Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Wel, ers lansio ein fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid yn 2013, mae canran y bobl ifanc sy’n gadael ysgol nad ydynt yn mynd i mewn i addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Ngorllewin De Cymru wedi gostwng o 4 y cant i 2.3 y cant. Mae ein hymrwymiad ni i’r fframwaith yna yn parhau, a dyna pam rŷm ni wedi buddsoddi £1.1 miliwn yn ychwanegol eleni ac rŷm ni’n dal i gefnogi llywodraeth leol i sicrhau eu bod nhw’n gwneud gwelliannau trwy’r amser yn y maes yma.