Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad wedi'i ddiweddaru? Rydym ni i gyd yn cydnabod bod trafnidiaeth, ar ba ffurf bynnag, yn hanfodol ar gyfer y rhan fwyaf o agweddau ar fywyd bob dydd. Mae'n darparu cyfleoedd i bobl fynd i swyddi, gweithgareddau hamdden a chymdeithasol, yn ogystal â gwasanaethau hanfodol, gan gynnwys iechyd ac addysg. Mae'n hollbwysig fel sbardun i ffyniant economaidd, gan gysylltu busnesau â'u cwsmeriaid a’u cyflenwyr. Gall hefyd gael effaith ddifrifol ar yr amgylchedd, cymunedau a hyd yn oed ein hiechyd. Gall trafnidiaeth hygyrch sydd ar gael yn rhwydd ddylanwadu ar ble mae pobl yn byw ac yn gweithio, eu gweithgareddau hamdden a'u cyfleoedd i ryngweithio gyda ffrindiau, teulu a'r gymuned ehangach.
Ydy Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod y cymorth ariannol a roddir i gwmnïau bysiau yn ddigonol iddynt gyflawni eu rhwymedigaethau yn y sector hwn? Mae’r diffyg cysylltiadau trafnidiaeth da yn achosi tagfeydd, sy'n costio miliynau o bunnoedd i’r economi bob blwyddyn, a dyna pam mae busnesau Cymru yn gyson yn nodi gwella cysylltiadau trafnidiaeth a’u dibynadwyedd ymysg eu prif flaenoriaethau. Hefyd, mae pryderon yn cynyddu am effaith trafnidiaeth ar ein hiechyd a'n lles. Rydym ni'n nodi yn y fan yma y ddeddfwriaeth a’r mentrau, megis teithio llesol, sydd wedi cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru gyda nodau canmoladwy iawn. Ond a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod digon yn cael ei wneud i hyrwyddo teithio llesol, o ystyried ei botensial i liniaru—mae'n ddrwg gennyf, rydw i wedi colli’r gair; rydw i wedi colli’r gair go iawn y tro hwn—'tagfeydd' yw'r gair yr wyf yn chwilio amdano—[Chwerthin.]—tagfeydd yn ein dinasoedd ac yn ein trefi?
Mae angen system drafnidiaeth ar Gymru sy'n adlewyrchu natur ddaearyddol a hanesyddol unigryw ein gwlad. Roedd y diwydiannau traddodiadol fel glo a dur yn golygu nad oedd angen i lawer o’r boblogaeth deithio rhyw lawer; roedd llawer ohonyn nhw'n gallu cerdded i'r gwaith. Mae dirywiad y diwydiannau hyn wedi golygu bod y boblogaeth yn aml yn gorfod defnyddio rhyw fath o drafnidiaeth i fynd i’r gwaith, a llawer yn gwneud teithiau canolig neu hir. Mae’r cynnydd mewn cyfoeth wedi golygu mai ceir yw’r prif ffurf o deithio. Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu gwaith caled i ddisodli'r ffurf rad, hyblyg a chyfleus hon o drafnidiaeth. Onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno mai dim ond drwy sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn rhad, yn ddibynadwy ac ar gael yn rhwydd y gall obeithio hwyluso'r newid mawr hwn i’n dulliau o fynd i’r gwaith?
Mae’r newid enfawr i batrymau gwaith i’w weld yn y llifoedd traffig i mewn ac allan o'n cytrefi mawr—y prif lifoedd i mewn yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd yn y de, a Chaernarfon, Bangor a Wrecsam yn y gogledd; a’r llifoedd allan o Fro Morgannwg, Caerffili a Chymoedd y de yn y de, ac o Ynys Môn a’r gogledd-orllewin yn y gogledd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod dulliau cyfannol digon cryf yn bodoli i hwyluso ateb cynhwysfawr i broblemau trafnidiaeth Cymru? Rydym ni'n cydnabod y bwriedir i'r metro, yn y gogledd ac yn arbennig yn y De, ddatrys llawer o'r problemau y soniwyd amdanynt uchod. Pam, felly, Ysgrifennydd y Cabinet, nad ydym yn gweld y metro yn cael ei ddarparu ar lawr gwlad?
Er gwaethaf y cwestiynau a godwyd, rydym ni'n edrych ymlaen at weithio gyda Ysgrifennydd y Cabinet i gyflawni'r cynlluniau uchelgeisiol hyn, sydd mor hanfodol i sicrhau economi ffyniannus i Gymru.