Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 13 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 1:52, 13 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Angela. Ddydd Llun, cyhoeddais ein cynlluniau ar gyfer rhoi Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) ar waith, sydd wrth wraidd ein rhaglen uchelgeisiol i drawsnewid addysg a chymorth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Cynhelir ymgynghoriad ar y cod y flwyddyn nesaf, a bydd ar waith erbyn diwedd 2019.