Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad agoriadol heddiw yn y ddadl bwysig hon? Rwy'n rhannu ei huchelgais y dylai fod gennym system anghenion dysgu ychwanegol sy'n diwallu anghenion plant a phobl ifanc ledled Cymru, ac sy'n ymdrin â rhai o ddiffygion y system anghenion addysgol arbennig presennol, sydd i'w gweld yn amlwg iawn yn llawer o'r gwaith achos a gawn fel Aelodau Cynulliad. Nid oes yn rhaid imi ddweud fy mod yn credu bod gwelliannau eraill y gellid bod wedi'u gwneud i'r Bil, a dyna pam y cyflwynais i welliannau yng Nghyfnod 3, yn enwedig ynghylch y gwasanaeth iechyd gwladol a'r ffaith nad yw ei system unioni yn cyd-fynd yn llwyr ac yn gynnil â'r system ADY newydd a fydd yn ymddangos o ganlyniad i'r Bil hwn.
Ond wedi dweud hynny, rwy'n credu bod y Bil hwn yn rhywbeth yr ydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn dymuno ei ganmol. Mae'n rhywbeth yr ydym ni'n dymuno ei weld yn cael ei weithredu cyn gynted â phosibl er mwyn i ni fod â'r system honno y mae rhai pobl eisoes yn elwa arni oherwydd y cynlluniau treialu a gychwynnwyd gan ddeiliad blaenorol y portffolio. A hoffwn i dalu teyrnged i ddeiliad blaenorol y portffolio am y modd yr ymgysylltodd ef â'r pwyllgor yn ystod Cyfnodau 1 a 2, a hefyd am y modd y gwnaeth yn siŵr bod rhai o'i swyddogion ar gael ar ein cyfer hefyd o bryd i'w gilydd, a'r trafodaethau a gawsant gyda mi a'm swyddfa i helpu i ddatblygu ein syniadau ni hefyd, o ran y modd o fwrw ymlaen â'r Bil.
Roeddwn i'n falch iawn o weld Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion a gwelliannau yn ymwneud â sicrhau bod confensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn a phersonau anabl yn cael eu hymgorffori ar wyneb y ddeddfwriaeth hon, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y system newydd hon yn gweithredu mor fuan â phosibl. Gwnaethoch chi gyfeirio at y broses graffu a sut y mae honno wedi helpu i wella'r Bil hwn. A gaf i ddweud fy mod i'n falch iawn ag ymateb Llywodraeth Cymru i'r pryderon a godais yn y pwyllgor yng Nghyfnod 2 ynghylch pobl ifanc sy'n cael eu rhoi dan gadwad am resymau iechyd meddwl, a gwneud yn siŵr bod gennym y ddarpariaeth ddigonol ar eu cyfer pe bai gan y bobl ifanc hyn anghenion dysgu ychwanegol hefyd? Ac roeddwn i'n ddiolchgar iawn am yr ymgysylltu a'r sicrwydd yr ydych chi wedi'i roi inni, drwy'r gwelliannau sydd bellach wedi eu gwneud, na fydd eu hanghenion yn cael eu hesgeuluso.
Ac yn olaf, rwyf i ychydig yn siomedig, yn amlwg, y bu'r cyfeiriad at orchymyn Llywodraeth y DU mor hir yn cael ei nodi, ac ond newydd ei godi ar gam mor hwyr. Rwy'n credu bod hyn yn bwrw amheuaeth, mewn gwirionedd, ar sut y mae adrannau yn y fan yma yn gwirio beth sy'n digwydd yn San Steffan a goblygiadau posibl hynny i ni yn y fan hyn yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac yn wir sut y mae'n effeithio ar y pethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud. Gallaf glywed pobl yn rhygnu yn y Siambr ar y sylwadau hynny, ond rwy'n credu o'n trafodaeth ddydd Gwener, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod yn sylweddoli bod hwn yn bwynt y mae angen ei wneud, ac yn wir, eich bod yn rhannu rhai o'r pryderon hynny. Rwy'n credu felly ei bod yn bwysig, pan fo pethau yn digwydd yn San Steffan a allai fod â goblygiadau ar gyfer ein deddfwriaeth ni, ein bod yn codi'r rheini cyn gynted â phosibl. Gallwn ni achub yr un hwn—dyna pam yr ydym ni'n cefnogi Cyfnod 4 heddiw, ac rydym ni'n mawr obeithio y bydd y Bil hwn yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ledled Cymru gyfan.