Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Diolch, Llywydd, ac rwy'n cynnig y cynnig. Cafodd y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) ei basio ac fe ddaeth yn Ddeddf, yn unfrydol, bron i ddwy flynedd yn ôl. Mae'r Ddeddf yn darparu fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Ceir sawl eitem o is-ddeddfwriaeth sy'n deillio o'r Ddeddf, ac rydych chi, yr Aelodau yma heddiw, eisoes wedi pasio nifer o'r rheoliadau hyn. Mae fy swyddogion wedi gweithio'n agos gyda'r rheoleiddiwr, a gyda'r sector, i ddatblygu rheoliadau sy'n gymesur, sy'n gadarn, ac sy'n addas i'w diben. Mae'r rheoliadau sydd ger eich bron heddiw, y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017, yn arfer nifer o'r pwerau sydd wedi'u cynnwys yn y Ddeddf. Maen nhw wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus eang.
Un o amcanion y Ddeddf yw rhesymoli maint y ddeddfwriaeth a sicrhau lefel briodol o gysondeb ar draws yr ystod gyfan o wasanaethau rheoleiddedig. Felly, o ganlyniad i hyn, mae'r rheoliadau hyn yn berthnasol i gartrefi gofal, gwasanaethau cymorth yn y cartref, llety diogel a chanolfannau preswyl i deuluoedd. Maen nhw'n cael eu cefnogi gan ganllawiau statudol, sy'n nodi'n fanylach sut y gall darparwyr a'r unigolion cyfrifol gydymffurfio â gofynion.
Mae'r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru osod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau rheoleiddedig, ac mae'r rheoliadau hyn yn darparu eglurder a sicrwydd drwy nodi'r gofynion hynny yn fanwl. Maen nhw'n canolbwyntio ar ganlyniadau a lles, ac yn cwmpasu materion a fydd yn sail i ansawdd a diogelwch gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys llywodraethu'r gwasanaeth, sut y darperir y gwasanaeth, sut y caiff ei staffio, a sut y mae hyn yn diogelu pobl sydd dan ei ofal. Hefyd, mae gofynion o ran gwasanaethau yn llety'r defnyddiwr er mwyn sicrhau bod y safle yn addas i'r bobl sy'n byw ynddo. Ar gyfer safleoedd newydd, ceir mwy o ragnodi er mwyn cefnogi gwelliant cyffredinol dros amser yn yr ystâd adeiledig.
Mae ansawdd y gofal wedi'i gysylltu'n anorfod ag ansawdd a sefydlogrwydd y gweithlu sy'n darparu'r gofal hwnnw. Felly, er mwyn cefnogi hyn, rwyf i wedi achub ar y cyfle hwn i osod gofynion penodol ar ddarparwyr gwasanaethau cymorth yn y cartref. Bydd hyn yn sicrhau bod y gweithwyr yn cael dewis o drefniadau cytundebol a bod amser gofal wedi'i gynllunio'n briodol, heb fod amser teithio yn ei leihau. Mae'r Ddeddf yn atgyfnerthu atebolrwydd corfforaethol drwy ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr ddynodi unigolyn cyfrifol yn rhan o'u cofrestriad. I gyd-fynd â hynny, mae'r Ddeddf yn caniatáu i Weinidogion Cymru osod dyletswyddau ar yr unigolyn cyfrifol hwnnw. Mae'r rheoliadau yn gosod gofynion penodol ar unigolion cyfrifol o ran ansawdd a chydymffurfiaeth y gwasanaeth, ac rwy'n disgwyl i unigolion cyfrifol fod yn rhan o'r gwasanaeth, yn hytrach na bod wedi datgysylltu oddi wrtho. Felly, mae hyn yn cynnwys gofyniad i ymweld â'r gwasanaeth.
Mae'r rheoliadau hefyd yn nodi pa wasanaethau sydd wedi eu heithrio o'r rheoleiddio. Mae'n bwysig bod eglurder yn hyn o beth, fel bod darparwyr yn sicr pa un a ydyn nhw wedi'u cynnwys yng nghwmpas y Rheoliadau hyn ai peidio. Mae'r rhain yn efelychu'r eithriadau o dan y ddeddfwriaeth bresennol i raddau helaeth, ond maen nhw hefyd yn nodi trefniadau eraill, y bwriedir iddyn nhw fod y tu allan i reoleiddio. Mae'n rhaid i'r rheoleiddiwr allu gweithredu pe byddai darparwyr yn ddiffygiol. Felly gall y rheoleiddiwr orfodi'r gofynion yn y rheoliadau hyn. Mae'r rheoliadau hefyd yn darparu eglurder ynglŷn â pha achosion o dorri’r gofynion a gaiff eu trin fel trosedd. Mae'r rheoliadau hefyd yn ymdrin â materion eraill, megis y gofynion hysbysu a'r trefniadau a fydd yn berthnasol pe byddai datodwr yn cael ei benodi neu pe byddai darparwr sy'n unigolyn yn marw. Maen nhw hefyd yn nodi o dan ba amgylchiadau y caiff Gweinidogion Cymru, yn hytrach na darparwr gwasanaethau, ddynodi unigolyn i fod yr unigolyn cyfrifol. Mae natur y rheoliadau penodol hyn yn dechnegol i raddau helaeth, ond serch hynny, yn hanfodol i weithrediad llyfn y system gyffredinol.
Bydd y rheoliadau yn eu cyfanrwydd yn dylanwadu ar y ffordd y darperir y gwasanaethau gofal a chymorth hyn am flynyddoedd i ddod. Roeddwn i'n falch iawn o lefel yr ymgysylltu yn ystod proses yr ymgynghoriad cyhoeddus ac, yn naturiol, roedd agweddau penodol wedi denu diddordeb arbennig. Felly, rwyf i wedi ystyried yr adborth o'r ymgynghoriadau yn ofalus, ac wedi gwneud ambell i newid o ganlyniad i hyn. Mewn rhai achosion, bu hyn yn angenrheidiol i egluro'r bwriad gwreiddiol. Mewn achosion eraill, mae'r diwygiadau mewn ymateb i faterion a godwyd yn ystod y broses ymgynghori. Felly, rwyf i, er enghraifft, wedi achub ar y cyfle i egluro'r gofynion o ran nyrsys cofrestredig. Rwyf hefyd wedi addasu'r gofynion o ran ystafelloedd a rennir ar gyfer oedolion, ac amlder archwiliadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Yn yr un modd, ar ôl ystyried amlder yr ymweliadau gan yr unigolyn cyfrifol, rwyf i wedi diwygio'r gofyniad hwn.
Rwy'n fodlon, Llywydd, bod angen y newidiadau hyn i sefydlu system sy'n gweithio'n effeithiol yn gyffredinol heb amharu ar ein bwriadau. Rwyf wedi cyhoeddi adroddiad ar ganlyniad ein hymgynghoriad cyhoeddus. Mae'r rheoliadau hyn yn angenrheidiol i ddarparu system newydd ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen. Byddan nhw'n sicrhau bod yr un safonau uchel a'r un pwyslais ar wella ac arfer da yn berthnasol i'r ystod gyfan hon o wasanaethau a reoleiddir, ac rwy'n eu cymeradwyo i'r Aelodau ac yn edrych ymlaen at eu cyfraniadau heddiw.