Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Cam 4 y Bil anghenion dysgu ychwanegol wedi cael ei basio ddoe, a nodais â diddordeb y datganiad a gyhoeddwyd gennych yn gynharach yr wythnos hon ar weithredu'r cod newydd. Fodd bynnag, hoffwn eglurhad ynglŷn â'r cyngor rydych yn ei ddarparu i awdurdodau addysg lleol ynghylch y mesurau dros dro sydd ar waith yn awr gan fod y Bil wedi cael ei basio. Rwyf wedi codi'r mater hwn o'r blaen gyda chyn-Ysgrifenyddion addysg, gan ei bod yn ymddangos yn amlwg i mi nad yw'r awdurdodau'n awyddus i gyhoeddi datganiadau gan fod y system newydd ar y ffordd. O gofio nad yw'r cyfnod gweithredu i fod i gael ei gwblhau tan 2023, pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd cefnogaeth lawn yn parhau dros y blynyddoedd cyfamserol ac na fydd awdurdodau lleol yn cyfyngu ar y cymorth a ddarperir i'r plant hyn sy'n agored iawn i niwed?