Mewnblaniadau Rhwyll

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 13 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru 2:26, 13 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r rhestr o bobl sydd wedi goroesi mewnblaniadau rhwyll yn tyfu bob dydd, yn ogystal â'r ymgyrch yn erbyn eu defnyddio'n amhriodol. Mae Seland Newydd, i bob pwrpas, wedi rhoi terfyn ar y defnydd o fewnblaniadau rhwyll yn y wain ac mae cwestiynau ynghylch cydsyniad yn cynyddu drwy'r amser. Mae cyrff rhai pobl yn gwrthod y mewnblaniadau rhwyll hyn mewn ffordd boenus iawn, ond yn aml, ni roddir cyfle priodol iddynt wrthod cael y mewnblaniadau rhwyll wedi eu gosod yn y lle cyntaf. O ystyried y nifer cynyddol o bobl sydd wedi goroesi mewnblaniadau rhwyll, mae Lloegr wedi mabwysiadu timau amlddisgyblaethol o arbenigwyr sy'n cynorthwyo cleifion sydd wedi cael problemau gyda'r rhwyll ac yn rhoi cyngor iddynt ynglŷn â thriniaethau. A yw'r timau amlddisgyblaethol hyn yn bodoli yng Nghymru, ac os felly, ymhle? Hoffwn gael ateb i'r cwestiwn hwnnw'n benodol. Felly, a oes timau amlddisgyblaethol yn bodoli yng Nghymru, ac ymhle?