Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Wrth ymateb, os caf, hoffwn edrych nid yn unig ar nyrsys arbenigol, ond yn fwy cyffredinol ar sut rydym yn helpu pobl i reoli eu cyflwr, i ddeall nid yn unig yr ochr sy'n ymwneud â nyrsio, ond amrywiaeth o faterion eraill, er enghraifft, cymorth deiet a roddwn i bobl. Mae'n gyflwr cymharol gyffredin mewn gwirionedd ac mae nifer o bobl yn dioddef ar wahanol adegau yn eu bywydau, gan gynnwys staff yn ein gwasanaeth iechyd a fydd yn ei reoli. Rydych yn iawn: nid oes llawer o bobl eisiau siarad am y peth, gan eu bod yn teimlo stigma ac embaras ynglŷn â'r cyflwr. Felly, mae'n rhywbeth rwy'n ei gydnabod fel problem i'n gwasanaeth a sut rydym yn diwallu anghenion pobl sydd â'r cyflwr yn briodol. Felly, byddaf yn fwy na pharod i gysylltu â chi mewn perthynas â'r gwasanaeth cyfan, lle rydym arni ar hyn o bryd a beth yw ein disgwyliadau a'n dyheadau ar gyfer y dyfodol.