Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Diolch. Byddwch yn ymwybodol fod adroddiad diweddar gan y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol wedi nodi mai Castell-nedd Port Talbot yw'r sir waethaf yng Nghymru o ran symudedd cymdeithasol. Roedd Castell-nedd Port Talbot hefyd ar waelod y rhestr yn benodol o ran nifer y bobl ifanc yn y sir nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, gyda chyfraddau o fwy na theirgwaith a hanner y cyfraddau mewn siroedd eraill yng Nghymru. Felly, o ystyried hynny, a wnewch chi ymrwymo i gyflwyno pecyn cymorth wedi'i dargedu i gynorthwyo Cyngor Castell-nedd Port Talbot a'i bartneriaid i fynd i'r afael â symudedd cymdeithasol yn y sir?