1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 13 Rhagfyr 2017.
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am nifer y bobl ifanc sy'n gadael ysgol nad ydynt yn mynd i mewn i addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Ngorllewin De Cymru? OAQ51456
Wel, ers lansio ein fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid yn 2013, mae canran y bobl ifanc sy’n gadael ysgol nad ydynt yn mynd i mewn i addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Ngorllewin De Cymru wedi gostwng o 4 y cant i 2.3 y cant. Mae ein hymrwymiad ni i’r fframwaith yna yn parhau, a dyna pam rŷm ni wedi buddsoddi £1.1 miliwn yn ychwanegol eleni ac rŷm ni’n dal i gefnogi llywodraeth leol i sicrhau eu bod nhw’n gwneud gwelliannau trwy’r amser yn y maes yma.
Diolch. Byddwch yn ymwybodol fod adroddiad diweddar gan y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol wedi nodi mai Castell-nedd Port Talbot yw'r sir waethaf yng Nghymru o ran symudedd cymdeithasol. Roedd Castell-nedd Port Talbot hefyd ar waelod y rhestr yn benodol o ran nifer y bobl ifanc yn y sir nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, gyda chyfraddau o fwy na theirgwaith a hanner y cyfraddau mewn siroedd eraill yng Nghymru. Felly, o ystyried hynny, a wnewch chi ymrwymo i gyflwyno pecyn cymorth wedi'i dargedu i gynorthwyo Cyngor Castell-nedd Port Talbot a'i bartneriaid i fynd i'r afael â symudedd cymdeithasol yn y sir?
Credaf fod rhai o'r ffigurau hynny yn achos pryder mawr, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod yn canolbwyntio'n benodol ar y meysydd hynny lle y mae angen inni sicrhau y gallwn wella'r sefyllfa. Awgryma'r ymweliadau diweddar gan awdurdodau lleol fod cynnydd da'n cael ei wneud yn gyffredinol o ran pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, ond yr hyn sydd angen inni ei wneud yw sicrhau ein bod yn deall ble mae siroedd yn llwyddo a pham nad yw eraill yn gwneud cystal. Felly, mae rhannu'r wybodaeth werthfawr honno yn gwbl hanfodol, a chredaf y byddai rhannu'r arferion gorau hynny yn dda iawn er mwyn i'r awdurdod lleol ddeall beth yn union y mae siroedd eraill yn ei wneud. Oherwydd, mewn gwirionedd, mae'r cyfraddau diweithdra yng Nghastell-nedd Port Talbot yn isel iawn, felly mae'n ymwneud yn benodol â phobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef.
Cynrychiolir y sector addysg ar fwrdd cysgodol bargen ddinesig bae Abertawe gan brifysgolion. Bydd angen amrywiaeth o sgiliau, a allai, wrth gwrs, gynnwys rhai o'r unigolion rydym yn siarad amdanynt yn y cwestiwn hwn, yn y gweithlu os yw'r fargen am gyrraedd cynifer o gymunedau â phosibl, sy'n codi cwestiwn ynghylch rôl colegau addysg bellach yn y fargen. Mae angen iddynt allu cefnogi uchelgeisiau'r fargen drwy gynllunio eu cyrsiau, wrth gwrs. Ar ran Llywodraeth Cymru, a wnewch chi holi'r bwrdd cysgodol i ganfod sut y gall colegau addysg bellach yn ardal y fargen gyfrannu at yr uchelgeisiau hynny ac elwa ohonynt, ond gyda ffocws penodol ar y rheini nad ydynt yn awyddus ar hyn o bryd i ymgymryd ag addysg bellach neu hyfforddiant, ond lle y gallem weld rhai cyfleoedd gyda'r fargen?
Diolch. Un o'r pethau rwy'n awyddus i'w gwneud yn y cynllun gweithredu cyflogadwyedd yw sicrhau ein bod yn cysylltu â'r dull rhanbarthol newydd hwn. Felly, roedd yr hyn a glywsom ddoe gan Ysgrifennydd yr economi o ran, 'Iawn. Dyma'r flaenoriaeth. Rydym am ranbartholi'—gwyddom fod yna raglen ddatblygu economaidd, ac wrth gwrs, mae'n rhaid i'r sgiliau gyd-fynd â'r rhaglen honno. Felly, gwn fod y cyrff addysg bellach yn ymwneud â'r bargeinion dinesig eisoes, ond mae angen inni sicrhau eu bod yn darparu'r sgiliau cywir ar gyfer y mathau o ddatblygiadau economaidd rydym yn ceisio eu cyflawni gyda'r bargeinion hynny.