Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Diolch yn fawr iawn ichi am y cyfraniad agoriadol yna, Weinidog. Mae gen i lawer o gwestiynau ynghylch hyn. Nid oeddwn i mewn gwirionedd yn ymwneud â'r ddwy Ddeddf y cyfeirir atyn nhw yn hyn pan gawson nhw eu pasio, felly maddeuwch imi am ddweud fy mod i'n credu bod rhai o'r Rheoliadau hyn wedi'u defnyddio fel cyfle i ddatblygu polisi yn hytrach na'i roi ar waith—a dyna pam mae mor bwysig ein bod yn cael y cyfle yn y lle hwn drwy'r weithdrefn gadarnhaol i graffu ar y rheoliadau. Un o'r pethau yr oeddwn i'n dymuno ei ddweud ar y cychwyn, mewn gwirionedd, yw ei bod yn bleser o'r mwyaf i weld bod rhai o'r rheoliadau hyn yn egluro i bobl sy'n ddarostyngedig i'r rheoliadau hynny sut y dylen nhw gydymffurfio â'r rheoliadau, o ran y dystiolaeth y mae'n rhaid iddyn nhw ei darparu er mwyn cydymffurfio. Rwy'n credu bod hynny wedi'i hepgor mewn peth o'r ddeddfwriaeth gynharach y gwnaethom ei llywio drwy'r lle hwn, ond rwy'n credu bod hyn yn welliant enfawr o ran y pwynt penodol hwnnw.
Mewn ffordd, Gweinidog, rwyf i'n dymuno trin hyn ychydig yn fwy fel datganiad yn hytrach na dadl, felly rwy'n gobeithio y caf i ofyn dim ond ambell i gwestiwn i chi. Y cyntaf yw bod y ddogfen sydd gennym heddiw,—ac mae'n un eithaf swmpus, mae'n rhaid imi ddweud—dim ond yn effeithio ar bedwar math o wasanaeth rheoleiddiedig, fel y'u diffinnir yn Neddf rheoleiddio ac arolygu 2016. Tybed a oes gennych chi unrhyw fwriad o gyflwyno rheoliadau ar wahân ar gyfer y gwasanaethau rheoleiddiedig nad ydynt wedi'u cynnwys y tro hwn. Efallai nad oes eu hangen mewn gwirionedd, ond byddai'n eithaf defnyddiol cael eich barn ar hynny. Ac, wrth nodi'r gofynion hynny yr wyf i wedi'u crybwyll i ddarparu tystiolaeth, yn yr achos hwn ar gyfer safonau da o ofal a chymorth gan ddarparwr gwasanaeth, mae'n rhaid i Weinidogion roi ystyriaeth i les unigolion, fel y gallech ddisgwyl, ac unrhyw safonau penodol a nodir mewn cod a gyflwynwyd o dan Adran 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014—yn amlwg, Deddf wahanol. Ar hyn o bryd, deallaf nad oes unrhyw godau o dan y Ddeddf honno. Nid ydyn nhw wedi'u cyflwyno. Ond, fel y gwyddom gyda safonau ac ad-drefnu ysgolion, roedd bodolaeth a dehongliad y codau yn hollbwysig i gefnogi safbwynt un blaid neu'r llall. Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn i yw pa un a ydych chi'n disgwyl y bydd unrhyw godau yn deillio o Ddeddf 2014, ac os bydd, a fydd y rheoliadau hyn yr ydych yn edrych arnyn nhw heddiw yn cael eu hailystyried er mwyn rhoi sylw i unrhyw beth a allai fod yn y codau hynny yn y dyfodol?
O ran staffio, fe wnaethoch chi sôn eich bod wedi rhoi ystyriaeth i wybodaeth a ddaeth i chi drwy'r ymgynghoriad cyhoeddus. Efallai y byddwch yn cofio yn arbennig, bod rhywfaint o bryder—codais y mater hwn gyda'ch rhagflaenydd, mewn gwirionedd—ynghylch cael gwared ar y gofyniad am ofal nyrsio 24 awr mewn rhai cartrefi, er gwaethaf y ffaith bod disgwyliadau gan y bobl yn y cartrefi hynny mai dyna beth y bydden nhw'n ei gael, ac yn wir, mewn rhai achosion, rhwymedigaethau cytundebol i ddarparu hynny. A wnewch chi ddweud wrthyf pa mor agored i erlyn fyddai'r unigolyn cyfrifol o dan y Rheoliadau hyn mewn sefyllfa pan fyddai angen annisgwyl am ofal nyrsio ar rywun nad yw mewn gwirionedd wedi'i asesu fel bod angen gofal nyrsio parhaus—naill ai am y rheswm hwnnw, neu oherwydd y nodwyd bod angen nyrs ond nad oes un ar gael am ryw reswm, neu pa un a oes prinder staff dros dro, yn hytrach nag anwybyddu'r rheolau yn fwriadol? Oherwydd mae'n rhaid i gefnogi unigolion cyfrifol a allai ganfod eu hunain yn y sefyllfa hon. Rwy'n ddigon hapus i dderbyn atebion ysgrifenedig i'r rhain, oherwydd fy mod i'n gwerthfawrogi bod rhai ohonyn nhw'n eithaf manwl.
O ran contractau dim oriau, rwy'n falch iawn o weld bod sôn am hynny yn y Rheoliadau yma, er, fel y dywedais, mae hyn mewn gwirionedd yn teimlo fel datblygiad polisi yn ogystal â rhoi rhywfaint o eglurder i'r sefyllfa. Rwy'n dymuno gofyn i chi ar y mater hwn: mewn achos pan allai gweithiwr gofal ar gontract dim oriau ddewis mynd ar gontract, pe byddem ni'n edrych ar y dewis cyntaf o gontract, sy'n seiliedig ar y nifer cyfartalog o oriau a weithiwyd yn y misoedd blaenorol, a ydych chi wedi cynnal asesiad o'r perygl y bydd darparwyr gofal yn lleihau yn artiffisial faint o amser y mae gweithiwr gofal wedi ei weithio yn ystod y tri mis blaenorol er mwyn lleihau yn artiffisial y nifer cyfartalog o oriau y mae'n eu gweithio ar gyfer contract newydd? Ac, mewn achos o gontract a fyddai am lai o oriau na'r cyfartaledd hwnnw, sydd hefyd yn ddewis sydd ar gael i weithiwr gofal, beth fyddai'r budd i'r bobl sy'n derbyn gofal yn yr amgylchiadau hynny? Oherwydd mae'n bosibl y gallai ddewis contract ar ffurf 'Rhowch i mi ddwy awr yr wythnos', a fyddai, mwy na thebyg, mewn rhai achosion, hyd yn oed yn lleihau dilyniant y gofal ar gyfer rhai o'r bobl sy'n derbyn gofal. Fel y dywedais, efallai nad oes gennych chi atebion ar gyfer y rhain heddiw, ond rwy'n wirioneddol awyddus i wybod sut y mae hynny'n cael ei ystyried.
Yna yn olaf—ydw i'n cael dweud 'yn olaf'? Y tynnu llinell rhwng amser teithio ac amser gofalu—rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth yr ydym ni i gyd yn cydnabod bod angen edrych arno, ac rwy'n croesawu, mewn gwirionedd, yr hyn yr ydych chi wedi ei wneud yn hyn o beth. Mae Paragraff 41(3)(b) mewn gwirionedd yn ceisio ateb rhai o'm cwestiynau ynglŷn â hyn, ond mewn sefyllfa pan fo darparwr gofal wedi asesu'r amser teithio ar gyfer unigolyn penodol a bod hynny yn profi i fod yn annigonol yn y pen draw, a oes hawl gan y gweithiwr gofal hwnnw i fynd yn ôl at y darparwr gwasanaeth a mynnu ei fod yn edrych eto ar y cyfnod hwnnw o amser sydd wedi'i asesu? Nid oeddwn i'n gallu dod o hyd i hynny yn y rheoliadau. Rwy'n gobeithio bod rhywbeth. Diolch yn fawr iawn, Lywydd.