Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 13 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 2:36, 13 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am hynny. Credaf ei fod yn bwysig iawn, oherwydd rydych chi fel Llywodraeth wedi cytuno i fodloni cyfres o safonau, a rai blynyddoedd yn ddiweddarach—gadewch i ni fod yn onest, wyth mlynedd yn ddiweddarach—nid yw'r safonau hynny yn agos at fod wedi'u bodloni. Yn hytrach nag 16 o nyrsys amser llawn, dylai fod gennym 30 o'r nyrsys amser llawn hynny mewn gwirionedd. Mae clefyd llid y coluddyn yn gyfres ofnadwy o gyflyrau. Mae'n fwrn ar bobl, mae'n eu gwneud yn sâl iawn ac maent wedi cael trafferth i wybod sut i ymdopi, oherwydd mae'n amlwg iawn—neu maent yn teimlo ei fod yn amlwg iawn—mae'n creu embaras mawr ac mae'n un o'r clefydau nad oes neb byth yn hoffi siarad amdano. Os gallwn edrych ar sut y gallwn hybu cymorth arbenigol ar gyfer y bobl hynny—un nyrs ar gyfer bob 0.25 miliwn o bobl—nid yw'n ymddangos yn ormod i'w ofyn. Buaswn yn ddiolchgar iawn pe baech yn bwrw golwg drylwyr ar hyn ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni, gan fod 2009—roedd hwnnw'n addewid a wnaed amser maith yn ôl.