– Senedd Cymru am 4:57 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017, ac rydw i'n galw ar y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig—Huw Irranca-Davies.
Cynnig NDM6609 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Tachwedd 2017.
Diolch, Llywydd, ac rwy'n cynnig y cynnig. Cafodd y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) ei basio ac fe ddaeth yn Ddeddf, yn unfrydol, bron i ddwy flynedd yn ôl. Mae'r Ddeddf yn darparu fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Ceir sawl eitem o is-ddeddfwriaeth sy'n deillio o'r Ddeddf, ac rydych chi, yr Aelodau yma heddiw, eisoes wedi pasio nifer o'r rheoliadau hyn. Mae fy swyddogion wedi gweithio'n agos gyda'r rheoleiddiwr, a gyda'r sector, i ddatblygu rheoliadau sy'n gymesur, sy'n gadarn, ac sy'n addas i'w diben. Mae'r rheoliadau sydd ger eich bron heddiw, y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017, yn arfer nifer o'r pwerau sydd wedi'u cynnwys yn y Ddeddf. Maen nhw wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus eang.
Un o amcanion y Ddeddf yw rhesymoli maint y ddeddfwriaeth a sicrhau lefel briodol o gysondeb ar draws yr ystod gyfan o wasanaethau rheoleiddedig. Felly, o ganlyniad i hyn, mae'r rheoliadau hyn yn berthnasol i gartrefi gofal, gwasanaethau cymorth yn y cartref, llety diogel a chanolfannau preswyl i deuluoedd. Maen nhw'n cael eu cefnogi gan ganllawiau statudol, sy'n nodi'n fanylach sut y gall darparwyr a'r unigolion cyfrifol gydymffurfio â gofynion.
Mae'r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru osod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau rheoleiddedig, ac mae'r rheoliadau hyn yn darparu eglurder a sicrwydd drwy nodi'r gofynion hynny yn fanwl. Maen nhw'n canolbwyntio ar ganlyniadau a lles, ac yn cwmpasu materion a fydd yn sail i ansawdd a diogelwch gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys llywodraethu'r gwasanaeth, sut y darperir y gwasanaeth, sut y caiff ei staffio, a sut y mae hyn yn diogelu pobl sydd dan ei ofal. Hefyd, mae gofynion o ran gwasanaethau yn llety'r defnyddiwr er mwyn sicrhau bod y safle yn addas i'r bobl sy'n byw ynddo. Ar gyfer safleoedd newydd, ceir mwy o ragnodi er mwyn cefnogi gwelliant cyffredinol dros amser yn yr ystâd adeiledig.
Mae ansawdd y gofal wedi'i gysylltu'n anorfod ag ansawdd a sefydlogrwydd y gweithlu sy'n darparu'r gofal hwnnw. Felly, er mwyn cefnogi hyn, rwyf i wedi achub ar y cyfle hwn i osod gofynion penodol ar ddarparwyr gwasanaethau cymorth yn y cartref. Bydd hyn yn sicrhau bod y gweithwyr yn cael dewis o drefniadau cytundebol a bod amser gofal wedi'i gynllunio'n briodol, heb fod amser teithio yn ei leihau. Mae'r Ddeddf yn atgyfnerthu atebolrwydd corfforaethol drwy ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr ddynodi unigolyn cyfrifol yn rhan o'u cofrestriad. I gyd-fynd â hynny, mae'r Ddeddf yn caniatáu i Weinidogion Cymru osod dyletswyddau ar yr unigolyn cyfrifol hwnnw. Mae'r rheoliadau yn gosod gofynion penodol ar unigolion cyfrifol o ran ansawdd a chydymffurfiaeth y gwasanaeth, ac rwy'n disgwyl i unigolion cyfrifol fod yn rhan o'r gwasanaeth, yn hytrach na bod wedi datgysylltu oddi wrtho. Felly, mae hyn yn cynnwys gofyniad i ymweld â'r gwasanaeth.
Mae'r rheoliadau hefyd yn nodi pa wasanaethau sydd wedi eu heithrio o'r rheoleiddio. Mae'n bwysig bod eglurder yn hyn o beth, fel bod darparwyr yn sicr pa un a ydyn nhw wedi'u cynnwys yng nghwmpas y Rheoliadau hyn ai peidio. Mae'r rhain yn efelychu'r eithriadau o dan y ddeddfwriaeth bresennol i raddau helaeth, ond maen nhw hefyd yn nodi trefniadau eraill, y bwriedir iddyn nhw fod y tu allan i reoleiddio. Mae'n rhaid i'r rheoleiddiwr allu gweithredu pe byddai darparwyr yn ddiffygiol. Felly gall y rheoleiddiwr orfodi'r gofynion yn y rheoliadau hyn. Mae'r rheoliadau hefyd yn darparu eglurder ynglŷn â pha achosion o dorri’r gofynion a gaiff eu trin fel trosedd. Mae'r rheoliadau hefyd yn ymdrin â materion eraill, megis y gofynion hysbysu a'r trefniadau a fydd yn berthnasol pe byddai datodwr yn cael ei benodi neu pe byddai darparwr sy'n unigolyn yn marw. Maen nhw hefyd yn nodi o dan ba amgylchiadau y caiff Gweinidogion Cymru, yn hytrach na darparwr gwasanaethau, ddynodi unigolyn i fod yr unigolyn cyfrifol. Mae natur y rheoliadau penodol hyn yn dechnegol i raddau helaeth, ond serch hynny, yn hanfodol i weithrediad llyfn y system gyffredinol.
Bydd y rheoliadau yn eu cyfanrwydd yn dylanwadu ar y ffordd y darperir y gwasanaethau gofal a chymorth hyn am flynyddoedd i ddod. Roeddwn i'n falch iawn o lefel yr ymgysylltu yn ystod proses yr ymgynghoriad cyhoeddus ac, yn naturiol, roedd agweddau penodol wedi denu diddordeb arbennig. Felly, rwyf i wedi ystyried yr adborth o'r ymgynghoriadau yn ofalus, ac wedi gwneud ambell i newid o ganlyniad i hyn. Mewn rhai achosion, bu hyn yn angenrheidiol i egluro'r bwriad gwreiddiol. Mewn achosion eraill, mae'r diwygiadau mewn ymateb i faterion a godwyd yn ystod y broses ymgynghori. Felly, rwyf i, er enghraifft, wedi achub ar y cyfle i egluro'r gofynion o ran nyrsys cofrestredig. Rwyf hefyd wedi addasu'r gofynion o ran ystafelloedd a rennir ar gyfer oedolion, ac amlder archwiliadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Yn yr un modd, ar ôl ystyried amlder yr ymweliadau gan yr unigolyn cyfrifol, rwyf i wedi diwygio'r gofyniad hwn.
Rwy'n fodlon, Llywydd, bod angen y newidiadau hyn i sefydlu system sy'n gweithio'n effeithiol yn gyffredinol heb amharu ar ein bwriadau. Rwyf wedi cyhoeddi adroddiad ar ganlyniad ein hymgynghoriad cyhoeddus. Mae'r rheoliadau hyn yn angenrheidiol i ddarparu system newydd ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen. Byddan nhw'n sicrhau bod yr un safonau uchel a'r un pwyslais ar wella ac arfer da yn berthnasol i'r ystod gyfan hon o wasanaethau a reoleiddir, ac rwy'n eu cymeradwyo i'r Aelodau ac yn edrych ymlaen at eu cyfraniadau heddiw.
Diolch yn fawr iawn ichi am y cyfraniad agoriadol yna, Weinidog. Mae gen i lawer o gwestiynau ynghylch hyn. Nid oeddwn i mewn gwirionedd yn ymwneud â'r ddwy Ddeddf y cyfeirir atyn nhw yn hyn pan gawson nhw eu pasio, felly maddeuwch imi am ddweud fy mod i'n credu bod rhai o'r Rheoliadau hyn wedi'u defnyddio fel cyfle i ddatblygu polisi yn hytrach na'i roi ar waith—a dyna pam mae mor bwysig ein bod yn cael y cyfle yn y lle hwn drwy'r weithdrefn gadarnhaol i graffu ar y rheoliadau. Un o'r pethau yr oeddwn i'n dymuno ei ddweud ar y cychwyn, mewn gwirionedd, yw ei bod yn bleser o'r mwyaf i weld bod rhai o'r rheoliadau hyn yn egluro i bobl sy'n ddarostyngedig i'r rheoliadau hynny sut y dylen nhw gydymffurfio â'r rheoliadau, o ran y dystiolaeth y mae'n rhaid iddyn nhw ei darparu er mwyn cydymffurfio. Rwy'n credu bod hynny wedi'i hepgor mewn peth o'r ddeddfwriaeth gynharach y gwnaethom ei llywio drwy'r lle hwn, ond rwy'n credu bod hyn yn welliant enfawr o ran y pwynt penodol hwnnw.
Mewn ffordd, Gweinidog, rwyf i'n dymuno trin hyn ychydig yn fwy fel datganiad yn hytrach na dadl, felly rwy'n gobeithio y caf i ofyn dim ond ambell i gwestiwn i chi. Y cyntaf yw bod y ddogfen sydd gennym heddiw,—ac mae'n un eithaf swmpus, mae'n rhaid imi ddweud—dim ond yn effeithio ar bedwar math o wasanaeth rheoleiddiedig, fel y'u diffinnir yn Neddf rheoleiddio ac arolygu 2016. Tybed a oes gennych chi unrhyw fwriad o gyflwyno rheoliadau ar wahân ar gyfer y gwasanaethau rheoleiddiedig nad ydynt wedi'u cynnwys y tro hwn. Efallai nad oes eu hangen mewn gwirionedd, ond byddai'n eithaf defnyddiol cael eich barn ar hynny. Ac, wrth nodi'r gofynion hynny yr wyf i wedi'u crybwyll i ddarparu tystiolaeth, yn yr achos hwn ar gyfer safonau da o ofal a chymorth gan ddarparwr gwasanaeth, mae'n rhaid i Weinidogion roi ystyriaeth i les unigolion, fel y gallech ddisgwyl, ac unrhyw safonau penodol a nodir mewn cod a gyflwynwyd o dan Adran 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014—yn amlwg, Deddf wahanol. Ar hyn o bryd, deallaf nad oes unrhyw godau o dan y Ddeddf honno. Nid ydyn nhw wedi'u cyflwyno. Ond, fel y gwyddom gyda safonau ac ad-drefnu ysgolion, roedd bodolaeth a dehongliad y codau yn hollbwysig i gefnogi safbwynt un blaid neu'r llall. Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn i yw pa un a ydych chi'n disgwyl y bydd unrhyw godau yn deillio o Ddeddf 2014, ac os bydd, a fydd y rheoliadau hyn yr ydych yn edrych arnyn nhw heddiw yn cael eu hailystyried er mwyn rhoi sylw i unrhyw beth a allai fod yn y codau hynny yn y dyfodol?
O ran staffio, fe wnaethoch chi sôn eich bod wedi rhoi ystyriaeth i wybodaeth a ddaeth i chi drwy'r ymgynghoriad cyhoeddus. Efallai y byddwch yn cofio yn arbennig, bod rhywfaint o bryder—codais y mater hwn gyda'ch rhagflaenydd, mewn gwirionedd—ynghylch cael gwared ar y gofyniad am ofal nyrsio 24 awr mewn rhai cartrefi, er gwaethaf y ffaith bod disgwyliadau gan y bobl yn y cartrefi hynny mai dyna beth y bydden nhw'n ei gael, ac yn wir, mewn rhai achosion, rhwymedigaethau cytundebol i ddarparu hynny. A wnewch chi ddweud wrthyf pa mor agored i erlyn fyddai'r unigolyn cyfrifol o dan y Rheoliadau hyn mewn sefyllfa pan fyddai angen annisgwyl am ofal nyrsio ar rywun nad yw mewn gwirionedd wedi'i asesu fel bod angen gofal nyrsio parhaus—naill ai am y rheswm hwnnw, neu oherwydd y nodwyd bod angen nyrs ond nad oes un ar gael am ryw reswm, neu pa un a oes prinder staff dros dro, yn hytrach nag anwybyddu'r rheolau yn fwriadol? Oherwydd mae'n rhaid i gefnogi unigolion cyfrifol a allai ganfod eu hunain yn y sefyllfa hon. Rwy'n ddigon hapus i dderbyn atebion ysgrifenedig i'r rhain, oherwydd fy mod i'n gwerthfawrogi bod rhai ohonyn nhw'n eithaf manwl.
O ran contractau dim oriau, rwy'n falch iawn o weld bod sôn am hynny yn y Rheoliadau yma, er, fel y dywedais, mae hyn mewn gwirionedd yn teimlo fel datblygiad polisi yn ogystal â rhoi rhywfaint o eglurder i'r sefyllfa. Rwy'n dymuno gofyn i chi ar y mater hwn: mewn achos pan allai gweithiwr gofal ar gontract dim oriau ddewis mynd ar gontract, pe byddem ni'n edrych ar y dewis cyntaf o gontract, sy'n seiliedig ar y nifer cyfartalog o oriau a weithiwyd yn y misoedd blaenorol, a ydych chi wedi cynnal asesiad o'r perygl y bydd darparwyr gofal yn lleihau yn artiffisial faint o amser y mae gweithiwr gofal wedi ei weithio yn ystod y tri mis blaenorol er mwyn lleihau yn artiffisial y nifer cyfartalog o oriau y mae'n eu gweithio ar gyfer contract newydd? Ac, mewn achos o gontract a fyddai am lai o oriau na'r cyfartaledd hwnnw, sydd hefyd yn ddewis sydd ar gael i weithiwr gofal, beth fyddai'r budd i'r bobl sy'n derbyn gofal yn yr amgylchiadau hynny? Oherwydd mae'n bosibl y gallai ddewis contract ar ffurf 'Rhowch i mi ddwy awr yr wythnos', a fyddai, mwy na thebyg, mewn rhai achosion, hyd yn oed yn lleihau dilyniant y gofal ar gyfer rhai o'r bobl sy'n derbyn gofal. Fel y dywedais, efallai nad oes gennych chi atebion ar gyfer y rhain heddiw, ond rwy'n wirioneddol awyddus i wybod sut y mae hynny'n cael ei ystyried.
Yna yn olaf—ydw i'n cael dweud 'yn olaf'? Y tynnu llinell rhwng amser teithio ac amser gofalu—rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth yr ydym ni i gyd yn cydnabod bod angen edrych arno, ac rwy'n croesawu, mewn gwirionedd, yr hyn yr ydych chi wedi ei wneud yn hyn o beth. Mae Paragraff 41(3)(b) mewn gwirionedd yn ceisio ateb rhai o'm cwestiynau ynglŷn â hyn, ond mewn sefyllfa pan fo darparwr gofal wedi asesu'r amser teithio ar gyfer unigolyn penodol a bod hynny yn profi i fod yn annigonol yn y pen draw, a oes hawl gan y gweithiwr gofal hwnnw i fynd yn ôl at y darparwr gwasanaeth a mynnu ei fod yn edrych eto ar y cyfnod hwnnw o amser sydd wedi'i asesu? Nid oeddwn i'n gallu dod o hyd i hynny yn y rheoliadau. Rwy'n gobeithio bod rhywbeth. Diolch yn fawr iawn, Lywydd.
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl. Huw Irranca-Davies.
Diolch. [Torri ar draws.] Gwnaf. Gwnaf i fy ngorau i ateb cyfres o gwestiynau, ond a gaf i'n gyntaf ddiolch i chi, Suzy, am y croeso bras yr ydych chi wedi'i roi i'r manylion yn y rheoliadau hyn, a hefyd i'r eglurder y mae'r rheoliadau yn ei roi i ddarparwyr? Rwy'n credu bod rhywfaint o'r eglurder hwnnw wedi deillio, mae'n rhaid i mi gydnabod, o'r craffu ar y rheoliadau ar eu hynt i'r pwynt hwn, gan gynnwys o dan y Bil blaenorol gan Aelodau'r Cynulliad, ond hefyd y gwaith a wnaethpwyd gan fy nghyn gyd-Aelod y Gweinidog ar fy chwith, hefyd. Bu llawer o ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac rwy'n credu bod hynny wedi llywio'r cynnydd i gyflawni'r lefel hon o fanylder. Mewn rhai ffyrdd, er y bu'r pwyslais ar y gwelliant parhaus hwnnw a gwella safonau'r gwasanaeth a'r gweithlu, bu pwyslais hefyd ar atebion ymarferol a fydd yn gweithio, hefyd, gyda'r sector. Felly, rwy'n credu ein bod ni wedi cyrraedd man eithaf da.
Gadewch imi geisio troi at rai o'r materion y cyfeiriodd hi atyn nhw. Yn gyntaf, un o'r materion a oedd yn eithaf diddorol o ran yr ymgynghoriad a'r adborth ehangach oedd yr union bwynt hwnnw am lety neu wasanaethau eraill nad ydyn nhw wedi'u cynnwys yng nghwmpas y gyfres gyfredol o reoliadau. Wel, mae cwmpas mewn gwirionedd o fewn y Ddeddf i ailystyried hynny. Felly, er enghraifft, un o'r rhai a grybwyllwyd yn flaenorol yw'r mater o ganolfannau dydd. Nawr, ceir gwahanol fathau o ganolfannau dydd. Mae yna ganolfannau dydd a all weithredu bron fel clwb cinio—cyrraedd am awr neu ddwy a chyfrwng gwych i ymgysylltu'n gymdeithasol a phethau ehangach. Ceir eraill sydd, i bob pwrpas, ar gyfer pobl sy'n mynychu am ddau neu dri diwrnod yr wythnos am gyfnod helaeth o amser. Nawr, nid yw'r rhai hynny wedi'u cynnwys, ar sail yr adborth yr ydym ni wedi'i gael, ar hyn o bryd, ond mae'r Ddeddf yn caniatáu'r hyblygrwydd hwnnw i ailystyried ac adolygu, wrth i amser fynd heibio, gwasanaethau eraill y gellid ystyried eu bod o fewn y ddarpariaeth gofal yn gyffredinol yn hynny o beth.
O ran y codau y gwnaethoch chi sôn amdanynt, gallaf ddweud wrthych fod y codau sy'n berthnasol i'r meysydd hynny wedi, mewn gwirionedd eu cyhoeddi eisoes yn deillio o Ddeddf 2014, ond byddaf i'n hapus i ysgrifennu i roi rhagor o fanylion am hynny. [Torri ar draws.] A, iawn, iawn. Wel, felly, i egluro, byddaf i'n hapus i ysgrifennu i egluro hynny, Suzy, os ydych chi'n cael rhywfaint o wybodaeth wahanol yn y fan yna.
O ran y dull gweithredu, pa un ai o ran y gofynion nyrsio—sydd, gyda llaw, yn canolbwyntio'n helaeth iawn ar ganlyniadau unigolion erbyn hyn; mae'n canolbwyntio yn helaeth iawn ar y person, yn hytrach na bod yn fwy rhagnodol, normadol mewn unrhyw ffordd sy'n dweud bod yn rhaid i chi gael hyn a hyn o nyrsys i hyn a hyn o bobl, ac ati. Mae hyn yn ymwneud llawer yn fwy â—mae yna ofyniad yma ar y rheolwyr a'r unigolion cyfrifol sy'n goruchwylio rheolwyr y gwasanaethau unigol hynny i wneud yn siŵr bod anghenion y bobl unigol hynny ym mhob gwasanaeth unigol wedi eu hystyried, ac os oes angen presenoldeb nyrsio llawn amser ar un neu ddau, neu beth bynnag, bydd hynny'n cael ei ddarparu.
Y cwestiwn a godwyd gennych chi oedd, 'Beth sy'n digwydd os oes methiant yn hynny?' Dyma yn union lle y byddai'r rheoleiddiwr yn mynd ati i weithredu, ond gan ddefnyddio, mae'n rhaid imi ddweud, dull cymesur, oherwydd os oedd yn rhan o batrwm clir a bwriadol, rwy'n amau y byddai'r rheoleiddiwr yn gweithredu mewn modd gwahanol iawn i rywbeth a ddigwyddodd dros dro, mewn argyfwng, pan oedd proses yn cael ei defnyddio er mwyn llenwi'r bwlch hwnnw'n gyflym. Felly, byddai dull cymesur yn cael ei ddefnyddio, rwy'n credu, gan y rheoleiddiwr.
Fe wnaethoch chi gyfeirio hefyd at y mater o amser teithio a'r swyddogaeth o ran hynny o beth hefyd, yr eglurder a roddir i hyn bellach a'r rheoleiddiwr. Unwaith eto, mae goruchwyliaeth y—. Yr hyn nad ydym ni wedi'i wneud yma, yn fwriadol ar sail yr ymgynghoriad, yw dilyn, unwaith eto, ffordd rhy ragnodol sy'n dweud wrth ddarparwr, 'Mae'n rhaid i chi ddilyn y model hwn yn union i gyfrifo eich amser teithio a'ch amser gofal'. Yr hyn yr ydym ni wedi ei ddweud yw, 'Mae'n rhaid bod gennych, yn ôl y Rheoliadau hyn, gynllun ar waith, mae'n rhaid bod gennych chi ddull wedi'i gynllunio o lunio rota i'ch staff'. Rydym yn cydnabod y bydd yn amrywio mewn gwahanol leoliadau a gwahanol fathau o wasanaeth a ddarperir, ond rydym ni eisiau gweld hynny, a bydd y rheoleiddiwr eisiau gweld hynny. Ac os nad yw hynny ar waith, mae gan y rheoleiddiwr y gallu yn y fan yma i gamu i mewn, mewn gwirionedd, ac os nad oes model priodol ar waith, ni fydd y rheoleiddiwr yn fodlon â hynny, ac mae ganddo bwerau yn hyn o beth.
Felly, mae gofyniad yma ar reolwr y gwasanaeth hwnnw, ond hefyd ar yr unigolyn cyfrifol hwnnw, i wneud yn siŵr bod y cynlluniau hynny ar waith a bod amser teithio ac amser gofal yn cael eu gwahanu. Ar hyn o bryd, fel y gwyddom, yn anffodus, yr hyn sydd gennym weithiau—nid yr holl ddarparwyr, oherwydd bod arferion da iawn ar waith—ond mae rhai yn mynd â gormod o amser ei gilydd, ac nid yw hynny o reidrwydd yn dda i ofal yr unigolyn, ond nid yw'n ffordd dda ychwaith ar gyfer ymdeimlad y staff eu hunain o'u gwerth yn eu proffesiwn. Rhan allweddol o fy null gweithredu i yw gwneud yn siŵr ein bod—mae rhan o'r rheoliadau yn gwneud hyn, pa un a yw'n hyn neu'r agwedd yr ydym yn ei chymryd tuag at gontractau dim oriau o fewn hyn—gan ddweud wrth y proffesiwn mewn gwirionedd 'Rydym yn gwerthfawrogi'r proffesiwn hwn, rydym ni eisiau eich gweld yn cael eich dyrchafu.'
Os oes unrhyw beth o ran y codau y mae angen imi ysgrifennu atoch i'w egluro, byddaf i'n hapus i wneud hynny. A oedd unrhyw agweddau eraill? Rwy'n credu fy mod i wedi ymdrin â—
Nid wyf yn credu bod amser gennym.
—pob un o'ch pwyntiau. Wel, diolch yn fawr iawn am y cyfraniadau hynny. Byddaf yn ysgrifennu i egluro'r hyn sydd wedi digwydd o ganlyniad i Ddeddf 2014 o ran cyhoeddi codau. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.