1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 13 Rhagfyr 2017.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am Gyllid Myfyrwyr Cymru? OAQ51459
Bydd y diwygiadau rydym yn eu rhoi ar waith mewn ymateb i adolygiad Diamond yn darparu system decach, fwy cynaliadwy o gymorth i fyfyrwyr. Rwy'n hyderus y gall y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, sy'n darparu gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru, gyflawni'r newidiadau i'r system cyllid myfyrwyr ar gyfer ein cenedl.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb. A yw'n ymwybodol o'r problemau sydd wedi cael eu creu i fyfyrwyr sy'n dymuno astudio gradd ôl-raddedig yn y gyfraith mewn prifysgolion fel Prifysgol BPP ym Mryste, lle nad yw'r cyrsiau hyn wedi'u dynodi ar gyfer cymorth i fyfyrwyr? Mae myfyrwyr wedi gorfod gohirio'r broses o gofrestru. Mae hyn yn annheg iawn. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi beirniadu Llywodraeth y DU mewn perthynas â Brexit mewn un ystyr, gan ei bod yn ofni y bydd rhaglenni cyfnewid myfyrwyr yn dioddef o ganlyniad i hynny. Os nad eir i'r afael â chanlyniadau arafwch y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr wrth ddynodi cyrsiau addas ym mhrifysgolion Lloegr, byddwn yn wynebu problem debyg yn y Deyrnas Unedig, ac ni fyddai'n iawn o gwbl pe bai myfyrwyr yn methu mynd i'r brifysgol a ddewisant i ddilyn y cwrs y maent yn dymuno'i wneud ac sydd ei angen arnynt ar gyfer eu bywydau proffesiynol yn y dyfodol yn syml am fod y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, i bob pwrpas, yn eu hatal rhag defnyddio'r rhyddid sydd gan bawb arall yng Nghymru.
Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddynodi'r holl gyrsiau a ddarperir gan ddarparwyr amgen cyn y gall myfyrwyr wneud cais am gymorth. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar ddull Llywodraeth Cymru o ddynodi cyrsiau penodol gan ddarparwyr nad ydynt yn cael eu rheoleiddio at ddibenion cyllid cymorth i fyfyrwyr. Rwy'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn y Siambr yn cytuno â mi mai er budd y myfyrwyr y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod unrhyw ddarparwyr sy'n ceisio dynodiad ar gyfer cyrsiau penodol yn gallu bodloni meini prawf penodol sy'n ymwneud, er enghraifft, â safonau ariannol a safonau ansawdd. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y dylai sefydliadau y mae eu cyrsiau'n cael eu dynodi'n awtomatig ddarparu addysg o ansawdd digonol sy'n ariannol hyfyw ac sy'n gwneud cyfraniad sylweddol parhaus i fudd y cyhoedd mewn perthynas â'r system addysg. Rydym wedi ceisio ymdrin ag unrhyw geisiadau ar gyfer dynodi cyrsiau penodol cyn gynted â phosibl, ond nid wyf yn bwriadu cyfyngu ar y trefniadau i ddiogelu'r myfyrwyr a phwrs y wlad yng Nghymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwnaed cyhoeddiad gan Jo Johnson dros y penwythnos ynglŷn â rhai o'r newidiadau y mae'n eu gwneud i gyrsiau prifysgol ac argaeledd cyrsiau dwy flynedd yn y system addysg uwch yn Lloegr. Yn amlwg, mae cyllid myfyrwyr a'r ddyled y mae myfyrwyr yn ei hysgwyddo yn peri cryn bryder i lawer o fyfyrwyr wrth iddynt ystyried eu hopsiynau. A ydych wedi gwneud unrhyw asesiad o hyfywedd cyrsiau gradd dwy flynedd a'r cyfleoedd y byddent yn eu creu i lawer o fyfyrwyr sy'n dymuno'u dilyn drwy sicrhau, efallai, bod y cyrsiau hynny ar gael yma yng Nghymru?
Buaswn yn cytuno, Andrew, fod llawer o fyfyrwyr yn pryderu ynglŷn â sut y byddant yn cynnal eu hunain yn ariannol wrth dreulio cyfnod yn astudio mewn addysg uwch, a dyna pam rydym yn rhoi adolygiad Diamond ar waith i sicrhau bod Cymru yn darparu'r cymorth mwyaf cynhwysfawr i fyfyrwyr, yn enwedig myfyrwyr o gefndir anhraddodiadol na fyddent, efallai, wedi bod ag awydd mynd i'r brifysgol yn y gorffennol. Rwyf wedi nodi'r araith gan Jo Johnson mewn perthynas â graddau dwy flynedd. Ar hyn o bryd, rwy'n ystyried y dystiolaeth ynglŷn ag a yw'r graddau dwy flynedd hynny o ansawdd digon da, a ydynt yn darparu'r dyfnder dysgu sydd ei angen ar fyfyrwyr, yn ogystal â'r goblygiadau o ran cost, gan fod peth tystiolaeth yn awgrymu, mewn perthynas â darparu cyrsiau dros gyfnod o ddwy flynedd, nad ydynt o reidrwydd yn rhatach ac y ceir problemau, weithiau, o ran yr ansawdd, ac ni fuaswn yn awyddus i fwrw ymlaen oni bai fy mod yn gwbl fodlon gyda'r dystiolaeth y byddai newid i raddau dwy flynedd o fudd i fyfyrwyr.