Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Y pwynt a wnaeth yr Aelod am argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy, efallai, yw’r pwynt pwysicaf un. Caf fy atgoffa o ystadegyn eithaf dychrynllyd o ardal Mersi a Dyfrdwy, lle mae 20 y cant o bobl ifanc ddi-waith yn methu â mynd i gyfweliadau swydd am nad ydynt yn gallu fforddio trafnidiaeth gyhoeddus, neu am nad oes trafnidiaeth gyhoeddus ar gael iddyn nhw i gyrraedd y cyfweliadau hynny—gormod o bobl ifanc, ac mae hynny mewn ardal drefol. Mae llawer gormod o bobl ifanc yn cael eu cau allan o'r farchnad swyddi, oherwydd na allan nhw hyd yn oed gael cyfleoedd i gael eu cyfweld am swyddi.
Felly, rwy'n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn chwalu'r rhwystr penodol hwnnw rhag cyflogaeth i bobl ifanc i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad sy'n digwydd ar hyn o bryd ar docynnau teithio rhatach i bobl ifanc. Ond mae angen gwneud mwy, a byddwn yn gwneud mwy. Rwy’n meddwl nad oedd dadreoleiddio yn 1986 yn ddim llai na thrychineb i wasanaethau bws lleol ledled Cymru a gweddill Prydain, ond y flwyddyn nesaf, caiff diwygiadau eu cyflwyno a chaiff newid radical ei gynnig i sicrhau bod gwasanaethau bysiau’n gwasanaethu pobl Cymru yn well, yn hytrach na'r cymhelliad i wneud elw.
Gofynnodd yr Aelod yn ddigon teg a wyf yn meddwl bod digon o adnoddau ariannol yn cael eu buddsoddi mewn gwasanaethau bysiau ledled Cymru ar hyn o bryd i'w gwneud yn addas at eu diben, yn addas i’r teithwyr y maen nhw i fod i’w gwasanaethu. Byddwn i'n dweud, ‘oes’; rwy’n credu bod digon o adnoddau’n cael eu buddsoddi ar hyn o bryd—o gwmpas £0.25 biliwn y flwyddyn. Mae tua 100 miliwn o deithiau teithwyr yn cael eu cymryd ar wasanaethau bysiau, felly gallwch chi amcangyfrif faint sy’n cael ei wario fel cymhorthdal i bob teithiwr. Ond yr hyn yr wyf i’n meddwl ei fod yn hanfodol yw ein bod yn cael mwy o werth am ein harian o wasanaethau bysiau a bod darparwyr gwasanaethau bysiau’n gwneud mwy i gynyddu nifer y teithwyr sy'n talu hefyd, i’w gwneud eu hunain yn fwy cynaliadwy.
A ydym ni'n cymryd ymagwedd ddigon cyfannol at integreiddio trafnidiaeth? Byddwn yn awgrymu, hyd yn ddiweddar, efallai nad ydym, ond ers creu Trafnidiaeth Cymru, gyda’n pwyslais penderfynol ar greu teithio integredig, ar deithio llesol, rwy’n meddwl ein bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir, ond mae angen gwneud llawer mwy, ac rwy’n meddwl yn enwedig ym maes annog pobl i fanteisio ar ddewisiadau teithio llesol yn lle cerbydau modur.
Rydym ni'n adolygu'r fframwaith diogelwch ffyrdd i roi sylw i un o'r pryderon allweddol sydd gan bobl ifanc yn enwedig ynglŷn â defnyddio teithio llesol fel dewis amgen i wasanaethau bysiau neu fathau eraill o gerbydau modur. Mae'n eithaf arwyddocaol, hyd at ysgol uwchradd, y bydd y rhan fwyaf o bobl yn cerdded i'r ysgol, ac yn yr ysgol uwchradd eu bod yn mynd ar fws. Nawr, mewn llawer o achosion, mae ysgolion yn rhy bell o gartrefi i bobl gerdded, ond dydyn nhw ddim o reidrwydd yn rhy bell i feicio. Un rhwystr mawr yw'r ofn—nid dim ond ofn y bobl ifanc, ond hefyd ofn eu rhieni na fyddan nhw'n ddiogel ar y ffyrdd. Er mwyn ymdrin â hyn, oes, mae angen gwneud mwy i addysgu pobl ifanc a’u rhieni, ond hefyd mae angen hyfforddi pobl ifanc yn well ac yn fwy cyson nid dim ond ynglŷn â diogelwch a hyfedredd beicio, ond hefyd diogelwch wrth gerdded. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni drwy’r fframwaith diogelwch ffyrdd newydd diwygiedig. Bydd hyn yn cwmpasu pob person ifanc rhwng tair ac 16 oed.