Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Diolch. Un o'r pethau rwy'n awyddus i'w gwneud yn y cynllun gweithredu cyflogadwyedd yw sicrhau ein bod yn cysylltu â'r dull rhanbarthol newydd hwn. Felly, roedd yr hyn a glywsom ddoe gan Ysgrifennydd yr economi o ran, 'Iawn. Dyma'r flaenoriaeth. Rydym am ranbartholi'—gwyddom fod yna raglen ddatblygu economaidd, ac wrth gwrs, mae'n rhaid i'r sgiliau gyd-fynd â'r rhaglen honno. Felly, gwn fod y cyrff addysg bellach yn ymwneud â'r bargeinion dinesig eisoes, ond mae angen inni sicrhau eu bod yn darparu'r sgiliau cywir ar gyfer y mathau o ddatblygiadau economaidd rydym yn ceisio eu cyflawni gyda'r bargeinion hynny.