Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Cynrychiolir y sector addysg ar fwrdd cysgodol bargen ddinesig bae Abertawe gan brifysgolion. Bydd angen amrywiaeth o sgiliau, a allai, wrth gwrs, gynnwys rhai o'r unigolion rydym yn siarad amdanynt yn y cwestiwn hwn, yn y gweithlu os yw'r fargen am gyrraedd cynifer o gymunedau â phosibl, sy'n codi cwestiwn ynghylch rôl colegau addysg bellach yn y fargen. Mae angen iddynt allu cefnogi uchelgeisiau'r fargen drwy gynllunio eu cyrsiau, wrth gwrs. Ar ran Llywodraeth Cymru, a wnewch chi holi'r bwrdd cysgodol i ganfod sut y gall colegau addysg bellach yn ardal y fargen gyfrannu at yr uchelgeisiau hynny ac elwa ohonynt, ond gyda ffocws penodol ar y rheini nad ydynt yn awyddus ar hyn o bryd i ymgymryd ag addysg bellach neu hyfforddiant, ond lle y gallem weld rhai cyfleoedd gyda'r fargen?