd bod pobl yn cysylltu â nhw ar y rhyngrwyd drwy'r cyfryngau cymdeithasol.
Yr unig ateb allasai fod i hyn yw annog rhieni i dreulio rhagor o amser yn trefnu tripiau i barciau mewn grwpiau i sicrhau amgylchedd diogel i blant gael bod gyda'i gilydd yn yr awyr agored. Felly, tybed, Gweinidog, pan fyddwch chi yn ystyried y cynlluniau newydd ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf, a oes cyfle ar gyfer y math hwn o gynllun i ganiatáu chwarae cymunedol sy'n fwy diogel.
Problem arall sy'n cyffwrdd â hyn yw camddefnyddio sylweddau, oherwydd nid yw'r rhai sy'n gaeth i gyffuriau bob amser yn chwistrellu'r cyffuriau yn eu hystafelloedd gwely; weithiau maen nhw'n gwneud hynny mewn mannau lled-gyhoeddus, a bu pryderon ynglŷn â nodwyddau yn cael eu gadael mewn mannau cyhoeddus. Rydym wedi cael adroddiadau papur newydd am hynny'n weddol ddiweddar yn ardal Butetown Caerdydd ac mae trigolion mewn trefi yn y cymoedd hefyd yn cwyno am y mater hwn. Mae perygl y bydd plant yn codi'r nodwyddau ac yn peri niwed i'w hunain yn anfwriadol. Bu galwadau hefyd mewn rhai mannau am fangreoedd arbennig lle gallai rhai sy'n gaeth i gyffuriau chwistrellu yn ddiogel, ac fe'u gelwir yn barthau chwistrellu diogel. Felly, rwy'n holi tybed beth yw eich barn chi ar y pwnc hwn, Gweinidog. A fyddai parthau chwistrellu diogel yn arwain at gymuned fwy diogel, yn eich barn chi, neu a yw darpariaeth ryddfrydol fel hon yn debygol o wneud dim ond annog mwy o gam-drin cyffuriau?
Mae hwn yn fater perthnasol, gan fod nifer o daleithiau gorllewinol UDA yn symud yn awr tuag at gyfreithiau mwy rhyddfrydol o ran cyffuriau yn gyffredinol. Ond mae'r symudiadau hyn wedi rhannu barn llunwyr polisi. Mae rhywfaint o dystiolaeth ystadegol ar gael eisoes yn nodi, lle bynnag y byddwch chi'n llacio rheolau'r cyfreithiau cyffuriau, yr hyn a gewch chi o fewn ychydig flynyddoedd yw dim ond rhagor o rai sy'n camddefnyddio cyffuriau. Mae hyn yn golygu bod mwy o bobl i'w trin gan weithwyr iechyd proffesiynol, ac mae mwy o faich ar gymdeithas.
Nawr, byddwn yn cael dadl yma yn y flwyddyn newydd am y defnydd meddyginiaethol o ganabis. Nid yw pobl sy'n cymryd canabis at ddefnydd meddyginiaethol yn gyfystyr â phobl sy'n gaeth i heroin ac n chwistrellu gyda nodwyddau, rwy'n deall hynny'n iawn, ond mae'n rhaid dechrau llacio'r polisi cyffuriau yn rhywle. Felly mae'n debyg y bydd gan bobl sydd yn awyddus i gyfreithloni cyffuriau caled fan cychwyn da wrth argymell y defnydd meddyginiaethol o ganabis. Tybed beth yw eich barn chi ar y pwnc hwn a beth yw barn Llywodraeth Cymru?
Rydym wedi cael dadl neu ddwy yma yn ddiweddar am yr archgarchar, fel y'i gelwir, yr oeddech chi'n sôn amdano yn eich sylwadau diwethaf. Roedd gwrando ar rai o'r cyfraniadau yn y ddadl yr wythnos diwethaf yn ennyn fy niddordeb, a'r ffaith bod mwyafrif y bobl sy'n gwrthwynebu'r carchar yn gwneud hynny yn rhannol ar y sail nad oedden nhw'n cytuno gydag archgarchardai yn eu hanfod. Roeddwn yn gweld hynny'n ddiddorol oherwydd nid oeddwn yn ymwybodol fod gennym ni allu cyfreithiol dros yr agwedd hon ar y system cyfiawnder troseddol yma yn y Cynulliad. Ond, wrth gwrs, efallai y bydd rhai o'r bobl sy'n gwrthwynebu'r archgarchardai hefyd yn dymuno inni gael gallu cyfreithiol dros agweddau ar y system cyfiawnder troseddol. Bethan, rwy'n cymryd mai hwnnw yw eich safbwynt chi a safbwynt Plaid Cymru ac rwyf innau hefyd yn cymryd, o'ch sylwadau chi, Gweinidog, mai dyna yw eich safbwynt chithau hefyd o bosibl. Roeddech chi'n dweud nad yw'r setliad datganoli presennol yn gydlynol. Beth yw eich gweledigaeth chi o ran sut y byddai pethau'n gweithio pe bai gennych chi'r gallu cyfreithiol, yr ydych yn awyddus i'w gael, dros y system cyfiawnder?
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet.
Nid wyf yn siŵr ble i dechrau, Dirprwy Lywydd, ond gadewch i mi ddechrau gyda'i gwestiwn olaf, eto—ymddangys fy mod wedi dod i'r arfer â gwneud hynny. Mae fy ngweledigaeth i yn eglur iawn, iawn: rwy'n credu y dylid datganoli plismona i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn gyfochrog â pholisi cyfiawnder, o fewn awdurdodaeth gyfreithiol unigryw i Gymru, a fydd yn rhoi eglurder a gallu i gyflawni dulliau cyfannol o weithredu polisi ac i wneud hynny o fewn strwythurau setliad datganoli clir lle mae gennym ni eglurder o ran atebolrwydd—i'r lle hwn fod yn gyfrifol am yr holl wahanol orchmynion a dulliau polisi hynny. A gadewch i mi ddweud pam wrthych chi: o ran ein safle ar hyn o bryd, nid dadl gyfansoddiadol sych yw hon fydd yn digwydd ymysg cyfreithwyr yn hwyr y nos; dyma sut y byddwn yn cyflwyno polisi ar gyfer rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn y wlad.
Treuliodd cynrychiolydd UKIP gryn amser yn sôn am gamddefnyddio sylweddau a gweithgarwch arall a allai fod yn droseddol. Nid ydych yn ymdrin â'r materion hynny drwy ymateb gan yr heddlu yn unig. Un wers y gwnaethom ni ei dysgu, dro ar ôl tro—ac wedi ei hanghofio yn rhy aml—yw, os ydym am fynd i'r afael â throseddu ar ei lefel mwyaf sylfaenol, yna mae angen inni ddefnyddio dull llawer mwy cynhwysfawr a chyfannol sy'n ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau eraill, yn ogystal ag asiantaethau plismona ac asiantaethau gorfodi eraill. Nid oes modd—ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli hyn; a yw UKIP yn sylweddoli hynny ai peidio, nid wn—inni fynd i'r afael â'r materion hyn sy'n ymwneud â diogelwch cymunedol a throseddu gan ddefnyddio plismona a charchar neu ddulliau cosb yn unig. Yn sicr nid dyna farn y Llywodraeth hon o ran y modd y byddwn yn mynd i'r afael â materion hyn. Felly, rydym yn awyddus i weld dull mwy cyfannol a chynhwysfawr o sicrhau cymunedau mwy diogel o fewn polisi cyfiawnder lle mae adsefydlu'n rhan ganolog ohono.
Dywedaf hyn o ran pwyntiau gwreiddiol y cyflwyniad a wnaeth llefarydd UKIP y prynhawn yma. Un o ddiddordebau angerddol Carl Sargeant yn ei swydd, os mynnwch chi, oedd creu amgylchedd lle'r oedd plant yn tyfu, ond hefyd yn cael eu meithrin—eu meithrin mewn teuluoedd cynnes, cariadus mewn cymunedau lle roedden nhw'n gallu mynd allan i chwarae a thyfu i fyny gan deimlo'n ddiogel ac yn saff.
Daeth â holl fater ACEs—profiadau niweidiol yn ystod plentyndod—i mewn i galon y Llywodraeth, a bûm yn eistedd o gylch byrddau lawer yn siarad ag ef, wrth iddo fynd â'r maen i'r wal o ran pwysigrwydd plentyndod a sicrhau plentyndod hapus a diogel i blant ledled y wlad. Yn ei hanfod, yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud wrth ddatblygu polisi ar gyfer cymunedau mwy diogel yw galluogi pob un ohonom i fyw bywydau diogel lle gallwn deimlo'n ddiogel yn ein cartrefi, yn ddiogel yn ein strydoedd a lle gallwn dyfu'n oedolion a thyfu'n hen mewn cymuned sy'n gofalu am bawb.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Hoffwn achub ar y cyfle hwn i fyfyrio ar un neu ddau o'm profiadau diweddar yn fy ardal i, sydd yn fy marn i yn atgyfnerthu nifer o bwyntiau yr ydych wedi'u codi yn eich datganiad. A gaf i ddechrau trwy ddweud—? Hoffwn gymryd munud, mewn gwirionedd, i bwysleisio nad Merthyr Tudful yw'r dref a gafodd ei phortreadu yn y gyfres deledu Valley Cops. Rwyf i o'r farn y byddai unrhyw un sydd wedi bod yn yr ardal yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf ac sydd wedi gweld ymateb y gymuned i'r tywydd mawr— mae wedi dangos unwaith eto mai tref â chalon gynnes yw hon sydd bob amser yn barod i fynd yr ail filltir ar gyfer ei chymdogion pan ddaw adfyd ar eu traws nhw. Credaf fod angen i'n hymateb ni i'r angen am gymunedau sydd yn fwy diogel adlewyrchu'r ysbryd hwnnw.
Wrth wraidd y gwaith hwnnw mae'n rhaid cael plismona â chydsyniad y gymuned, a dull partneriaeth cydweithredol ac ymatebol. Fel yr ydych chi eisoes wedi'i nodi, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n rhaid i'r cydweithrediad fod rhwng y gymuned, yr heddlu a phartneriaid eraill. Ac yn yr ysbryd hwnnw o gydweithredu, mae gan bob un gyfrifoldeb ac mae gan bob un ei ran i'w chwarae. Mae'n rhaid i'r gymuned gymryd y cyfrifoldeb dros adrodd am droseddau ac anhrefn, honno yw'r unig ffordd y gall yr heddlu gasglu tystiolaeth ar gyfer eu gwaith. Ond, yn gyfnewid am hynny, mae cymunedau yn gofyn am ymateb effeithiol gan yr heddlu i'r wybodaeth a roddir iddyn nhw, ac mae hynny'n cynnwys presenoldeb amlwg gan yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol sy'n magu hyder y gymuned. Ond, fel y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn eich ymateb i Mark Isherwood, er bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu nifer y swyddogion cymorth cymunedol—yn wahanol i Loegr, lle maen nhw wedi'u cwtogi—nid yw presenoldeb amlwg gan swyddogion yr heddlu yn hawdd pan mae cwtogi wedi digwydd ac yn parhau i ddigwydd ar eu niferoedd, a dim ond cymorth cyfyngedig y gall swyddogion cymorth cymunedol ei gynnig mewn gwirionedd.
Fodd bynnag, rhoddaf i un enghraifft o waith partneriaeth diogelwch cymunedol yn fy ardal i. Roeddwn yn falch iawn yn ddiweddar o weld comisiynydd heddlu a throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn ymateb yn gadarnhaol i bryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol a godwyd gan drigolion yng Nghwm Rhymni uchaf. Galwodd ef bartneriaid at ei gilydd i drafod y materion hyn, ac rydym bellach yn dilyn hynny gyda chamau gweithredu sy'n seiliedig ar y pryderon hynny. Daw rhai o'r camau gweithredu a'r ymatebion hynny oddi wrth bartneriaid yn ogystal â'r heddlu, oherwydd mae'n amlwg mai gêm i'r tîm cyfan yw gweithio gyda'i gilydd er diogelwch ein cymunedau, ac rydym ni oll yn rhan o'r tîm hwnnw. Ac mae angen yr ymateb hwnnw gan bartneriaid eraill. Mae rhai o'r materion hyn, er enghraifft camddefnyddio sylweddau, yn gofyn am ymyrraeth a chymorth nad ydyn nhw wedi'u canoli ar yr heddlu. Yn yr un modd, gyda phroblemau iechyd meddwl, ni fydd yr ateb gorau yw'r ymateb sy'n seiliedig ar drosedd, ond gall partneriaid eraill helpu. Felly, rwy'n awyddus i gael gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y credwch chi y gallwn ni ganolbwyntio ein hymdrechion yn fwy effeithiol i wneud yn siŵr y gall y modelau o bartneriaeth leol y mae eu hangen arnom sicrhau cymunedau mwy diogel yn erbyn y cefndir o rwystrau niferus a gydnabyddir yn eich datganiad.
Mae'r Aelod dros Ferthyr Tudful a minnau yn cynrychioli cymunedau tebyg iawn ym Mlaenau'r Cymoedd, a gwelais ei hymateb i'r rhaglen deledu Valley Cops. Roeddwn innau'n rhannu llawer o'r un rhwystredigaethau â chi. Weithiau, mae awydd y gwneuthurwyr rhaglenni i greu drama ar ein sgriniau yn golygu nad ydyn nhw bob amser yn cynrychioli realiti bywyd yn ein cymunedau, ble bynnag y maen nhw'n digwydd bod. Credaf mai achos sicr o hynny sydd yma.
A gaf i ddweud hyn? Rwyf i wedi cyfarfod â chomisiynwyr yr heddlu o Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent. Fe wnes i gyfarfod â nhw yr wythnos ddiwethaf i drafod yr adroddiad hwn, ond hefyd sut y byddwn ni'n datblygu'r materion hyn dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Roedd yn braf iawn clywed y ddau gomisiynwr heddlu yn sôn am sut y maen nhw'n awyddus i weithio ochr yn ochr â'u cydweithwyr yn Nyfed-Powys ac yn y Gogledd, a hefyd sut roedden nhw'n gweld eu hunain yn rhan o'n cymunedau, yn awyddus i weithio gyda'r rhwystrau, ar eu traws a thrwyddynt, sydd wedi'u creu drwy statud, ac sy'n effeithio ar bob un ohonom ni. Roeddwn i'n teimlo bod honno'n enghraifft gadarnhaol iawn o'r modd y gall comisiynwyr heddlu helpu fel catalyddion eu hunain i ddwyn ynghyd y gwahanol grwpiau cymunedol i gyflwyno diogelwch cymunedol o fewn a ledled ein holl gymunedau, fel y dangoswyd gan rai o'r materion a godwyd gan yr aelod dros Ferthyr sydd yn amlwg yn effeithio ar fywydau llawer gormod o bobl ar hyn o bryd.
Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu parhau gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu catalydd ac arweiniad, gan ddwyn ynghyd sefydliadau ac asiantaethau datganoledig a heb eu datganoli i sicrhau bod gennym weledigaeth gyffredin eglur iawn o'r ffordd y bwriadwn gyflawni ar gyfer ein cymunedau, ac yna i sefydlu—ac mae hyn yn gwbl allweddol, Dirprwy Lywydd, i'r hyn yr hoffwn ei ddweud y prynhawn yma—mae angen inni sefydlu cynllun gweithredu clir iawn a chreu proses y gallwn symud ymlaen ynddi gyda chyflymder ac ar fyrder er mwyn cyflawni rhai buddiannau gwirioneddol i'r gymuned. Credaf ein bod wedi gweld rhywfaint o hynny'n barod: mae gwaith arloesol y Llywodraeth hon a'r Cynulliad blaenorol yn y Ddeddf ar drais yn erbyn menywod wedi dwyn gwasanaethau at ei gilydd nad oedd yn bosibl cyn hynny ac heb arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Rwy'n gobeithio bod hynny wedi sefydlu patrwm ar gyfer symud ymlaen yn y dyfodol i gyflwyno dull cyfannol o ymdrin â rhai o'r problemau sydd wedi'u gwreiddio ddyfnaf yn ein cymunedau, ac rwy'n gwbl argyhoeddedig fod y dull cyfannol hwnnw yn un a fydd yn darparu budd gwirioneddol i bobl ym Merthyr Tudful ac mewn mannau eraill yn y wlad.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.