Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Rwyf am ddweud hyn: adolygiad Hendry, y credai llawer ohonom sy'n besimistaidd ei fod yn ei wthio i'r naill ochr, yw'r mwyaf cadarnhaol a glywais erioed. Rwy'n dyfynnu:
'mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir, yn fy marn i, bod môr-lynnoedd llanw yn gallu bod yn rhan gost-effeithiol o gymysgedd ynni'r Deyrnas Unedig.'
Yn y pen draw, mae Llywodraeth y DU yn wynebu
'[p]enderfyniad strategol, gymaint ag y mae'n benderfyniad economaidd.'
Mae symud ymlaen gyda morlyn braenaru ym mae Abertawe, mor fuan ag sy'n ymarferol yn rhesymol yn 'bolisi diedifar.'
Credaf y gallwn gymryd na fyddai Calder Hall, Windscale neu Sellafield erioed wedi cael eu hadeiladu pe bai'r un rheolau'n bodoli yn y 1950au ag sy'n bodoli yn awr. Rydym wedi cael newidiadau technolegol—mae rhai wedi gweithio ac mae rhai heb weithio. Mae llawer o bobl yn cofio'r dadleuon dros Betamax yn erbyn VHS—mae honno'n hen ddadl sydd wedi diflannu—a hofranlongau oedd cerbyd y dyfodol yn mynd i fod. Ond rhaid i chi roi cynnig arni, oherwydd mae rhai o'r pethau hyn wedi gweithio mewn gwirionedd. Credaf ei bod hi'n wirioneddol bwysig ein bod yn rhoi cynnig arni. Ni all wneud unrhyw niwed. Ar y gwaethaf, yr hyn fydd gennych yn y pen draw fydd amddiffyniad rhag llifogydd yn Abertawe.
Mae'n fuddsoddiad cyfalaf o £1.3 biliwn; maent yn targedu 50 y cant o'r gwariant yng Nghymru; allbwn pŵer net dibynadwy o dros 530 GWh, digon i ddiwallu galw 90 y cant o'r cartrefi ym mae Abertawe am drydan blynyddol am 120 o flynyddoedd; gwaith uniongyrchol i dros 2,000 o bobl yn y diwydiant adeiladu; £316 miliwn o werth ychwanegol gros drwy adeiladu; yr allwedd yw buddsoddi mewn tri chyfleuster gweithgynhyrchu newydd yng Nghymru—un ar gyfer peiriannu a gwaith gosod y tyrbinau ymlaen llaw, un ar gyfer cynhyrchu cydrannau dur trwm, ac un ar gyfer castio cydrannau concrid ymlaen llaw; proses 12 mis o symud i'r cam negodi terfynol gyda Llywodraeth y DU i ddechrau adeiladu. Nid yw'n ymwneud â swyddi adeiladu yn unig, sy'n dda iawn ynddynt eu hunain, ond y ffaith y byddwch yn creu diwydiant newydd. Rwy'n teimlo ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cael y morlyn llanw ar gyfer Abertawe. Efallai y gallaf ddefnyddio'r term y mae pobl yn aml yn ei ddefnyddio pan fydd datblygiadau'n digwydd mewn rhannau eraill o Gymru: bydd yn dda i Gymru. Efallai na fydd pobl yn y Rhyl yn siarad amdano, ond mae'n mynd i fynd i fyny i Fae Colwyn a'r Rhyl, mae'n mynd i fynd i bob cwr o Gymru. Rydym yn braenaru, bydd gweddill Cymru'n dilyn.
Tai yw bara menyn y diwydiant adeiladu. Mae wedi newid llawer yn y 50 mlynedd diwethaf, nid o reidrwydd er gwell i gyd. Cafwyd cynnydd mawr mewn eiddo gwag, ac mae hynny'n anffodus. Unwaith eto, rwy'n rhoi clod i'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn eu dull deublyg o roi benthyciadau i bobl ddod ag eiddo yn ôl i ddefnydd, a hefyd y cyfle i gynyddu'r dreth gyngor ar eiddo gwag. Mae yna bobl sy'n gadael eiddo'n wag, eiddo braf iawn yn aml, am eu rhesymau eu hunain, ond mae'n cyfyngu ar faint o dai sydd ar gael yn y gymuned. Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr aelwydydd un person a'r nifer o aelwydydd pensiynwyr. Rydym wedi gweld newid yn ôl i rentu'n breifat. Mae lefelau tai cyngor wedi gostwng. Cafwyd twf sylweddol mewn cymdeithasau tai. Bellach, mae'r sector rhentu preifat wedi cynyddu'n enfawr er ei bod yn ymddangos ei fod bron â diflannu yn y 1960au a'r 1970au—ar wahân i fyfyrwyr.
Mae gwaith adeiladu'n bwysig. Mae angen inni adeiladu tai. Mae angen inni adeiladu tai ar gyfer pobl. Rydym newydd gael dadl ar dai, ac nid oeddwn yn gwybod ei bod hi'n mynd i ddigwydd pan gyflwynais y ddadl hon. Mae'n ymwneud ag adeiladu tai ac adeiladu ystadau newydd. Pa fath o dai y mae pobl eu heisiau? Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn hynod uchelgeisiol. Byddent yn eithaf hapus, fel fi, i fyw mewn tŷ pâr tair ystafell wely, pa un a yw'n cael ei ddarparu gan gymdeithas dai, y cyngor, neu pa un a ydym yn berchen arno ein hunain. Dyna beth y maent ei eisiau—cael hynny wedi ei wneud mewn gwirionedd. A gaf fi ddweud pa mor hapus wyf fi ynghylch datblygiad Hygrove ar hen safle bysiau Morris Brothers yn Abertawe? Mae'n adeiladu dros 200 o dai, mae 20 ohonynt ar gyfer y gymdeithas dai, a'r gweddill i'w gwerthu. Mae'n ddatblygiad sydd wedi dod â safle tir llwyd yn ôl i ddefnydd. Mae'n cynhyrchu tai o ansawdd da. Sut y gwn eu bod yn gartrefi o ansawdd da? Oherwydd maent wedi cynhyrchu tua 60 neu 70 bellach ac nid oes arwydd 'ar werth' wrth unrhyw un ohonynt. Nid ydych yn gweld hynny'n aml mewn ystadau newydd.