Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd wrth ddelio â galwadau lle y ceir bygythiad uniongyrchol i fywyd, ond heb fod mor dda mewn perthynas â galwadau ambr. Y mis diwethaf, arhosodd dros 35 y cant o alwadau ambr dros hanner awr am ymateb ym Mhrifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Roedd yr amser aros hiraf yng Nghymru yn 23 awr, ac mae hynny'n syfrdanol. O gofio bod pobl y tybir eu bod wedi cael strôc yn cael eu categoreiddio fel galwadau ambr, ac y gall y cleifion hyn aros hyd at 10 awr, gallai hyn amharu ar eu hadferiad. Roedd y model ymateb newydd i fod i hidlo galwadau nad oedd arnynt angen ymateb golau glas er mwyn rhyddhau adnoddau i ymateb i'r galwadau a oedd eu hangen. Ysgrifennydd y Cabinet, beth yn fwy y gall eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau nad yw cleifion yng Nghymru yn aros hyd at ddiwrnod am ambiwlans?