Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Rwy'n fwy na pharod i ymateb. Mae hwn yn fater o gryn bryder cyhoeddus, ac mae hynny'n ddealladwy. Rwy'n llwyr gydnabod bod mewnblaniadau rhwyll wedi arwain at ganlyniadau sydd wedi newid bywydau nifer o bobl. Ac mae'n bwysig cydnabod hynny, fod hon yn broblem go iawn. Mae gennyf ddiddordeb mewn amgyffred union faint yr her a beth y gallem ac y dylem ei wneud amdani.
Rwy'n nodi'r hyn a ddywedasoch ynglŷn â'r ymgyrch yn erbyn eu defnyddio'n amhriodol. Mae rhan o'r her sy'n ein hwynebu, mewn gwirionedd, yn ymwneud â'r ffaith bod rhai pobl yn ymgyrchu dros waharddiad llwyr—gwaharddiad cyffredinol—ac mae eraill yn dweud bod angen inni ddeall sut y gellid neu y dylid defnyddio'r mewnblaniadau, a beth sy'n briodol. Dyna pam fod y cylch gorchwyl a roddais i'r grŵp gorchwyl a gorffen yn ymwneud ag edrych ar arferion presennol, edrych ar arferion hanesyddol, ac yn benodol, roedd un o'r pwyntiau yn ymwneud â chydsyniad ar sail gwybodaeth gyflawn. Oherwydd rwy'n pryderu ynglŷn â llawer o'r straeon gan bobl sydd wedi cael mewnblaniadau rhwyll neu fewnblaniadau tâp sydd wedi mynd o chwith a pha un a gawsant broses o gydsyniad ar sail gwybodaeth gyflawn mewn gwirionedd. Felly, mae'n wirioneddol bwysig deall yr hyn rydym yn ei wneud. Yn ddiddorol, mae gostyngiad sylweddol wedi bod o ran y defnydd o fewnblaniadau rhwyll a thâp yn y triniaethau hyn yng Nghymru.
Yn ôl yr hyn a ddeallaf, oes, mae gennym dimau amlddisgyblaethol ynghlwm wrth bob triniaeth lawfeddygol. Credaf ei bod yn ddefnyddiol ceisio nodi, cyn i bobl gyrraedd y pwynt lle y maent yn cael llawdriniaeth, y dylai pob opsiwn arall am driniaeth fod wedi cael ei ystyried eisoes. Nid yw'n driniaeth gyntaf; golyga hynny bethau fel ffisiotherapi a mathau eraill o therapi yn gyntaf. Ac yn wir, yn y grŵp gorchwyl a gorffen, mae'n grŵp amlddisgyblaethol. Felly, nid llawfeddygon yn unig; mae ffisiotherapyddion ac eraill yn rhan ohono. Dylai'r timau hynny fodoli lle bynnag y bydd y llawdriniaeth yn digwydd. Felly, yn hytrach na gofyn, 'Ble maent?', a cheisio nodi lleoliadau, mae hynny'n dibynnu ar lle y digwyddodd y llawdriniaeth. Mae fy niddordeb i, fodd bynnag, yn ymwneud â'r rheoleiddiwr yn nodi a yw'r rhain yn ddyfeisiau priodol i glinigwyr eu defnyddio ai peidio, ac yna'r cyngor proffesiynol priodol ynglŷn â phryd y gellid ac y dylid eu defnyddio; ac unwaith eto, rôl gwleidyddion yn hyrwyddo tystiolaeth a chyngor clinigol a pheidio ag achub y blaen ar hynny. Felly, mae'n anodd.
Fel rhan o'r gwaith, rwy'n disgwyl cyfarfod â nifer o bobl yr effeithiwyd arnynt. Fel y dywedais, rwy'n disgwyl cael yr adroddiad ym mis Ionawr. Waeth beth fydd yn digwydd yng Nghymru, byddwn yn ystyried canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, sy'n cael eu diwygio, ac rwy'n llwyr fwriadu cyflawni'r ymrwymiad rwyf eisoes wedi'i wneud yn y lle hwn, drwy arweinydd y tŷ, i ddarparu datganiad i'r Aelodau. Felly, nid oes unrhyw amheuaeth y bydd hwn yn parhau i fod yn fater o gryn bwys i bob un ohonom yn y Siambr hon.