Part of the debate – Senedd Cymru am 5:58 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Rwy'n gobeithio dangos pwysigrwydd y diwydiant adeiladu, pwysigrwydd prentisiaethau a chael gweithlu adeiladu medrus, pwysigrwydd cefnogi a thyfu cwmnïau adeiladu yng Nghymru a hefyd, pwysigrwydd prosiectau mawr fel y morlyn llanw yn Abertawe. Pe bawn wedi bod yn gwneud yr araith hon ddwy flynedd yn ôl, y peth trist yw y buaswn yn dal i fod wedi dweud 'pwysigrwydd prosiectau mawr fel y morlyn llanw yn Abertawe' y pryd hwnnw hefyd. Credaf mai un o'r pethau tristaf yw bod gennym lawer o brosiectau mawr iawn yng Nghymru sydd i'w gweld yn cymryd llawer gormod o amser i ddigwydd.
Arferai cydweithiwr i mi ar y cyngor sir ddweud mai llwyddiant yw cael llawer o graeniau ar y gorwel. Yr hyn a olygai oedd bod yr economi'n ffynnu pan fo adeiladu'n ffynnu. Mae gennyf ddiddordeb yn y cwmnïau adeiladu lleol ac ymwelais â Dawnus, Hygrove ac RDM Electricals, ymhlith eraill, yn ystod y misoedd diwethaf. Er bod gennym nifer fawr o gwmnïau adeiladu bach a chanolig eu maint gyda llawer ohonynt yn is-gontractio ar brosiectau mawr, un o'n gwendidau yng Nghymru yw mai'r hyn sy'n brin gennym ar hyn o bryd yw cwmnïau adeiladu mawr. Yr hyn sydd angen i ni ei wneud dros ein heconomi yw tyfu rhai o'r cwmnïau adeiladu canolig eu maint hyn yn gwmnïau adeiladu mawr.
Mae adeiladu yn hynod o bwysig. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos, ym Mhrydain, fod dros 2 filiwn o bobl yn gweithio yn y diwydiant adeiladu. Yng Nghymru, mae yna dros 90,000, sef bron un o bob pump o'r gweithlu. Rhagwelir y bydd y diwydiant adeiladu yng Nghymru yn tyfu'n gyflym—yn gyflymach nag unman arall ym Mhrydain hyd at 2020. Yn ôl gwaith ymchwil manwl gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, rhagwelir y bydd y sector yng Nghymru yn cael cyfradd dwf gyfartalog flynyddol o 7.1 y cant mewn allbwn, o gymharu â 2.5 y cant ar gyfer gweddill y DU rhwng 2016 a 2020. Yn ystod y cyfnod hwn disgwylir y bydd nifer y rhai a gyflogir yn y sector yn codi dros 120,000. Rhagwelir mai Llundain, de-orllewin a gogledd-orllewin Lloegr yn unig a fydd yn gweld mwy o gynnydd na hynny. Mae cyflogaeth yn y sector adeiladu yn debygol o gyrraedd ei uchafbwynt yn 2008 yn ystod y flwyddyn nesaf a rhagori arno o 5 y cant erbyn 2020 yn ôl adroddiad rhagolwg y Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu mewn cydweithrediad ag Experian ar gyfer 2016-2020.