Amseroedd Ymateb Ambiwlansys yng Ngorllewin De Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 13 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:19, 13 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Mae perfformiad y gwasanaeth ambiwlans yn ardal bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi rhagori ar y targed o wyth munud ar gyfer galwadau coch ym mhob un o'r 19 mis diwethaf. Ym mis Hydref, roedd yr amser ymateb arferol ar gyfer galwadau coch ychydig dros bum munud, ac am alwadau ambr, roedd yr amser ymateb arferol yn llai nag 20 munud.